Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 18 beibl.net 2015 (BNET)

Absalom yn cael ei ladd

1. Dyma Dafydd yn casglu'r milwyr oedd gydag e at ei gilydd, a phenodi capteiniaid ar unedau o fil ac o gant.

2. Yna anfonodd nhw allan yn dair catrawd. Roedd un o dan awdurdod Joab, un o dan ei frawd Abishai (mab Serwia), a'r llall o dan Itai o Gath. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dw i'n hun am ddod allan i ymladd gyda chi hefyd.”

3. Ond dyma'r dynion yn ateb, “Na, paid. Petai'n rhaid i ni ffoi am ein bywydau fyddai neb yn malio – hyd yn oed petai hanner y fyddin yn cael eu lladd! Ond rwyt ti'n werth deg mil ohonon ni. Byddai'n fwy o help i ni petaet ti'n aros yn y dre.”

4. Ac meddai'r brenin, “Os mai dyna dych chi'n feddwl sydd orau, dyna wna i.”Yna safodd y brenin wrth giât y dre wrth i'r dynion fynd allan fesul catrawd.

5. A dyma fe'n gweiddi ar Joab, Abishai ac Itai, “Er fy mwyn i, byddwch yn garedig at y bachgen Absalom.” Roedd y fyddin gyfan wedi ei glywed yn rhoi'r gorchymyn yma i'w swyddogion.

6. Dyma nhw'n mynd allan i frwydro yn erbyn byddin Israel. Roedd y brwydro yng Nghoedwig Effraim.

7. A dyma ddilynwyr Dafydd yn gorchfygu byddin Israel. Roedd colledion mawr. Cafodd dau ddeg mil eu lladd y diwrnod hwnnw.

8. Roedd y frwydr wedi lledu i bobman. Ond cafodd mwy o ddynion eu lladd o achos peryglon y goedwig na gafodd eu lladd gan y cleddyf!

9. Yn ystod y frwydr dyma rai o ddynion Dafydd yn dod ar draws Absalom. Roedd yn reidio ar gefn ei ful. Wrth i'r mul fynd o dan ganghennau rhyw goeden fawr, dyma ben Absalom yn cael ei ddal yn y goeden. Aeth y mul yn ei flaen, a gadael Absalom yn hongian yn yr awyr.

10. Dyma un o'r dynion welodd beth ddigwyddodd yn mynd i ddweud wrth Joab, “Dw i newydd weld Absalom yn hongian o goeden fawr.”

11. Atebodd Joab, “Beth? Welaist ti e? Pam wnes ddim ei ladd e yn y fan a'r lle? Byddwn i wedi rhoi deg darn arian a medal i ti.”

12. Ond dyma'r dyn yn dweud, “Hyd yn oed petawn i'n cael mil o ddarnau arian, fyddwn ni ddim yn cyffwrdd mab y brenin! Clywodd pawb y brenin yn dy siarsio di ac Abishai ac Itai i ofalu am y bachgen Absalom.

13. Petawn i wedi gwneud rhywbeth iddo byddai'r brenin yn siŵr o fod wedi clywed, a byddet ti wedi gadael i mi gymryd y bai!”

14. Dyma Joab yn ateb, “Dw i ddim am wastraffu amser fel yma.” A dyma fe'n cymryd tair gwaywffon a'u gwthio nhw drwy galon Absalom pan oedd yn dal yn fyw yn y goeden.

15. Yna dyma'r deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab yn casglu o gwmpas Absalom a'i ladd.

16. Yna chwythodd Joab y corn hwrdd, a dyma nhw'n rhoi'r gorau i fynd ar ôl byddin Israel am fod Joab wedi eu galw'n ôl.

17. Cafodd corff Absalom ei daflu i bydew dwfn yn y goedwig, a dyma nhw'n gosod pentwr mawr o gerrig drosto. Yn y cyfamser roedd milwyr Israel i gyd wedi dianc am adre.

