Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y Bwydoffrwm

1. “ ‘Pan fydd rhywun yn dod â bwydoffrwm i'r ARGLWYDD, bydded ei offrwm o beilliaid ag olew wedi ei dywallt drosto a thus wedi ei roi arno.

2. Y mae i fynd ag ef at feibion Aaron, yr offeiriaid; yna bydd offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r peilliaid a'r olew, ynghyd â'r holl thus, ac yn ei losgi'n gyfran goffa ar yr allor, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

3. Bydd gweddill y bwydoffrwm yn eiddo i Aaron a'i feibion; bydd yn gyfran gwbl sanctaidd o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD.

4. “ ‘Os byddi'n dod â bwydoffrwm wedi ei grasu mewn ffwrn, dylai fod yn deisennau heb furum o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, neu'n fisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew.

5. Os bwydoffrwm wedi ei grasu ar radell fydd dy rodd, dylai fod o beilliaid heb furum wedi ei gymysgu ag olew;

6. tor ef yn ddarnau a thywallt olew drosto; dyma fydd y bwydoffrwm.

7. Os bwydoffrwm wedi ei baratoi mewn padell fydd dy rodd, dylai fod o beilliaid wedi ei wneud ag olew.

8. Byddi'n cyflwyno i'r ARGLWYDD y bwydoffrwm wedi ei wneud o'r pethau hyn, ac yn dod ag ef at yr offeiriad; bydd yntau'n dod ag ef at yr allor.

9. Bydd ef yn cymryd o'r bwydoffrwm y gyfran goffa ac yn ei llosgi ar yr allor yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

10. Bydd gweddill y bwydoffrwm yn eiddo i Aaron a'i feibion; bydd yn gyfran gwbl sanctaidd o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD.

11. “ ‘Ni wneir â lefain unrhyw fwydoffrwm a ddygwch i'r ARGLWYDD, oherwydd nid ydych i losgi unrhyw furum na mêl yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.

12. Gallwch eu cyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm blaenffrwyth, ond nid ydych i'w hoffrymu ar yr allor yn arogl peraidd.

13. Yr wyt i halltu â halen dy holl fwydoffrymau, a pheidio â chadw halen cyfamod dy Dduw o'th fwydoffrymau; yr wyt i roi halen ar dy holl offrymau.

14. “ ‘Os byddi'n dod â bwydoffrwm o'r blaenffrwyth i'r ARGLWYDD, dylai fod yn fwydoffrwm o dywysennau o rawn newydd wedi eu gwasgu a'u crasu yn y tân.

15. Rho olew a thus drosto; dyma fydd y bwydoffrwm.

16. Bydd yr offeiriad yn llosgi'r gyfran goffa o'r grawn ac o'r olew, ynghyd â'r holl thus, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.