Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Temtiad Iesu

1. Yna arweiniwyd Iesu i'r anialwch gan yr Ysbryd, i gael ei demtio gan y diafol.

2. Wedi iddo ymprydio am ddeugain dydd a deugain nos daeth arno eisiau bwyd.

3. A daeth y temtiwr a dweud wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y cerrig hyn am droi'n fara.”

4. Ond atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw,ond ar bob gair sy'n dod allano enau Duw.’ ”

5. Yna cymerodd y diafol ef i'r ddinas sanctaidd, a'i osod ar dŵr uchaf y deml,

6. a dweud wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Rhydd orchymyn i'w angylion amdanat;byddant yn dy godi ar eu dwylorhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.’ ”

7. Dywedodd Iesu wrtho, “Y mae'n ysgrifenedig drachefn: ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.’ ”

8. Unwaith eto cymerodd y diafol ef i fynydd uchel iawn, a dangos iddo holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant,

9. a dweud wrtho, “Y rhain i gyd a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i.”

10. Yna dywedodd Iesu wrtho, “Dos ymaith, Satan; oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,ac ef yn unig a wasanaethi.’ ”

11. Yna gadawodd y diafol ef, a daeth angylion a gweini arno.

Dechrau'r Weinidogaeth yng Ngalilea

12. Ar ôl iddo glywed bod Ioan wedi ei garcharu, aeth Iesu ymaith i Galilea.

13. A chan adael Nasareth aeth i fyw i Gapernaum, tref ar lan y môr yng nghyffiniau Sabulon a Nafftali,

14. fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:

15. “Gwlad Sabulon a gwlad Nafftali,ar y ffordd i'r môr, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd;

16. y bobl oedd yn trigo mewn tywyllwcha welodd oleuni mawr,ac ar drigolion tir cysgod angauy gwawriodd goleuni.”

17. O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu bregethu'r genadwri hon: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.”

Galw Pedwar Pysgotwr

18. Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu ddau frawd, Simon, a elwid Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; pysgotwyr oeddent.

19. A dywedodd wrthynt, “Dewch ar fy ôl i, ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.”

20. Gadawsant eu rhwydau ar unwaith a'i ganlyn ef.

21. Ac wedi iddo fynd ymlaen oddi yno gwelodd ddau frawd arall, Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd, yn y cwch gyda Sebedeus eu tad yn cyweirio eu rhwydau. Galwodd hwythau,

22. ac ar unwaith, gan adael y cwch a'u tad, canlynasant ef.

Gweinidogaethu i Dyrfa Fawr

23. Yr oedd yn mynd o amgylch Galilea gyfan, dan ddysgu yn eu synagogau hwy a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob afiechyd a phob llesgedd ymhlith y bobl.

24. Aeth y sôn amdano trwy Syria gyfan; dygasant ato yr holl gleifion oedd yn dioddef dan amrywiol afiechydon, y rhai oedd yn cael eu llethu gan boenau, y rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, y rhai'n dioddef o ffitiau, a'r rhai oedd wedi eu parlysu; ac fe iachaodd ef hwy.

25. A dilynwyd ef gan dyrfaoedd mawr o Galilea a'r Decapolis, a Jerwsalem a Jwdea, a'r tu hwnt i'r Iorddonen.