18. Pan oedd yn dal yn fyw roedd Absalom wedi codi cofgolofn iddo'i hun yn Nyffryn y Brenin am fod ganddo fe ddim mab i gadw ei enw i fynd. Roedd wedi gosod ei enw ei hun arni, a hyd heddiw mae'r golofn yn cael ei galw yn ‛Gofeb Absalom‛.

Dafydd yn clywed fod Absalom wedi marw

19. Dyma Achimaats, mab Sadoc, yn gofyn i Joab, “Gad i mi redeg i roi'r newyddion da i'r brenin fod yr ARGLWYDD wedi ei achub o afael ei elynion.”

20. Ond dyma Joab yn ateb, “Na, dim heddiw. Cei fynd rywbryd eto. Dydy e ddim yn newyddion da i'r brenin fod ei fab wedi marw.”

21. Yna dyma Joab yn dweud wrth filwr du o Affrica, “Dos di i ddweud wrth y brenin beth rwyt ti wedi ei weld heddiw.” Ar ôl ymgrymu o flaen Joab i ffwrdd â fe.

22. Ond roedd Achimaats, mab Sadoc, yn dal i grefu ar Joab, “Plîs, plîs, gad i mi fynd hefyd ar ôl y dyn yna o Affrica.” Dyma Joab yn gofyn iddo, “Pam wyt ti mor awyddus i fynd, machgen i? Fydd yna ddim gwobr i ti.”

23. Ond roedd yn dal i bledio, “Plîs, dw i eisiau mynd.” Felly dyma Joab yn gadael iddo fynd. A dyma Achimaats yn rhedeg ar hyd gwastatir yr Iorddonen, a pasio'r Affricanwr.

24. Roedd Dafydd yn eistedd rhwng y giât fewnol a'r giât allanol. Aeth gwyliwr i fyny i ben y to uwchben y giât. Edrychodd allan a gweld dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun.

25. A dyma fe'n galw i lawr i ddweud wrth y brenin. A dyma'r brenin yn dweud, “Os ydy e ar ei ben ei hun mae'n rhaid bod ganddo newyddion.”Ond wrth i'r rhedwr ddod yn agosach,

26. dyma'r gwyliwr yn gweld dyn arall. A dyma fe'n galw ar yr un oedd yn gwarchod y giât, “Mae yna ddyn arall yn dod, yn rhedeg ar ei ben ei hun.” A dyma'r brenin yn dweud, “Mae gan hwn newyddion hefyd.”

27. Yna dyma'r gwyliwr yn dweud, “Dw i'n meddwl mai Achimaats fab Sadoc ydy'r rhedwr cyntaf.” A dyma'r brenin yn ateb, “Dyn da ydy e. Mae'n dod â newyddion da.”

28. Yna dyma Achimaats yn cyrraedd a chyfarch y brenin ac ymgrymu â'i wyneb ar lawr o'i flaen, a dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw! Mae wedi trechu'r dynion oedd wedi troi yn erbyn y brenin!”

29. A dyma'r brenin yn gofyn, “Ydy'r bachgen Absalom yn iawn?” Ac meddai Achimaats, “Roedd rhyw helynt mawr pan anfonodd Joab was y brenin a minnau i ffwrdd. Ond dw i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.”

30. “Symud i'r ochr, a sefyll yna” meddai'r brenin. A dyma Achimaats yn gwneud hynny.

31. Yna dyma'r milwr o Affrica yn cyrraedd a dweud, “Newyddion da i'm meistr, y brenin! Mae'r ARGLWYDD wedi dy achub di o afael y rhai oedd wedi codi yn dy erbyn.”

32. A dyma'r brenin yn holi'r dyn, “Ydy'r bachgen Absalom yn iawn?” A dyma fe'n ateb, “O na fyddai dy elynion i gyd a phawb sy'n codi yn dy erbyn fel y dyn ifanc yna!”

33. Roedd y brenin wedi ypsetio'n lân. Aeth i fyny i'r ystafell uwchben y giât yn crïo, a dweud drosodd a throsodd, “O fy mab! O, Absalom fy mab i! Fy mab Absalom! Pam ges i ddim marw yn dy le di? O Absalom, fy mab! O, fy mab i.”