Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 9 beibl.net 2015 (BNET)

Dafydd a Meffibosheth, mab Jonathan

1. Dyma Dafydd yn gofyn, “Oes yna unrhyw un yn dal ar ôl o deulu Saul, i mi fod yn garedig ato fel gwnes i addo i Jonathan?”

2. A dyma ddyn o'r enw Siba oedd wedi bod yn was i Saul yn cael ei alw at Dafydd. Gofynnodd y brenin iddo, “Ti ydy Siba?” Atebodd, “Ie, syr, fi ydy dy was.”

3. Dyma'r brenin yn ei holi, “Oes yna unrhyw un o deulu Saul yn dal yn fyw, i mi fod yn garedig ato fel gwnes i addo o flaen Duw?”Atebodd Siba, “Oes. Mae yna fab i Jonathan sy'n dal yn fyw. Mae e'n anabl. Mae e'n gloff yn ei ddwy droed.”

4. “Ble mae e?” meddai'r brenin.A dyma Siba'n dweud, “Mae e yn Lo-debâr, yn aros gyda Machir fab Ammiel.”

5. Felly dyma'r brenin Dafydd yn anfon i'w nôl o dŷ Machir.

6. Pan ddaeth Meffibosheth (mab Jonathan ac ŵyr Saul) at y brenin Dafydd, dyma fe'n mynd ar ei liniau ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. “Meffibosheth?” meddai Dafydd. Ac atebodd “Ie, syr, dy was di.”

7. “Paid bod ag ofn,” meddai Dafydd wrtho, “Dw i'n mynd i fod yn garedig atat ti, fel gwnes i addo i dy dad Jonathan. Dw i am roi tir dy daid Saul yn ôl i ti, a byddi'n cael bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.”

8. Dyma Meffibosheth yn ymgrymu eto a dweud, “Pwy ydw i? Pam ddylet ti gymryd sylw o gi marw fel fi?”

9. Yna dyma'r brenin yn galw am Siba, gwas Saul. Ac meddai wrtho, “Dw i wedi rhoi popeth oedd piau Saul a'i deulu i ŵyr dy feistr.

10. Dw i eisiau i ti a dy feibion, a dy weision i gyd, ofalu am y tir iddo. Bydd cynnyrch y tir yn fwyd i deulu dy feistr. Ond bydd Meffibosheth yn bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.” (Roedd gan Siba un deg pump o feibion a dau ddeg o weision.)

11. Dyma Siba yn ateb, “Bydd dy was yn gwneud popeth mae fy meistr, y brenin, wedi ei orchymyn.”Felly cafodd Meffibosheth fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd y brenin, fel petai'n un o feibion y brenin ei hun.

12. Roedd gan Meffibosheth fab bach o'r enw Micha. Roedd teulu Siba i gyd, a'i weision, yn gweithio i Meffibosheth.

13. Ond roedd Meffibosheth ei hun yn byw yn Jerwsalem, ac yn cael bwyta'n rheolaidd wrth fwrdd y brenin. Roedd e'n anabl – yn gloff yn ei ddwy droed.