Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 15 beibl.net 2015 (BNET)

Gwrthryfel Absalom

1. Beth amser wedyn dyma Absalom yn paratoi cerbyd a cheffylau iddo'i hun, a pum deg o warchodwyr personol.

2. Byddai'n codi'n fore a sefyll ar ochr y ffordd wrth giât y ddinas. Pan oedd unrhyw un yn dod heibio gydag achos cyfreithiol i'w setlo gan y brenin, byddai Absalom yn ei alw draw. Byddai'n gofyn iddo, “Un o ble wyt ti?” Os oedd hwnnw'n dweud ei fod yn perthyn i un o lwythau Israel,

3. byddai Absalom yn dweud wrtho, “Gwranda, mae gen ti achos cryf, ond does gan y brenin neb ar gael i wrando arnat ti.”

4. Wedyn byddai'n ychwanegu, “Piti na fyddwn ni'n cael fy ngwneud yn farnwr yn y wlad yma! Byddai pawb oedd ag achos ganddo yn gallu dod ataf fi. Byddwn i'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael tegwch.”

5. Pan fyddai rhywun yn dod ato ac ymgrymu o'i flaen, byddai Absalom yn estyn ei law a'i gofleidio a rhoi cusan iddo.

6. Roedd yn gwneud hyn i bawb o Israel oedd yn dod i ofyn am gyfiawnder gan y brenin. A dyna sut wnaeth Absalom ennill cefnogaeth pobl Israel.

7. Ar ôl pedair blynedd, dyma Absalom yn gofyn i'r brenin, “Plîs ga i fynd i Hebron i gyflawni adduned wnes i i'r ARGLWYDD?

8. Pan oeddwn i'n byw yn Geshwr yn Syria, gwnes i addo ar lw: ‘Os bydd yr ARGLWYDD yn mynd â fi yn ôl i Jerwsalem, gwna i addoli'r ARGLWYDD yn Hebron.’”

9. A dyma'r brenin yn ei ateb, “Dos, a bendith arnat ti.” Felly dyma Absalom yn mynd i ffwrdd i Hebron.

10. Ond yna dyma Absalom yn anfon negeswyr cudd at lwythau Israel i gyd i ddweud, “Pan fyddwch chi'n clywed sŵn y corn hwrdd, cyhoeddwch: ‘Mae Absalom yn frenin yn Hebron.’”

11. Roedd dau gant o ddynion wedi mynd gydag Absalom o Jerwsalem. Roedden nhw wedi cael gwahoddiad ganddo, ac wedi mynd yn gwbl ddiniwed heb wybod dim am ei fwriadau.

12. Yna dyma Absalom yn cael Achitoffel, swyddog strategaeth Dafydd, i ddod ato o Gilo (y dre lle roedd e'n byw) i gyflwyno aberthau gydag e. Roedd y cynllwyn yn cryfhau, a nifer y bobl oedd o blaid Absalom yn cynyddu.

Dafydd yn dianc o Jerwsalem

13. Daeth neges at Dafydd i ddweud fod pobl Israel wedi troi at Absalom.

14. Felly dyma Dafydd yn dweud wrth ei swyddogion yn Jerwsalem, “Rhaid i ni ffoi, neu wnawn ni ddim dianc oddi wrth Absalom. Dewch! Brysiwch i ni adael, rhag iddo'n dal ni a lladd pawb yn y ddinas!”

15. Dyma'r swyddogion yn ateb, “Bydd dy weision yn gwneud beth bynnag mae ein meistr, y brenin, yn ei benderfynu.”

16. Felly dyma'r brenin yn gadael, a'i deulu a'i staff i gyd gydag e. Ond gadawodd ddeg o'i gariadon i edrych ar ôl y palas.

17. Wrth iddo fynd, a'r bobl i gyd yn ei ddilyn, dyma nhw'n aros wrth y Tŷ Pellaf.

18. Safodd yno tra roedd ei warchodlu i gyd yn mynd heibio (Cretiaid a Pelethiaid) a'r chwe chant o ddynion oedd wedi ei ddilyn o Gath. Wrth iddyn nhw fynd heibio

19. dyma'r brenin yn galw ar Itai (oedd o Gath), “Pam ddylet ti ddod gyda ni? Dos yn ôl ac aros gyda'r brenin newydd. Un o'r tu allan wyt ti, yn alltud ac yn bell oddi cartref.

