Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 8 beibl.net 2015 (BNET)

Llwyddiant milwrol Dafydd

1. Beth amser wedyn, dyma Dafydd yn concro'r Philistiaid ac yn eu gorfodi nhw i ildio iddo.

2. Wedyn dyma fe'n concro Moab. Gwnaeth i'r dynion orwedd mewn rhes ar lawr, a dyma fe'n eu mesur nhw'n grwpiau gyda llinyn. Roedd dau hyd y llinyn i gael eu lladd, ac un hyd llinyn i gael byw. A dyna sut daeth Moab o dan awdurdod Dafydd a thalu trethi iddo.

3. Yna dyma Dafydd yn concro Hadadeser fab Rechob, brenin talaith Soba yn Syria. Roedd hwnnw ar ei ffordd i geisio cael yr ardal ar lan yr Ewffrates yn ôl o dan ei awdurdod.

4. Ond dyma Dafydd yn dal mil saith gant o'i farchogion a dau ddeg mil o'i filwyr traed. Cadwodd gant o'r ceffylau, ond gwneud y gweddill i gyd yn gloff.

5. A pan ddaeth Syriaid talaith Damascus i helpu Hadadeser, lladdodd byddin Dafydd ddau ddeg dau mil ohonyn nhw hefyd.

6. Wedyn dyma Dafydd yn gosod garsiynau o filwyr ar dir Syriaid Damascus. Daeth y Syriaid o dan ei awdurdod, a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn gwneud i Dafydd ennill pob brwydr ble bynnag roedd e'n mynd.

7. Aeth Dafydd â'r tariannau aur oedd gan swyddogion Hadadeser i Jerwsalem.

8. A cymerodd lot fawr o bres hefyd o Betach a Berothai, trefi Hadadeser.

9. Pan glywodd Toi, brenin Chamath, fod Dafydd wedi concro byddin Hadadeser i gyd,

10. dyma fe'n anfon ei fab Joram at Dafydd i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Aeth Joram â pob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e.

11. A dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi ei gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro,

12. sef Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid, a'r ysbail roedd wedi ei gymryd oddi ar Hadadeser fab Rechob, brenin Soba.

13. Daeth Dafydd yn enwog hefyd ar ôl iddo daro un deg wyth mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen.

14. A dyma fe'n gosod garsiynau ar hyd a lled Edom. Daeth Edom i gyd o dan ei awdurdod a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Dafydd ble bynnag roedd e'n mynd.

15. Roedd Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Roedd yn trin ei bobl i gyd yn gyfiawn ac yn deg.

16. Joab (mab Serwia) oedd pennaeth y fyddin. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin.

17. Sadoc fab Achitwf ac Achimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid. Seraia oedd ei ysgrifennydd gwladol.

18. Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid a Pelethiaid). Ac roedd meibion Dafydd yn offeiriaid.