“Gall ddwyn dŵr o’r graig, mae’n wir,” meddent,“Ond beth am ein bara a’n cig?A all hulio bwrdd yn yr anial?”Pan glywodd yr Arglwydd, bu ddig,A glawiodd y manna, bwyd engyl,A’r soflieir fel tywod ar draeth;Ond cododd ei ddig yn eu herbyn,A lladd y grymusaf a wnaeth.