20. Dim ond newydd gyrraedd wyt ti. Alla i ddim gwneud i ti grwydro o le i le ar fy ôl i! Dos yn ôl, a dos â dy bobl gyda ti. A boed i'r Duw ffyddlon dy amddiffyn di.”

21. Ond dyma Itai yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a'm meistr y brenin yn fyw, bydda i'n mynd ble bynnag fyddi di'n mynd – hyd yn oed os fydd hynny'n golygu marw gyda ti.”

22. A dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos yn dy flaen, felly.” Ac aeth Itai yn ei flaen gyda'i ddynion i gyd a'u teuluoedd.

23. Roedd pawb yn crïo'n uchel wrth i'r fyddin fynd heibio. Dyma'r brenin yn croesi Nant Cidron ac aethon nhw i gyd ymlaen i gyfeiriad yr anialwch.

24. Roedd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yno, a'r Lefiaid yn cario Arch Ymrwymiad Duw. Dyma nhw'n gosod yr Arch i lawr, a wnaethon nhw ddim ei chodi eto nes oedd y bobl i gyd wedi gadael y ddinas.

25. Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Sadoc, “Dos ag Arch Duw yn ôl i'r ddinas. Os bydd yr ARGLWYDD yn garedig ata i, bydd yn dod â fi'n ôl i'w gweld hi a'i chartref eto.

26. Ond os ydy e'n dweud nad ydy e fy eisiau i bellach, dw i'n fodlon iddo wneud beth bynnag mae eisiau gyda mi.”

27. Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Sadoc yr offeiriad, “Wyt ti'n deall y sefyllfa? Dos yn ôl i'r ddinas yn dawel fach, ti ac Abiathar a'ch meibion, Achimaats, dy fab di, a Jonathan, mab Abiathar.

28. Bydda i'n aros wrth y rhydau ar y ffordd i'r anialwch nes bydda i wedi clywed gynnoch chi.”

29. Felly dyma Sadoc ac Abiathar yn mynd ag Arch Duw yn ôl i Jerwsalem, ac aros yno.

30. Aeth Dafydd yn ei flaen i fyny Mynydd yr Olewydd, yn crïo wrth fynd. Roedd yn cuddio'i ben a doedd dim am ei draed. Ac roedd pawb arall oedd gydag e wedi gorchuddio'u pennau ac yn crïo hefyd.

31. Pan glywodd Dafydd fod Achitoffel yn un o'r rhai oedd wedi cynllwynio gydag Absalom, dyma fe'n gweddïo, “ARGLWYDD, plîs gwna gyngor Achitoffel yn gyngor gwirion.”

32. Wrth i Dafydd gyrraedd copa'r bryn lle roedd pobl yn arfer addoli, dyma Chwshai yr Arciad yn dod i'w gyfarfod, wedi rhwygo ei ddillad a rhoi pridd ar ei ben.

33. Dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Os doi di gyda mi, byddi'n faich arna i.

34. Felly dos yn ôl i'r ddinas a dweud wrth Absalom, ‘Dw i am fod yn was i ti, o frenin. Mae'n wir mod i wedi bod yn was i Dafydd dy dad, ond nawr dw i am fod yn was i ti.’ Wedyn byddi'n gallu drysu cyngor Achitoffel.

35. Bydd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yna gyda ti. Rhanna gyda nhw bopeth fyddi di'n ei glywed yn y palas brenhinol.

36. Mae eu meibion gyda nhw hefyd, Achimaats fab Sadoc, a Jonathan fab Abiathar. Gallwch eu hanfon nhw ata i ddweud beth sy'n digwydd.”

37. Felly dyma Chwshai, cynghorydd Dafydd, yn cyrraedd Jerwsalem pan oedd Absalom ar fin mynd i mewn i'r ddinas.