Hen Destament

Salmau 78:19-31-68b-72 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

19-31. “Gall ddwyn dŵr o’r graig, mae’n wir,” meddent,“Ond beth am ein bara a’n cig?A all hulio bwrdd yn yr anial?”Pan glywodd yr Arglwydd, bu ddig,A glawiodd y manna, bwyd engyl,A’r soflieir fel tywod ar draeth;Ond cododd ei ddig yn eu herbyn,A lladd y grymusaf a wnaeth.

32-39. Er hyn, fe ddaliasant i bechu,Ac felly fe’u cosbodd ef hwy.Pan drawai hwy, ceisient ef eto,Gan dwyllo a rhagrithio yn fwy.Sawl gwaith y maddeuodd ef iddyntEu trosedd, sawl gwaith trugarhau,Gan gofio mai chwa o wynt oeddynt,Meidrolion diffygiol a brau?

40-48. Mor fynych y gwrthryfelasantYn erbyn yr Arglwydd eu Duw,Heb gofio mai ef a’u gwaredoddO’r Aifft, ac a’u cadwodd yn fyw.Troes Afon yr Aifft yn ffrwd waedlyd,Daeth pryfed a llyffaint yn bla;Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg,Daeth haint ar eu preiddiau a’u da.

49-62. Fe drawodd eu cyntafanedig,Ond arwain ei bobl i’w gwlad;Troes allan genhedloedd o’u blaenau,Ond profodd wrthryfel a brad.Digiasant ef â’u huchelfannau,A’u delwau cerfiedig i gyd.Am hyn, ymadawodd â Seilo,A’u lladd yng nghynddaredd ei lid.

63-68a. Fe ysodd y tân eu gwŷr ifainc,Fe syrthiodd offeiriaid trwy’r cledd;Ni allai eu gweddwon alaru;Ac yna, fel milwr llawn medd,Fe gododd yr Arglwydd o’i drymgwsg,A tharo’i elynion bob un.Gwrthododd lwyth Effraim, a dewisLlwyth Jwda yn bobl iddo’i hun.

68b-72. Troes o babell Joseff, a gosodAr ben Mynydd Seion ei gaer,Sydd gyfuwch â’r nefoedd, a’i seiliau’nDragywydd, fel seiliau y ddaer.Dewisodd, yn was iddo, Ddafydd,A fu’n fugail defaid di-fraw,A’i roi i fugeilio’i bobl, Israel,A’u harwain yn fedrus â’i law.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 78