Hen Destament

Salmau 78:32-39 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

Er hyn, fe ddaliasant i bechu,Ac felly fe’u cosbodd ef hwy.Pan drawai hwy, ceisient ef eto,Gan dwyllo a rhagrithio yn fwy.Sawl gwaith y maddeuodd ef iddyntEu trosedd, sawl gwaith trugarhau,Gan gofio mai chwa o wynt oeddynt,Meidrolion diffygiol a brau?

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 78

Gweld Salmau 78:32-39 mewn cyd-destun