Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Y Cynllwyn i Ladd Iesu

1. Pan orffennodd Iesu lefaru'r holl eiriau hyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion,

2. “Gwyddoch fod y Pasg yn dod ymhen deuddydd, ac fe draddodir Mab y Dyn i'w groeshoelio.”

3. Yna daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ynghyd yng nghyntedd yr archoffeiriad, a elwid Caiaffas,

4. a chynllwyn i ddal Iesu trwy ddichell a'i ladd.

5. Ond dweud yr oeddent, “Nid yn ystod yr ŵyl, rhag digwydd cynnwrf ymhlith y bobl.”

Yr Eneinio ym Methania

6. Pan oedd Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus,

7. daeth gwraig ato a chanddi ffiol alabastr o ennaint gwerthfawr, a thywalltodd yr ennaint ar ei ben tra oedd ef wrth bryd bwyd.

8. Pan welodd y disgyblion hyn, aethant yn ddig a dweud, “I ba beth y bu'r gwastraff hwn?

9. Oherwydd gallesid gwerthu'r ennaint hwn am lawer o arian a'i roi i'r tlodion.”

10. Sylwodd Iesu ar hyn a dywedodd wrthynt, “Pam yr ydych yn poeni'r wraig? Oherwydd gweithred brydferth a wnaeth hi i mi.

11. Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser.

12. Wrth dywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, fy mharatoi yr oedd hi ar gyfer fy nghladdu.

13. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yma yn yr holl fyd, adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon, er cof amdani.”

Jwdas yn Cydsynio i Fradychu Iesu

14. Yna aeth un o'r Deuddeg, hwnnw a elwid Jwdas Iscariot, at y prif offeiriaid

15. a dweud, “Beth a rowch imi os bradychaf ef i chwi?” Talasant iddo ddeg ar hugain o ddarnau arian;

16. ac o'r pryd hwnnw dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef.

Gwledd y Pasg gyda'r Disgyblion

17. Ar ddydd cyntaf gŵyl y Bara Croyw daeth y disgyblion at Iesu a gofyn, “Ble yr wyt ti am inni baratoi i ti fwyta gwledd y Pasg?”

18. Dywedodd yntau, “Ewch i'r ddinas at ddyn arbennig a dywedwch wrtho, ‘Y mae'r Athro'n dweud, “Y mae fy amser i'n agos; yn dy dŷ di yr wyf am gadw'r Pasg gyda'm disgyblion.” ’ ”

19. A gwnaeth y disgyblion fel y gorchmynnodd Iesu iddynt, a pharatoesant wledd y Pasg.

20. Gyda'r nos yr oedd wrth y bwrdd gyda'r Deuddeg.

21. Ac fel yr oeddent yn bwyta, dywedodd Iesu, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i.”

22. A chan dristáu yn fawr dechreusant ddweud wrtho, bob un ohonynt, “Nid myfi yw, Arglwydd?”

23. Atebodd yntau, “Un a wlychodd ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a'm bradycha i.

24. Y mae Mab y Dyn yn wir yn ymadael, fel y mae'n ysgrifenedig amdano, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir Mab y Dyn ganddo! Da fuasai i'r dyn hwnnw petai heb ei eni.”

25. Dywedodd Jwdas ei fradychwr, “Nid myfi yw, Rabbi?” Meddai Iesu wrtho, “Ti a ddywedodd hynny.”

Sefydlu Swper yr Arglwydd

26. Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd Iesu fara, ac wedi bendithio fe'i torrodd a'i roi i'r disgyblion, a dywedodd, “Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.”

27. A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe'i rhoddodd iddynt gan ddweud, “Yfwch ohono, bawb,

28. oherwydd hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau.

29. Rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o hwn, ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd gyda chwi yn nheyrnas fy Nhad.”

30. Ac wedi iddynt ganu emyn aethant allan i Fynydd yr Olewydd.

Rhagfynegi Gwadiad Pedr

31. Yna dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch chwi o'm hachos i heno, oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Trawaf y bugail,a gwasgerir defaid y praidd.’

32. “Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea.”

33. Atebodd Pedr ef, “Er iddynt gwympo bob un o'th achos di, ni chwympaf fi byth.”

34. Meddai Iesu wrtho, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno, cyn i'r ceiliog ganu, fy ngwadu i deirgwaith.”

35. “Hyd yn oed petai'n rhaid imi farw gyda thi,” meddai Pedr wrtho, “ni'th wadaf byth.” Ac felly y dywedodd y disgyblion i gyd.

Y Weddi yn Gethsemane

36. Yna daeth Iesu gyda hwy i le a elwir Gethsemane, ac meddai wrth y disgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf fi'n mynd fan draw i weddïo.”

37. Ac fe gymerodd gydag ef Pedr a dau fab Sebedeus; a dechreuodd deimlo tristwch a thrallod dwys.

38. Yna meddai wrthynt, “Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch gyda mi.”

39. Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar ei wyneb gan weddïo, “Fy Nhad, os yw'n bosibl, boed i'r cwpan hwn fynd heibio i mi; ond nid fel y mynnaf fi, ond fel y mynni di.”

40. Daeth yn ôl at y disgyblion a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, “Felly! Oni allech wylio am un awr gyda mi?

41. Gwyliwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi. Y mae'r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan.”

42. Aeth ymaith drachefn yr ail waith a gweddïo, “Fy Nhad, os nad yw'n bosibl i'r cwpan hwn fynd heibio heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys di.”

43. A phan ddaeth yn ôl fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm.

44. Ac fe'u gadawodd eto a mynd ymaith i weddïo y drydedd waith, gan lefaru'r un geiriau drachefn.

45. Yna daeth at y disgyblion a dweud wrthynt, “A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyma'r awr yn agos, a Mab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid.

46. Codwch ac awn. Dyma fy mradychwr yn agosáu.”

Bradychu a Dal Iesu

47. Yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn dod, a chydag ef dyrfa fawr yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a henuriaid y bobl.

48. Rhoddodd ei fradychwr arwydd iddynt gan ddweud, “Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef.”

49. Ac yn union aeth at Iesu a dweud, “Henffych well, Rabbi”, a chusanodd ef.

50. Dywedodd Iesu wrtho, “Gyfaill, gwna'r hyn yr wyt yma i'w wneud.” Yna daethant a rhoi eu dwylo ar Iesu a'i ddal.

51. A dyma un o'r rhai oedd gyda Iesu yn estyn ei law ac yn tynnu ei gleddyf a tharo gwas yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd.

52. Yna dywedodd Iesu wrtho, “Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le, oherwydd bydd pawb sy'n cymryd y cleddyf yn marw trwy'r cleddyf.

53. A wyt yn tybio na allwn ddeisyf ar fy Nhad, ac na roddai i mi yn awr fwy na deuddeg lleng o angylion?

54. Ond sut felly y cyflawnid yr Ysgrythurau sy'n dweud mai fel hyn y mae'n rhaid iddi ddigwydd?”

55. A'r pryd hwnnw dywedodd Iesu wrth y dyrfa, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i'm dal i? Yr oeddwn yn eistedd beunydd yn y deml yn dysgu, ac ni ddaliasoch fi.

56. Ond digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid yr hyn a ysgrifennodd y proffwydi.” Yna gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi.

Iesu gerbron y Sanhedrin

57. Aeth y rhai oedd wedi dal Iesu ag ef ymaith i dŷ Caiaffas yr archoffeiriad, lle'r oedd yr ysgrifenyddion a'r henuriaid wedi dod ynghyd.

58. Canlynodd Pedr ef o hirbell hyd at gyntedd yr archoffeiriad, ac wedi mynd i mewn eisteddodd gyda'r gwasanaethwyr, i weld y diwedd.

59. Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio camdystiolaeth yn erbyn Iesu, er mwyn ei roi i farwolaeth,

60. ond ni chawsant ddim, er i lawer o dystion gau ddod ymlaen. Yn y diwedd daeth dau ymlaen

61. a dweud, “Dywedodd hwn, ‘Gallaf fwrw i lawr deml Duw, ac ymhen tridiau ei hadeiladu.’ ”

62. Yna cododd yr archoffeiriad ar ei draed a dweud wrtho, “Onid atebi ddim? Beth am dystiolaeth y rhain yn dy erbyn?”

63. Parhaodd Iesu'n fud; a dywedodd yr archoffeiriad wrtho, “Yr wyf yn rhoi siars i ti dyngu yn enw'r Duw byw a dweud wrthym ai ti yw'r Meseia, Mab Duw.”

64. Dywedodd Iesu wrtho, “Ti a ddywedodd hynny; ond rwy'n dweud wrthych:“ ‘O hyn allan fe welwch Fab y Dynyn eistedd ar ddeheulaw'r Galluac yn dyfod ar gymylau'r nef.’ ”

65. Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, “Cabledd! Pa raid i ni wrth dystion bellach? Yr ydych newydd glywed ei gabledd.

66. Sut y barnwch chwi?” Atebasant, “Y mae'n haeddu marwolaeth.”

67. Yna poerasant ar ei wyneb a'i gernodio; trawodd rhai ef

68. a dweud, “Proffwyda i ni, Feseia! Pwy a'th drawodd?”

Pedr yn Gwadu Iesu

69. Yr oedd Pedr yn eistedd y tu allan yn y cyntedd. A daeth un o'r morynion ato a dweud, “Yr oeddit tithau hefyd gyda Iesu'r Galilead.”

70. Ond gwadodd ef o flaen pawb a dweud, “Nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn.”

71. Ac wedi iddo fynd allan i'r porth, gwelodd morwyn arall ef a dweud wrth y rhai oedd yno, “Yr oedd hwn gyda Iesu'r Nasaread.”

72. Gwadodd yntau drachefn â llw, “Nid wyf yn adnabod y dyn.”

73. Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yno yn dod at Pedr ac yn dweud wrtho, “Yn wir yr wyt ti hefyd yn un ohonynt, achos y mae dy acen yn dy fradychu.”

74. Yna dechreuodd yntau regi a thyngu, “Nid wyf yn adnabod y dyn.” Ac ar unwaith fe ganodd y ceiliog.

75. Cofiodd Pedr y gair a lefarodd Iesu, “Cyn i'r ceiliog ganu, fe'm gwedi i deirgwaith.” Aeth allan ac wylo'n chwerw.