Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Marwolaeth Ioan Fedyddiwr

1. Yr amser hwnnw clywodd Herod y tetrarch y sôn am Iesu,

2. a dywedodd wrth ei weision, “Ioan Fedyddiwr yw hwn; y mae ef wedi ei godi oddi wrth y meirw, a dyna pam y mae'r gweithredoedd nerthol ar waith ynddo ef.”

3. Oherwydd yr oedd Herod wedi dal Ioan a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd.

4. Yr oedd Ioan wedi dweud wrtho, “Nid yw'n gyfreithlon i ti ei chael hi.”

5. Ac er bod Herod yn dymuno ei ladd, yr oedd arno ofn y bobl, am eu bod yn ystyried Ioan yn broffwyd.

6. Pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd, dawnsiodd merch Herodias gerbron y cwmni a phlesio Herod

7. gymaint nes iddo addo ar ei lw roi iddi beth bynnag a ofynnai.

8. Ar gyfarwyddyd ei mam, dywedodd hi, “Rho i mi, yma ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr.”

9. Aeth y brenin yn drist, ond oherwydd ei lw ac oherwydd ei westeion gorchmynnodd ei roi iddi,

10. ac anfonodd i dorri pen Ioan yn y carchar.

11. Daethpwyd â'i ben ef ar ddysgl a'i roi i'r eneth, ac aeth hi ag ef i'w mam.

12. Yna daeth ei ddisgyblion a mynd â'r corff ymaith a'i gladdu, ac aethant ac adrodd yr hanes wrth Iesu.

Porthi'r Pum Mil

13. Pan glywodd Iesu, aeth oddi yno mewn cwch i le unig o'r neilltu. Ond clywodd y tyrfaoedd, a dilynasant ef dros y tir o'r trefi.

14. Pan laniodd Iesu, gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt ac iacháu eu cleifion hwy.

15. Fel yr oedd yn nosi daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr. Gollwng y tyrfaoedd, iddynt fynd i'r pentrefi i brynu bwyd iddynt eu hunain.”

16. Meddai Iesu wrthynt, “Nid oes rhaid iddynt fynd ymaith. Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.”

17. Meddent hwy wrtho, “Nid oes gennym yma ond pum torth a dau bysgodyn.”

18. Meddai yntau, “Dewch â hwy yma i mi.”

19. Ac wedi gorchymyn i'r tyrfaoedd eistedd ar y glaswellt, cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a rhoddodd hwy i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd.

20. Bwytasant oll a chael digon, a chodasant ddeuddeg basgedaid lawn o'r tameidiau oedd dros ben.

21. Ac yr oedd y rhai oedd yn bwyta tua phum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.

Cerdded ar y Dŵr

22. Yna'n ddi-oed gwnaeth i'r disgyblion fynd i'r cwch a hwylio o'i flaen i'r ochr draw, tra byddai ef yn gollwng y tyrfaoedd.

23. Wedi eu gollwng aeth i fyny'r mynydd o'r neilltu i weddïo, a phan aeth hi'n hwyr yr oedd yno ar ei ben ei hun.

24. Yr oedd y cwch eisoes gryn bellter oddi wrth y tir, ac mewn helbul gan y tonnau, oherwydd yr oedd y gwynt yn ei erbyn.

25. Rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr.

26. Pan welodd y disgyblion ef yn cerdded ar y môr, dychrynwyd hwy nes dweud, “Drychiolaeth yw”, a gweiddi gan ofn.

27. Ond ar unwaith siaradodd Iesu â hwy. “Codwch eich calon,” meddai, “myfi yw; peidiwch ag ofni.”

28. Atebodd Pedr ef, “Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau.”

29. Meddai Iesu, “Tyrd.” Disgynnodd Pedr o'r cwch a cherddodd ar y tonnau, a daeth at Iesu.

30. Ond pan welodd rym y gwynt brawychodd, ac wrth ddechrau suddo gwaeddodd, “Arglwydd, achub fi.”

31. Estynnodd Iesu ei law ar unwaith a gafael ynddo gan ddweud, “Ti o ychydig ffydd, pam y petrusaist?”

32. Ac wedi iddynt ddringo i'r cwch, gostegodd y gwynt.

33. Yna addolodd y rhai oedd yn y cwch ef, gan ddweud, “Yn wir, Mab Duw wyt ti.”

Iacháu'r Cleifion yn Genesaret

34. Wedi croesi'r môr daethant i dir yn Genesaret.

35. Adnabu pobl y lle hwnnw ef, ac anfonasant i'r holl gymdogaeth honno, a daethant â'r cleifion i gyd ato,

36. ac erfyn arno am iddynt gael yn unig gyffwrdd ag ymyl ei fantell. A llwyr iachawyd pawb a gyffyrddodd ag ef.