Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 15 beibl.net 2015 (BNET)

Samson yn dial ar y Philistiaid

1. Beth amser wedyn, adeg y cynhaeaf gwenith, dyma Samson yn mynd i weld ei wraig ac aeth â myn gafr ifanc yn anrheg iddi. Roedd e eisiau cysgu gyda hi ond wnaeth ei thad ddim gadael iddo.

2. “Ro'n i'n meddwl dy fod ti'n ei chasáu hi go iawn, felly dyma fi'n ei rhoi hi i dy was priodas. Mae ei chwaer fach hyd yn oed yn ddelach na hi. Pam wnei di ddim ei chymryd hi yn ei lle?”

3. A dyma Samson yn ymateb, “Mae gen i reswm digon teg i daro'r Philistiaid y tro yma!”

4. Felly dyma Samson yn mynd ac yn dal tri chant o siacaliaid, eu rhwymo nhw'n barau wrth eu cynffonau, a rhwymo ffaglau rhwng eu cynffonau.

5. Yna taniodd y ffaglau a gollwng y siacaliaid yn rhydd i ganol caeau ŷd y Philistiaid. Llosgodd y cwbl – yr ŷd oedd heb ei dorri a'r ysgubau oedd wedi eu casglu, a hyd yn oed y gwinllannoedd a'r caeau o goed olewydd.

6. “Pwy wnaeth hyn?” meddai'r Philistiaid.A dyma rhywun yn ateb, “Samson, am fod ei dad-yng-nghyfraith, sy'n byw yn Timna, wedi cymryd ei wraig a'i rhoi i'w was priodas.”Felly dyma'r Philistiaid yn mynd i Timna a dal gwraig Samson a'i thad a'i llosgi nhw i farwolaeth.

7. Dyma Samson yn dweud, “Dw i'n mynd i ddial arnoch chi am wneud hyn! Wna i ddim stopio nes bydda i wedi talu'n ôl i chi!”

8. A dyma fe'n ymosod arnyn nhw a'i hacio nhw'n ddarnau. Yna mynd i ffwrdd, ac aros mewn ogof wrth Graig Etam.

9. Yna dyma'r Philistiaid yn mynd i ymosod ar Jwda. Roedden nhw ar wasgar drwy ardal Lechi.

10. A dyma arweinwyr Jwda yn gofyn iddyn nhw, “Pam ydych chi'n ymosod arnon ni?”“Dŷn ni eisiau cymryd Samson yn garcharor,” medden nhw, “a thalu'r pwyth yn ôl iddo am beth wnaeth e i ni.”

11. Felly dyma dair mil o ddynion Jwda yn mynd i lawr i'r ogof wrth Graig Etam, a dweud wrth Samson, “Wyt ti ddim yn sylweddoli mai'r Philistiaid sy'n ein rheoli ni? Beth wyt ti'n feddwl wyt ti'n wneud?”“Dim ond talu'r pwyth yn ôl wnes i. Gwneud iddyn nhw beth wnaethon nhw i mi,” meddai Samson.

12. A dyma ddynion Jwda yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod yma i dy ddal di a dy roi di i'r Philistiaid yn garcharor.”“Wnewch chi addo i mi na wnewch chi fy lladd i eich hunain?” meddai Samson.

13. A dyma nhw'n dweud, “Dŷn ni'n addo. Wnawn ni ddim ond dy rwymo di a dy roi di'n garcharor iddyn nhw. Wnawn ni ddim dy ladd di.”Felly dyma nhw'n ei rwymo gyda dwy raff newydd a mynd ag e o Graig Etam.

14. Pan gyrhaeddodd Lechi, dyma'r Philistiaid yn dechrau gweiddi'n uchel wrth fynd draw at Samson. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus, a dyma'r rhaffau oedd yn rhwymo'i freichiau yn torri fel brethyn wedi llosgi!

15. Dyma fe'n gweld asgwrn gên asyn oedd heb sychu. Gafaelodd yn yr asgwrn a lladd mil o ddynion gydag e!

16. A dyma Samson yn dweud,“Gydag asgwrn gên asyngadewais nhw'n domenni!Gydag asgwrn gên asynmil o filwyr leddais i!”

17. Yna taflodd Samson yr asgwrn ar lawr, a galwodd y lle yn Ramath-lechi (sef “Bryn yr Asgwrn Gên”).

18. Roedd Samson yn ofnadwy o sychedig a dyma fe'n galw ar yr ARGLWYDD, “Ar ôl rhoi buddugoliaeth fawr i mi, wyt ti'n mynd i adael i mi farw o syched, a gadael i'r paganiaid yma fy nghael i?”

19. Felly dyma Duw yn hollti'r basn sydd yn y graig yn Lechi, a dyma ddŵr yn pistyllio allan. Pan yfodd Samson y dŵr, dyma fe'n dod ato'i hun. A dyma fe'n galw'r lle yn En-hacore (sef "Ffynnon y Galw") – mae'n dal yna yn Lechi hyd heddiw.

20. Buodd Samson yn arwain Israel am ugain mlynedd pan oedd y Philistiaid yn rheoli'r wlad.