Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8

Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 1 beibl.net 2015 (BNET)

1. Cân serch orau Solomon.

Y gerdd gyntaf – Cariad

2. Tyrd, cusana fi drosodd a throsodd!Mae dy anwesu cariadus yn well na gwin,

3. ac arogl dy bersawr mor hyfryd.Rwyt fel yr olew persawrus gorau –does dim syndod fod merched ifancyn dy garu di.

4. Tyrd, cymer fi gyda ti;gad i ni frysio! Fy mrenin,dos â fi i dy ystafell wely.Gad i ni fwynhau a chael pleser;mae profi gwefr dy gyffyrddiadyn well na gwin.Mae'n ddigon teg fod merched ifancyn dy garu di.

5. Ferched Jerwsalem,Mae fy nghroen yn ddu ond dw i'n hardd –yn dywyll fel pebyll duon pobl Cedar,a hardd fel llenni palas Solomon.

6. Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddua'r haul wedi rhoi croen tywyll i mi.Roedd fy mrodyr wedi gwylltio gyda mi,a gwneud i mi ofalu am y gwinllannoedd;ond methais ofalu amdana i fy hun.

7. Fy nghariad, dywed wrtho i,Ble rwyt ti'n arwain dy ddefaid?Ble fyddan nhw'n gorffwys ganol dydd?Dywed wrtho i, rhag i mi orfod gwisgo fêla chrwydro o gwmpas preiddiau dy ffrindiau.

8. O'r harddaf o ferched! Os nad wyt yn gwybod,dilyn olion traed y praidda bwyda dy eifr wrth wersyll y bugeiliaid.

9. F'anwylyd, rwyt fel y gaseg ifanc harddafsy'n tynnu cerbydau'r Pharo.

10. Mae tlysau ar dy fochau hardd,a chadwyn o emau hyfryd am dy wddf.

11. Dw i am roi tlysau aur i ti,wedi eu haddurno ag arian.

12. Tra roedd fy mrenin yn gorwedd ar ei wely,roedd arogl fy mhersawr yn llenwi'r awyr.

13. Mae fy nghariad fel cwdyn o fyrr hyfrydyn gorwedd trwy'r nos rhwng fy mronnau.

14. Mae fy nghariad fel tusw o flodau hennao winllannoedd ffrwythlon En-gedi.

15. O, rwyt mor hardd f'anwylyd!O, rwyt mor hardd!Mae dy lygaid fel colomennod.

16. O, rwyt mor olygus fy nghariad –ac mor hyfryd!Mae'r gwyrddni fel canopi o'n cwmpasyn gorchuddio'n gwely.

17. Mae canghennau'r coed cedrwyddfel trawstiau'n y to uwch ein pen;a'r coed pinwydd fel paneli.