Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Ordeinio Aaron a'i Feibion

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Cymer Aaron a'i feibion, a hefyd y dillad, yr olew eneinio, bustach yr aberth dros bechod, y ddau hwrdd a'r fasgedaid o fara croyw,

3. a chasgl yr holl gynulleidfa at ddrws pabell y cyfarfod.”

4. Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, ac ymgasglodd y gynulleidfa wrth ddrws pabell y cyfarfod.

5. Dywedodd Moses wrth y gynulleidfa yr hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei wneud.

6. Yna gwnaeth i Aaron a'i feibion ddod ymlaen, a golchodd hwy â dŵr.

7. Rhoddodd y wisg am Aaron, clymu'r gwregys am ei ganol, ei wisgo â'r fantell a rhoi'r effod amdano; rhoes wregys cywrain yr effod amdano a'i gau.

8. Rhoddodd y ddwyfronneg amdano, a rhoi'r Wrim a'r Twmim yn y ddwyfronneg.

9. Yna rhoddodd dwrban ar ben Aaron, a gosod arno'r dorch aur, y goron sanctaidd, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

10. Yna cymerodd Moses yr olew eneinio, ac eneiniodd y babell a phopeth ynddi, a thrwy hynny eu cysegru.

11. Taenellodd beth o'r olew seithwaith ar yr allor, ac eneiniodd yr allor a'i holl offer, y noe hefyd a'i gwaelod, i'w cysegru.

12. Tywalltodd beth o'r olew eneinio ar ben Aaron, ac eneiniodd ef i'w gysegru.

13. Yna gwnaeth Moses i feibion Aaron ddod ymlaen, rhoddodd wisgoedd amdanynt, clymu gwregysau am eu canol, a gwisgo capiau am eu pennau, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

14. Yna daeth Moses â bustach yr aberth dros bechod, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben y bustach.

15. Lladdodd Moses y bustach a chymryd peth o'r gwaed a'i roi â'i fys ar y cyrn bob ochr i'r allor i'w chysegru; tywalltodd weddill y gwaed wrth droed yr allor. Felly y cysegrodd hi, gan wneud cymod drosti.

16. Cymerodd Moses hefyd y braster ar yr ymysgaroedd, gorchudd yr iau, y ddwy aren a'r braster arnynt, a'u llosgi ar yr allor.

17. Ond llosgodd y bustach, ei groen, ei gnawd a'r gweddillion y tu allan i'r gwersyll, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

18. Yna cyflwynodd hwrdd y poethoffrwm, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ei ben.

19. Lladdodd Moses yr hwrdd a lluchio'r gwaed ar bob ochr i'r allor.

20. Torrodd yr hwrdd yn ddarnau a llosgi'r pen, y darnau a'r braster.

21. Golchodd yr ymysgaroedd a'r coesau â dŵr, a llosgodd yr hwrdd i gyd ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

22. Yna cyflwynodd yr hwrdd arall, sef hwrdd yr ordeiniad, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ei ben.

23. Lladdodd Moses yr hwrdd a chymryd peth o'i waed a'i roi ar gwr isaf clust dde Aaron, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de.

24. Yna gwnaeth Moses i feibion Aaron ddod ymlaen, a rhoddodd beth o'r gwaed ar gwr isaf eu clustiau de, ar fodiau eu llaw dde ac ar fodiau eu troed de, a lluchiodd waed ar bob ochr i'r allor.

25. Cymerodd y braster, y gynffon fras, yr holl fraster ar yr ymysgaroedd, gorchudd yr iau, y ddwy aren a'u braster, a'r glun dde.

26. Yna o'r fasgedaid o'r bara croyw oedd gerbron yr ARGLWYDD cymerodd Moses deisen o fara croyw, ac un arall wedi ei chymysgu ag olew, ac un fisged, a'u gosod ar y braster ac ar y glun dde.

27. Rhoddodd y cyfan yn nwylo Aaron a'i feibion, a'u chwifio o flaen yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan.

28. Wedyn cymerodd Moses hwy o'u dwylo a'u llosgi ar yr allor ar ben y poethoffrwm yn offrwm ordeiniad, yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.

29. Cymerodd Moses hefyd y frest, sef ei ran ef o hwrdd yr ordeinio, a'i chwifio o flaen yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

30. Yna cymerodd Moses beth o'r olew eneinio ac o'r gwaed oddi ar yr allor, a'u taenellu dros Aaron a'i ddillad, a thros ei feibion a'u dillad hefyd; felly y cysegrodd Aaron a'i ddillad, hefyd ei feibion a'u dillad.

31. Dywedodd Moses wrth Aaron a'i feibion, “Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod a'i fwyta yno gyda'r bara o fasged offrymau'r ordeinio, fel y gorchmynnais, a dweud mai Aaron a'i feibion oedd i'w fwyta.

32. Ond llosgwch yn y tân weddill y cig a'r bara.

33. Peidiwch â symud o ddrws pabell y cyfarfod am saith diwrnod, nes cwblhau dyddiau eich ordeiniad, oherwydd bydd yr ordeinio yn ymestyn dros saith diwrnod.

34. Gwnaed yr hyn a ddigwyddodd heddiw i wneud cymod drosoch, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.

35. Yr ydych i aros wrth ddrws pabell y cyfarfod ddydd a nos am saith diwrnod, a chadw'r hyn a ofyn yr ARGLWYDD, rhag ichwi farw; oherwydd dyma a orchmynnwyd i mi.”

36. Felly gwnaeth Aaron a'i feibion bopeth a orchmynnodd yr ARGLWYDD trwy Moses.