Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8

Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 3 beibl.net 2015 (BNET)

1. Wrth orwedd ar fy ngwely'n y nosbyddai gen i hiraeth am fy nghariad;dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.

2. “Dw i'n mynd i godi i edrych amdano'n y dre –crwydro'r strydoedd a'r sgwariauyn chwilio am fy nghariad.”Dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.

3. Dyma'r gwylwyr nos yn fy ngweldwrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre.Gofynnais, “Welsoch chi fy nghariad?”

4. Prin roeddwn wedi eu pasiopan ddes i o hyd i'm cariad!Gafaelais ynddo'n dynn a gwrthod ei ollwngnes mynd ag e i dŷ fy mam,i'w hystafell wely.

5. Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnocho flaen y gasél a'r ewig gwyllt:Peidiwch trïo cyffroi cariad rhywiolnes mae'n barod.

Y drydedd gerdd – Y briodas

6. Beth sy'n dod o gyfeiriad yr anialwch,yn codi llwch fel colofnau o fwg?Fel mwg yr arogldarth yn codi o'r allor –myrr a thus a phob powdr persawrussydd ar werth gan fasnachwyr teithiol.

7. Edrychwch! Soffa-gludo Solomon ydy hi!Mae chwe deg o filwyr o'i gwmpas –arwyr dewr Israel.

8. Mae gan bob un ei gleddyf yn barod,ac maen nhw wedi eu hyfforddi i ryfela.Mae cleddyf pob un ar ei gluni'w amddiffyn rhag peryglon y nos.

9. Mae gan Solomon gadair gludowedi ei gwneud o goed o Libanus.

10. Mae ei pholion o ariana'i ffrâm o aur;ei sedd o ddefnydd porffora'r tu mewn wedi ei addurno â chariad.

11. Ferched Jerwsalem, dewch allan!Dewch ferched Seion i syllu ar Solomonyn gwisgo'r goron gafodd gan ei famar ddiwrnod ei briodas –diwrnod hapusaf ei fywyd!