Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Yr Ymdaith Fuddugoliaethus i mewn i Jerwsalem

1. Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem a chyrraedd Bethffage a Mynydd yr Olewydd, anfonodd Iesu ddau ddisgybl

2. gan ddweud wrthynt, “Ewch i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth fe gewch asen wedi ei rhwymo, ac ebol gyda hi. Gollyngwch hwy a dewch â hwy ataf.

3. Ac os dywed rhywun rywbeth wrthych, dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr eu hangen’; a bydd yn eu rhoi ar unwaith.”

4. Digwyddodd hyn fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwyd:

5. “Dywedwch wrth ferch Seion,‘Wele dy frenin yn dod atat,yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn,ac ar ebol, llwdn anifail gwaith.’ ”

6. Aeth y disgyblion a gwneud fel y gorchmynnodd Iesu iddynt;

7. daethant â'r asen a'r ebol ato, a rhoesant eu mentyll ar eu cefn, ac eisteddodd Iesu arnynt.

8. Taenodd tyrfa fawr iawn eu mentyll ar y ffordd, ac yr oedd eraill yn torri canghennau o'r coed ac yn eu taenu ar y ffordd.

9. Ac yr oedd y tyrfaoedd ar y blaen iddo a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi:“Hosanna i Fab Dafydd!Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.Hosanna yn y goruchaf!”

10. Pan ddaeth ef i mewn i Jerwsalem cynhyrfwyd y ddinas drwyddi. Yr oedd pobl yn gofyn, “Pwy yw hwn?”,

11. a'r tyrfaoedd yn ateb, “Y proffwyd Iesu yw hwn, o Nasareth yng Ngalilea.”

Glanhau'r Deml

12. Aeth Iesu i mewn i'r deml, a bwriodd allan bawb oedd yn prynu ac yn gwerthu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod,

13. a dywedodd wrthynt, “Y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi,ond yr ydych chwi yn ei wneud yn ogof lladron.’ ”

14. A daeth deillion a chloffion ato yn y deml, ac iachaodd hwy.

15. Ond pan welodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaeth, a'r plant yn gweiddi yn y deml, “Hosanna i Fab Dafydd!”, aethant yn ddig,

16. a dywedasant wrtho, “A wyt yn clywed beth y mae'r rhain yn ei ddweud?” Atebodd Iesu, “Ydwyf. Onid ydych erioed wedi darllen: ‘O enau babanod a phlant sugno y darperaist fawl i ti dy hun’?”

17. Yna gadawodd Iesu hwy ac aeth allan o'r ddinas i Fethania, a threuliodd y nos yno.

Melltithio'r Ffigysbren

18. Yn y bore, wrth iddo ddychwelyd i'r ddinas, daeth chwant bwyd arno.

19. A phan welodd ffigysbren ar fin y ffordd aeth ato, ond ni chafodd ddim arno ond dail yn unig. Dywedodd wrtho, “Na fydded ffrwyth arnat ti byth mwy.” Ac ar unwaith crinodd y ffigysbren.

20. Pan welodd y disgyblion hyn, fe ryfeddasant a dweud, “Sut y crinodd y ffigysbren ar unwaith?”

21. Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, os bydd gennych ffydd, heb amau dim, nid yn unig fe wnewch yr hyn a wnaed i'r ffigysbren, ond hyd yn oed os dywedwch wrth y mynydd hwn, ‘Coder di a bwrier di i'r môr’, hynny a fydd.

22. A beth bynnag oll y gofynnwch amdano mewn gweddi, os ydych yn credu, fe'i cewch.”

Amau Awdurdod Iesu

23. Daeth Iesu i'r deml, a phan oedd yn dysgu yno daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ato a gofyn, “Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn?”

24. Atebodd Iesu hwy, “Fe ofynnaf finnau un peth i chwi, ac os atebwch hwnnw, fe ddywedaf finnau wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.

25. Bedydd Ioan, o ble yr oedd? Ai o'r nef ai o'r byd daearol?” Dechreusant ddadlau â'i gilydd a dweud, “Os dywedwn, ‘O'r nef’, fe ddywed wrthym, ‘Pam, ynteu, na chredasoch ef?’

26. Ond os dywedwn, ‘O'r byd daearol’, y mae arnom ofn y dyrfa, oherwydd y mae pawb yn dal fod Ioan yn broffwyd.”

27. Atebasant Iesu, “Ni wyddom ni ddim.” Ac meddai yntau wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.

Dameg y Ddau Fab

28. “Ond beth yw eich barn chwi ar hyn? Yr oedd dyn a chanddo ddau fab. Aeth at y cyntaf a dweud, ‘Fy mab, dos heddiw a gweithia yn y winllan.’

29. Atebodd yntau, ‘Na wnaf’; ond yn ddiweddarach newidiodd ei feddwl a mynd.

30. Yna fe aeth y tad at y mab arall a gofyn yr un modd. Atebodd hwnnw, ‘Fe af fi, syr’; ond nid aeth.

31. P'run o'r ddau a gyflawnodd ewyllys y tad?” “Y cyntaf,” meddent. Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y casglwyr trethi a'r puteiniaid yn mynd i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.

32. Oherwydd daeth Ioan atoch yn dangos ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef. Ond fe gredodd y casglwyr trethi a'r puteiniaid ef. A chwithau, ar ôl ichwi weld hynny, ni newidiasoch eich meddwl a dod i'w gredu.

Dameg y Winllan a'r Tenantiaid

33. “Gwrandewch ar ddameg arall. Yr oedd rhyw berchen tŷ a blannodd winllan; cododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf ynddi, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref.

34. A phan ddaeth amser y cynhaeaf yn agos, anfonodd ei weision at y tenantiaid i dderbyn ei ffrwythau.

35. Daliodd y tenantiaid ei weision; curasant un, a lladd un arall a llabyddio un arall.

36. Anfonodd drachefn weision eraill, mwy ohonynt na'r rhai cyntaf, a gwnaeth y tenantiaid yr un modd â hwy.

37. Yn y diwedd anfonodd atynt ei fab, gan ddweud, ‘Fe barchant fy mab.’

38. Ond pan welodd y tenantiaid y mab dywedasant wrth ei gilydd, ‘Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.’

39. A chymerasant ef, a'i fwrw allan o'r winllan, a'i ladd.

40. Felly pan ddaw perchen y winllan, beth a wna i'r tenantiaid hynny?”

41. “Fe lwyr ddifetha'r dyhirod,” meddent wrtho, “a gosod y winllan i denantiaid eraill, rhai fydd yn rhoi'r ffrwythau iddo yn eu tymhorau.”

42. Dywedodd Iesu wrthynt, “Onid ydych erioed wedi darllen yn yr Ysgrythurau:“ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,hwn a ddaeth yn faen y gongl;gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn,ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni’?

43. “Am hynny rwy'n dweud wrthych y cymerir teyrnas Dduw oddi wrthych chwi, ac fe'i rhoddir i genedl sy'n dwyn ei ffrwythau hi.

44. A'r sawl sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria.”

45. Pan glywodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid ei ddamhegion, gwyddent mai amdanynt hwy yr oedd yn sôn.

46. Yr oeddent yn ceisio ei ddal, ond yr oedd arnynt ofn y tyrfaoedd, am eu bod hwy yn ei gyfrif ef yn broffwyd.