Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Tynnu Tywysennau ar y Saboth

1. Yr amser hwnnw aeth Iesu drwy'r caeau ŷd ar y Saboth; yr oedd eisiau bwyd ar ei ddisgyblion, a dechreusant dynnu tywysennau a'u bwyta.

2. Pan welodd y Phariseaid hynny, meddent wrtho, “Edrych, y mae dy ddisgyblion yn gwneud peth sy'n groes i'r Gyfraith ar y Saboth.”

3. Dywedodd yntau wrthynt, “Onid ydych wedi darllen beth a wnaeth Dafydd, pan oedd eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef?

4. Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw a sut y bwytasant y torthau cysegredig, nad oedd yn gyfreithlon iddo ef na'r rhai oedd gydag ef eu bwyta, ond i'r offeiriaid yn unig?

5. Neu onid ydych wedi darllen yn y Gyfraith fod yr offeiriaid ar y Saboth yn y deml yn halogi'r Saboth ond eu bod yn ddieuog?

6. Rwy'n dweud wrthych fod rhywbeth mwy na'r deml yma.

7. Pe buasech wedi deall beth yw ystyr y dywediad, ‘Trugaredd a ddymunaf, nid aberth’, ni fuasech wedi condemnio'r dieuog.

8. Oherwydd y mae Mab y Dyn yn arglwydd ar y Saboth.”

Y Dyn â'r Llaw Ddiffrwyth

9. Symudodd oddi yno a daeth i'w synagog hwy.

10. Yno yr oedd dyn a chanddo law ddiffrwyth. Gofynasant i Iesu, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn, “A yw'n gyfreithlon iacháu ar y Saboth?”

11. Dywedodd yntau wrthynt, “Pwy ohonoch a chanddo un ddafad, os syrth honno i bydew ar y Saboth, na fydd yn gafael ynddi a'i chodi?

12. Gymaint mwy gwerthfawr yw dyn na dafad. Am hynny y mae'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth.”

13. Yna dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn holliach fel y llall.

14. Ac fe aeth y Phariseaid allan a chynllwyn yn ei erbyn, sut i'w ladd.

Y Gwas Dewisedig

15. Ond daeth Iesu i wybod hyn, ac aeth ymaith oddi yno. Dilynodd llawer ef, ac fe iachaodd bawb ohonynt,

16. a rhybuddiodd hwy i beidio â'i wneud yn hysbys,

17. fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:

18. “Dyma fy ngwas, yr un a ddewisais,fy anwylyd, yr ymhyfrydodd fy enaid ynddo.Rhoddaf fy Ysbryd arno,a bydd yn cyhoeddi barn i'r Cenhedloedd.

19. Ni fydd yn ymrafael nac yn gweiddi,ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.

20. Ni fydd yn mathru corsen doredig,nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu,nes iddo ddwyn barn i fuddugoliaeth.

21. Ac yn ei enw ef y bydd gobaith y Cenhedloedd.”

Iesu a Beelsebwl

22. Yna dygwyd ato ddyn â chythraul ynddo, yn ddall a mud; iachaodd Iesu ef, nes bod y mudan yn llefaru ac yn gweld.

23. A synnodd yr holl dyrfaoedd a dweud, “A yw'n bosibl mai hwn yw Mab Dafydd?”

24. Ond pan glywodd y Phariseaid dywedasant, “Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid ond trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid.”

25. Deallodd Iesu eu meddyliau a dywedodd wrthynt, “Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, ac ni bydd yr un dref na thŷ a ymrannodd yn ei erbyn ei hun yn sefyll.

26. Ac os yw Satan yn bwrw allan Satan, y mae wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun; sut felly y saif ei deyrnas?

27. Ac os trwy Beelsebwl yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy fydd yn eich barnu.

28. Ond os trwy Ysbryd Duw yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, yna y mae teyrnas Dduw wedi cyrraedd atoch.

29. Neu sut y gall rhywun fynd i mewn i dŷ un cryf ac ysbeilio'i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo'r un cryf? Wedyn caiff ysbeilio'i dŷ ef.

30. Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae, ac os nad yw'n casglu gyda mi, gwasgaru y mae.

31. Am hynny rwy'n dweud wrthych, maddeuir pob pechod a chabledd i bobl, ond y cabledd yn erbyn yr Ysbryd ni faddeuir mohono.

32. Caiff pwy bynnag a ddywed air yn erbyn Mab y Dyn, faddeuant; ond pwy bynnag a'i dywed yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant nac yn yr oes hon nac yn yr oes sydd i ddod.

Coeden a'i Ffrwyth

33. “Naill ai cyfrifwch y goeden yn dda a'i ffrwyth yn dda, neu cyfrifwch y goeden yn wael a'i ffrwyth yn wael. Wrth ei ffrwyth y mae'r goeden yn cael ei hadnabod.

34. Chwi epil gwiberod, sut y gallwch lefaru pethau da, a chwi eich hunain yn ddrwg? Oherwydd yn ôl yr hyn sy'n llenwi'r galon y mae'r genau'n llefaru.

35. Y mae'r dyn da o'i drysor da yn dwyn allan bethau da, a'r dyn drwg o'i drysor drwg yn dwyn allan bethau drwg.

36. Rwy'n dweud wrthych am bob gair di-fudd a lefara pobl, fe roddant gyfrif amdano yn Nydd y Farn.

37. Oherwydd wrth dy eiriau y cei dy gyfiawnhau, ac wrth dy eiriau y cei dy gondemnio.”

Ceisio Arwydd

38. Yna dywedodd rhai o'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid wrtho, “Athro, fe garem weld arwydd gennyt.”

39. Atebodd yntau, “Cenhedlaeth ddrygionus ac annuwiol sy'n ceisio arwydd, eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd y proffwyd Jona.

40. Oherwydd fel y bu Jona ym mol y morfil am dri diwrnod a thair nos, felly y bydd Mab y Dyn yn nyfnder y ddaear am dri diwrnod a thair nos.

41. Bydd pobl Ninefe yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio hi; oherwydd edifarhasant hwy dan genadwri Jona, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Jona.

42. Bydd Brenhines y De yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio; oherwydd daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Solomon.

Yr Ysbryd Aflan yn Dychwelyd

43. “Pan fydd ysbryd aflan yn mynd allan o rywun, bydd yn rhodio trwy fannau sychion gan geisio gorffwysfa, ac nid yw yn ei gael.

44. Yna y mae'n dweud, ‘Mi ddychwelaf i'm cartref, y lle y deuthum ohono.’ Wedi cyrraedd, y mae'n ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i osod mewn trefn.

45. Yna y mae'n mynd ac yn cymryd gydag ef saith ysbryd arall mwy drygionus nag ef ei hun; y maent yn dod i mewn ac yn ymgartrefu yno; ac y mae cyflwr olaf y dyn hwnnw yn waeth na'r cyntaf. Felly hefyd y bydd i'r genhedlaeth ddrwg hon.”

Mam a Brodyr Iesu

46. Tra oedd ef yn dal i siarad â'r tyrfaoedd, yr oedd ei fam a'i frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad ag ef.

47. Dywedodd rhywun wrtho, “Dacw dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad â thi.”

48. Atebodd Iesu ef, “Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?”

49. A chan estyn ei law at ei ddisgyblion dywedodd, “Dyma fy mam a'm brodyr i.

50. Oherwydd pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.”