1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud,
2. “Dywedwch wrth bobl Israel, ‘Pan fydd gan unrhyw un ddiferlif yn rhedeg o'i gorff, y mae'n aflan.
3. Dyma fydd y gyfraith ynglŷn â'i aflendid o achos diferlif. Pa un bynnag a yw'n parhau i redeg o'i gorff ynteu a yw wedi ei atal, y mae'n aflendid.
4. “ ‘Y mae unrhyw wely y bu rhywun â diferlif yn gorwedd arno yn aflan, ac unrhyw beth y bu'n eistedd arno yn aflan.
5. Y mae unrhyw un a gyffyrddodd â'i wely i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
6. Y mae'r sawl sy'n eistedd ar unrhyw beth yr eisteddodd y sawl sydd â diferlif arno i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
7. Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd â chorff y sawl sydd â diferlif arno i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
8. Os bydd rhywun â diferlif arno yn poeri ar unrhyw un glân, y mae hwnnw i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
9. Y mae unrhyw beth y bu'n eistedd arno wrth farchogaeth yn aflan,
10. a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd ag un o'r pethau oedd dano yn aflan hyd yr hwyr; y mae unrhyw un sy'n eu codi i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
11. Y mae unrhyw un y cyffyrddodd y sawl sydd â diferlif ag ef, heb iddo olchi ei ddwylo mewn dŵr, i olchi ei ddillad, ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
12. Y mae llestr pridd y cyffyrddodd y dyn â diferlif ag ef i'w ddryllio, ac unrhyw declyn pren i'w olchi â dŵr.
13. “ ‘Pan fydd rhywun yn cael ei lanhau o'i ddiferlif, y mae i gyfrif saith diwrnod ar gyfer ei lanhau; y mae i olchi ei ddillad, ac ymolchi â dŵr croyw, a bydd yn lân.
14. Ar yr wythfed dydd y mae i gymryd dwy durtur neu ddau gyw colomen, a dod o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod, a'u rhoi i'r offeiriad.
15. Bydd yr offeiriad yn offrymu'r naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ac yn gwneud cymod o flaen yr ARGLWYDD dros y sawl oedd â diferlif.
16. “ ‘Pan fydd dyn yn gollwng ei had, y mae i olchi ei holl gorff â dŵr, a bod yn aflan hyd yr hwyr.
17. Y mae unrhyw ddilledyn neu ddeunydd lledr yr aeth yr had arno i'w olchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
18. Pan fydd dyn yn gorwedd gyda gwraig ac yn gollwng had, y maent i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
19. “ ‘Pan fydd gan wraig ddiferlif gwaed, sef misglwyf rheolaidd ei chorff, y mae'n amhur am saith diwrnod, a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â hi yn aflan hyd yr hwyr.
20. Y mae unrhyw beth y mae'n gorwedd arno yn ystod ei misglwyf yn aflan, a hefyd unrhyw beth y mae'n eistedd arno.
21. Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd â'i gwely i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
22. Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd â'r hyn yr eistedd y wraig arno i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr;
23. boed yn wely neu'n unrhyw beth y mae'n eistedd arno, pan fydd unrhyw un yn ei gyffwrdd, bydd yn aflan hyd yr hwyr.
24. Os bydd dyn yn gorwedd gyda hi, a'i misglwyf yn cyffwrdd ag ef, y mae yntau'n aflan am saith diwrnod, ac y mae unrhyw wely y gorwedd arno yn aflan.
25. “ ‘Pan fydd gan wraig ddiferlif gwaed am lawer o ddyddiau heblaw ar adeg ei misglwyf, neu pan fydd y diferlif yn parhau ar ôl ei misglwyf, bydd yn aflan cyhyd ag y pery'r diferlif, fel ar adeg ei misglwyf.
26. Y mae unrhyw wely y mae'n gorwedd arno tra pery ei diferlif yn aflan, fel y mae ei gwely yn ystod ei misglwyf, ac y mae unrhyw beth y mae'n eistedd arno yn aflan, fel y mae yn ystod ei misglwyf.
27. Y mae unrhyw un sy'n eu cyffwrdd yn aflan, ac y mae i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
28. “ ‘Pan fydd yn cael ei glanhau o'i diferlif, y mae i gyfrif saith diwrnod, ac ar ôl hynny bydd yn lân.
29. Ar yr wythfed dydd y mae i gymryd dwy durtur neu ddau gyw colomen, a dod â hwy at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod.
30. Bydd yr offeiriad yn offrymu'r naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ac yn gwneud cymod drosti o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd amhuredd ei diferlif.
31. “ ‘Yr ydych i gadw pobl Israel oddi wrth eu haflendid, rhag iddynt farw yn eu haflendid am iddynt halogi fy nhabernacl sydd yn eu mysg.’ ”
32. Dyma'r gyfraith ynglŷn â diferlif, y dyn sy'n dod yn aflan trwy ollwng ei had,
33. a'r wraig sy'n dioddef o'i misglwyf, sef dyn neu wraig â diferlif, a hefyd dyn sy'n gorwedd gyda gwraig sy'n aflan.