5. a'u hannerch, “Chi Lefiaid, gwrandwch arna i. Ewch trwy'r ddefod o buro eich hunan cyn mynd ati i gysegru teml yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid. Taflwch bopeth sy'n aflan allan o'r Lle Sanctaidd.
6. Mae'n hynafiaid wedi bod yn anffyddlon a gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD. Roedden nhw wedi troi cefn arno fe a'i deml.
7. Dyma nhw'n cau drysau'r cyntedd a diffodd y lampau. Doedden nhw ddim yn llosgi arogldarth na chyflwyno aberthau yn y lle yma gafodd ei gysegru i Dduw Israel.
8. Dyna pam roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Jwda a Jerwsalem. Mae'n gwbl amlwg fod beth sydd wedi digwydd yn ofnadwy; mae'n achos dychryn a rhyfeddod i bobl.
9. Dyna pam cafodd dynion eu lladd yn y rhyfel, ac wedyn eu gwragedd a'u plant yn cael eu cymryd yn gaethion.
10. “Nawr, dw i eisiau gwneud ymrwymiad i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Falle wedyn y bydd e'n stopio bod mor ddig gyda ni.
11. Felly, ffrindiau, peidiwch bod yn esgeulus. Mae'r ARGLWYDD wedi eich dewis chi i'w wasanaethu ac i losgi arogldarth iddo.”
12. A dyma'r Lefiaid yma yn codi i wneud beth roedd y brenin yn ei orchymyn:Disgynyddion Cohath: Machat fab Amasai a Joel fab AsareiaDisgynyddion Merari: Cish fab Afdi ac Asareia fab Jehalel-elDisgynyddion Gershon: Ioach fab Simma ac Eden fab Ioach
13. Disgynyddion Elitsaffan: Shimri a JeielDisgynyddion Asaff: Sechareia a Mataneia
14. Disgynyddion Heman: Iechiel a ShimeiDisgynyddion Iedwthwn: Shemaia ac Wssiel.
15. Yna dyma nhw'n casglu gweddill y Lefiaid at ei gilydd a mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain. A wedyn mynd ati i gysegru teml yr ARGLWYDD, fel roedd y brenin wedi dweud. Roedden nhw'n gwneud popeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
16. Aeth yr offeiriaid i mewn i'r deml i'w phuro. A dyma nhw'n dod â phopeth oedd yn aflan allan i'r iard, cyn i'r Lefiaid fynd a'r cwbl allan i ddyffryn Cidron.
17. Roedd y gwaith glanhau wedi dechrau ar ddiwrnod cynta'r mis cyntaf. Mewn wythnos roedden nhw wedi cyrraedd cyntedd teml yr ARGLWYDD. Wedyn am wythnos arall buon nhw'n cysegru'r deml, a cafodd y gwaith ei orffen ar ddiwrnod un deg chwech o'r mis.
18. Yna dyma nhw'n mynd at y Brenin Heseceia a dweud, “Dŷn ni wedi cysegru teml yr ARGLWYDD i gyd, yr allor i losgi aberthau a'i hoffer i gyd, a'r bwrdd mae'r bara i'w osod yn bentwr arno gyda'i holl lestri.
19. Dŷn ni hefyd wedi cysegru'r holl lestri wnaeth y Brenin Ahas eu taflu allan pan oedd yn anffyddlon i Dduw. Maen nhw yn ôl o flaen yr allor.”
20. Yna'n gynnar y bore wedyn dyma Heseceia'n galw arweinwyr y ddinas at ei gilydd a mynd i deml yr ARGLWYDD.
21. Aethon nhw â saith tarw ifanc, saith hwrdd, saith oen a saith bwch gafr yn aberth dros bechod y deyrnas, y deml a gwlad Jwda. A dyma'r brenin yn gofyn i'r offeiriaid (disgynyddion Aaron) eu llosgi'n offrymau ar allor yr ARGLWYDD.
22. Felly dyma'r offeiriaid yn lladd y teirw a sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Yna gwneud yr un peth gyda'r hyrddod a'r ŵyn.
23. Yna'n olaf dyma nhw'n dod â'r bwch geifr (oedd i fod yn offrwm i lanhau o bechod) at y brenin a'r bobl eraill oedd yno iddyn nhw osod eu dwylo ar ben y geifr.
24. Wedyn dyma'r offeiriaid yn eu lladd a rhoi'r gwaed ar yr allor yn offrwm dros bechodau Israel gyfan. Roedd y brenin wedi dweud fod yr offrymau i'w llosgi a'r aberthau dros bechodau Israel gyfan.