Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8

Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dw i'n dod i'm gardd, ferch annwyl, fy nghariad –i gasglu fy myrr a'm perlysiau,i flasu y diliau a'r mêl,ac i yfed y gwin a'r llaeth.Mwynhewch y wledd gariadon!Yfwch a meddwi ar anwesu a charu!

Y Bedwaredd gerdd

2. Roeddwn yn gorffwys, ond roedd fy meddwl yn effro.Ust! Llais fy nghariad; mae'n curo –“Agor i mi ddod i mewn, f'anwylyd,fy nghariad, fy ngholomen berffaith.Mae fy ngwallt yn wlyb gan wlith,a'm pen yn llaith gan niwl y nos.”

3. “Ond dw i'n noeth, heb ddim amdana i.Ti am i mi wisgo eto wyt ti?A dw i wedi golchi fy nhraed.Oes rhaid i mi eu baeddu eto?”

4. Yna gwthiodd ei law i agor y drws,a teimlais wefr yn mynd trwyddo i.

5. Codais i'w adael i mewn;roedd fy nwylo'n diferu o fyrr –roedd y myrr yn llifo i lawr fy myseddpan afaelais yn yr handlen.

6. Agorais y drws i'm cariad,ond roedd e wedi troi a mynd!Suddodd fy nghalon o'm mewn pan aeth.Chwiliais amdano, ond methu ei gael;Gelwais arno, ond doedd dim ateb.

7. Dyma'r gwylwyr nos yn fy ngweldwrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre.Dyma nhw'n fy nghuro a'm cam-drin,a rhwygo fy nghlogyn oddi arna i –y gwylwyr nos oedd yn gwarchod waliau'r ddinas!

8. Ferched Jerwsalem, gwrandwch –Os dewch chi o hyd i'm cariad,dwedwch wrtho mod i'n glaf o gariad.

9. O'r harddaf o ferched,beth sy'n gwneud dy gariadyn well na dynion eraill?Beth sy'n gwneud dy gariadyn well na dynion eraill,i ti grefu mor daer â hyn?

10. Mae nghariad yn ffit ac yn iach;mae'n sefyll allan yng nghanol y dyrfa.

11. Mae ei wyneb a'i wedd fel aur pur,a'i wallt cyrliog yn ddu fel y frân.

12. Mae ei lygaid fel colomennod wrth nentydd dŵr,yn wyn fel llaeth ac yn berffaith yn eu lle.

13. Mae arogl ei fochau fel gwely o berlysiau,a chusan ei wefusau fel y liliyn diferu o fyrr.

14. Mae ei freichiau cyhyrog fel aurwedi eu haddurno â meini gwerthfawr.A'i gorff lluniaidd fel ifori llyfnwedi ei orchuddio â meini saffir.

15. Mae ei goesau fel pileri o farmorwedi eu gosod ar sylfaen o aur pur.Mae e'n sefyll fel mynyddoedd Libanusa'u coed cedrwydd urddasol.

16. Mae ei gusan mor felys;mae popeth amdano'n ddeniadol!Dyna fy nghariad, dyna fy nghymar,ferched Jerwsalem.