Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cosbau am Droseddu

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd unrhyw un o bobl Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn Israel, yn rhoi un o'i blant i Moloch, rhodder ef i farwolaeth. Y mae pobl y wlad i'w labyddio â cherrig.

3. Byddaf fi yn gosod fy wyneb yn erbyn hwnnw ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl, oherwydd trwy roi ei blant i Moloch gwnaeth fy nghysegr yn aflan a halogi fy enw sanctaidd.

4. Os bydd pobl y wlad yn cau eu llygaid ar hwnnw pan fydd yn rhoi un o'i blant i Moloch, ac yn peidio â'i roi i farwolaeth,

5. byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn hwnnw a'i deulu, ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl, a hefyd bawb sy'n ei ddilyn i buteinio ar ôl Moloch.

6. Byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy'n troi at ddewiniaid a swynwyr i buteinio ar eu holau, a byddaf yn ei dorri ymaith o blith ei bobl.

7. Ymgysegrwch a byddwch sanctaidd, oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

8. Yr ydych i gadw fy neddfau a'u gwneud. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eich sancteiddio.

9. “ ‘Os bydd unrhyw un yn melltithio ei dad neu ei fam, y mae i'w roi i farwolaeth. Oherwydd iddo felltithio ei dad neu ei fam, y mae'n gyfrifol am ei waed ei hun.

10. “ ‘Os bydd unrhyw un yn godinebu gyda gwraig ei gymydog, y mae'r godinebwr a'r odinebwraig i'w rhoi i farwolaeth.

11. Os bydd dyn yn gorwedd gyda gwraig ei dad, y mae wedi amharchu ei dad; y mae'r ddau ohonynt i'w rhoi i farwolaeth, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.

12. Os bydd dyn yn gorwedd gyda'i ferch-yng-nghyfraith, y mae'r ddau ohonynt i'w rhoi i farwolaeth; gwnaethant wyrni, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.

13. Os bydd dyn yn gorwedd gyda dyn fel gyda gwraig, y mae'r ddau wedi gwneud ffieidd-dra; y maent i'w rhoi i farwolaeth, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.

14. Os bydd dyn yn priodi gwraig a'i mam, y mae'n gwneud anlladrwydd. Y mae ef a hwythau i'w llosgi yn y tân, rhag i anlladrwydd fod yn eich mysg.

15. Os bydd dyn yn gorwedd gydag anifail, y mae i'w roi i farwolaeth, a rhaid lladd yr anifail.

16. Os bydd gwraig yn dynesu at unrhyw anifail i'w rhoi ei hun iddo, y mae'r wraig a'r anifail i'w lladd; y maent i'w rhoi i farwolaeth ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.

17. Os bydd dyn yn priodi ei chwaer, merch ei dad neu ei fam, ac yn cael cyfathrach rywiol â hi, y mae'n warth. Y maent i'w torri ymaith yng ngŵydd plant eu pobl; y mae ef wedi amharchu ei chwaer ac y mae'n gyfrifol am ei drosedd.

18. Os bydd dyn yn gorwedd gyda gwraig yn ei misglwyf, ac yn cael cyfathrach rywiol gyda hi, y mae wedi dinoethi tarddle ei diferlif gwaed ac y mae hithau wedi ei dinoethi. Y mae'r ddau ohonynt i'w torri ymaith o blith eu pobl.

19. Nid wyt i gael cyfathrach rywiol gyda chwaer dy fam na chwaer dy dad, gan y byddai hynny'n amharchu perthynas agos; y mae'r ddau'n gyfrifol am eu trosedd.

20. Os bydd dyn yn gorwedd gyda'i fodryb, y mae'n amharchu ei ewythr; y mae'r ddau'n gyfrifol am eu pechod, a byddant farw'n ddi-blant.

21. Os bydd dyn yn priodi gwraig ei frawd, y mae hynny'n aflan; amharchodd ei frawd, a byddant yn ddi-blant.

22. “ ‘Yr ydych i gadw fy holl ddeddfau a'm holl gyfreithiau ac i'w gwneud, rhag i'r wlad, lle'r wyf yn mynd â chwi i fyw, eich chwydu allan.

23. Nid ydych i ddilyn arferion y cenhedloedd yr wyf yn eu hanfon allan o'ch blaenau; oherwydd iddynt hwy wneud yr holl bethau hyn, ffieiddiais hwy.

24. Ond dywedais wrthych chwi, “Byddwch yn etifeddu eu tir; byddaf fi yn ei roi ichwi'n etifeddiaeth, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.” Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch gosododd chwi ar wahân i'r bobloedd.

25. “ ‘Yr ydych i wahaniaethu rhwng anifeiliaid glân ac aflan, a rhwng adar glân ac aflan. Nid ydych i'ch halogi eich hunain trwy unrhyw anifail, aderyn, nac unrhyw beth sy'n ymlusgo hyd y ddaear; dyma'r pethau a osodais ar wahân fel rhai aflan ichwi.

26. Yr ydych i fod yn sanctaidd i mi, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn sanctaidd; yr wyf wedi eich gosod ar wahân i'r bobloedd, i fod yn eiddo i mi.

27. “ ‘Y mae unrhyw ŵr neu wraig yn eich plith sy'n ddewin neu'n swynwr i'w roi i farwolaeth; yr ydych i'w llabyddio â cherrig, a byddant hwy'n gyfrifol am eu gwaed eu hunain.’ ”