Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8

Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae dy draed yn dy sandalau mor hardd,o ferch fonheddig.Mae dy gluniau mor siapus –fel gemwaith gan grefftwr medrus.

2. Mae dy wain ddirgel fel cwpan gronyn llawn o'r gwin cymysg gorau.Mae dy fol fel pentwr o wenitha chylch o lilïau o'i gwmpas.

3. Mae dy fronnau yn berffaithfel dwy gasél ifanc, efeilliaid.

4. Mae dy wddf fel tŵr o ifori,a'th lygaid fel llynnoedd Cheshbonger mynedfa Bath-rabbîm.Mae dy drwyn hardd fel y tŵr yn Libanussy'n wynebu dinas Damascus.

5. Ti'n dal dy ben yn uchelfel Mynydd Carmelac mae dy wallt hardd fel edafedd drudyn dal y brenin yn gaeth yn ei dresi.

6. O! rwyt mor hardd! Mor hyfryd!Ti'n fy hudo, fy nghariad!

7. Ti'n dal fel coeden balmwydd,a'th fronnau'n llawn fel ei sypiau o ddatys.

8. Dw i am ddod a dringo'r goedena gafael yn ei ffrwythau.Mae dy fronnau fel sypiau o rawnwin,a'u sawr yn felys fel afalau.

9. Mae dy gusanau fel y gwin gorauyn llifo'n rhydd ar fy ngwefusauwrth i ni fynd i gysgu.

10. Fy nghariad piau fi,ac mae f'eisiau.

11. Tyrd, fy nghariad, gad i ni fynd i'r caeau;gad i ni dreulio'r nos rhwng y blodau henna.

12. Gad i ni godi'n gynnara mynd lawr i'r gwinllannoedd,i weld os ydy'r winwydden wedi blaguroa'u blodau wedi agor;ac i weld os ydy'r pomgranadau'n blodeuo –yno gwnaf roi fy hun i ti.

13. Yno bydd persawr hyfryd y mandragorauyn llenwi'r awyr,a danteithion pleser wrth ein drysau –y cwbl dw i wedi ei gadwi'w rannu gyda ti fy nghariad.