Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 20 beibl.net 2015 (BNET)

Syria yn ymosod ar Israel

1. Dyma Ben-hadad, brenin Syria, yn casglu ei fyddin i gyd. Roedd yna dri deg dau o frenhinoedd gydag e gyda'u cerbydau a'u ceffylau. Aeth i warchae ar Samaria ac ymosod arni.

2. A dyma fe'n anfon neges i'r ddinas at y brenin Ahab.

3. “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud: ‘Fi piau dy arian di a dy aur di. Fi piau dy hoff wragedd di a dy blant di hefyd.’”

4. A dyma frenin Israel yn ateb, “Iawn, fy mrenin, fy meistr i! Ti sydd piau fi a phopeth sydd gen i.”

5. Yna dyma'r negeswyr yn dod yn ôl ato eto a dweud, “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud: ‘Dw i eisoes wedi dweud wrthot ti am roi dy arian, dy aur, dy wragedd a dy blant i mi.

6. Tua'r adeg yma yfory dw i'n mynd i anfon fy ngweision atat ti, a byddan nhw'n chwilio drwy dy balas di a thai dy swyddogion, ac yn cymryd popeth gwerthfawr oddi arnat ti.’”

7. Dyma frenin Israel yn galw holl arweinwyr y wlad at ei gilydd, a dweud, “Gwrandwch, mae'r dyn yma am greu helynt go iawn. Pan wnaeth e hawlio'r gwragedd a'r plant a'r holl arian a'r aur sydd gen i, wnes i ddim ei wrthod e.”

8. A dyma'r arweinwyr a'r bobl yn dweud wrtho, “Paid gwrando arno! Paid cytuno.”

9. Felly dyma Ahab yn dweud wrth negeswyr Ben-hadad, “Dwedwch wrth fy meistr, y brenin, ‘Dw i'n fodlon gwneud popeth wnest ti ofyn y tro cyntaf, ond alla i ddim cytuno i hyn.’” A dyma'r negeswyr yn mynd â'r ateb yn ôl i'w meistr.

10. Yna dyma Ben-hadad yn anfon neges arall, “Boed i'r duwiau fy melltithio i, os bydd unrhyw beth ar ôl o Samaria ond llond dwrn o lwch i bob un o'r dynion sy'n fy nilyn i ei godi.”

11. Ateb brenin Israel oedd, “Paid brolio wrth godi dy arfau, dim ond pan fyddi'n ei rhoi i lawr!”

12. Roedd Ben-hadad yn diota yn ei babell gyda'r brenhinoedd eraill pan gafodd yr ateb yma. A dyma fe'n dweud wrth ei filwyr, “Paratowch i ymosod!” A dyma nhw'n paratoi i ymosod ar y ddinas.

Yr ARGLWYDD yn achub Israel

13. Dyma broffwyd yn mynd i weld Ahab, brenin Israel, a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Wyt ti'n gweld y fyddin anferth yna? Heddiw dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn dy law di, a byddi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”

14. A dyma Ahab yn gofyn, “Sut?”“Drwy swyddogion ifanc y taleithiau,” meddai'r proffwyd.A dyma Ahab yn gofyn, “Pwy fydd yn ymosod gyntaf?”“Ti,” meddai'r proffwyd.

15. Felly dyma Ahab yn casglu swyddogion ifainc y taleithiau at ei gilydd, ac roedd yna ddau gant tri deg dau ohonyn nhw. Wedyn dyma fe'n casglu byddin Israel, ac roedd yna saith mil ohonyn nhw.

16-17. Dyma nhw'n mynd allan tua hanner dydd, gyda swyddogion ifanc y taleithiau yn eu harwain. Roedd Ben-hadad a'r tri deg dau brenin oedd gydag e yn yfed eu hunain yn chwil yn eu pebyll. A dyma'i sgowtiaid yn dod a dweud wrtho, “Mae yna filwyr yn dod allan o Samaria.”

18. Dyma Ben-hadad yn dweud: “Daliwch nhw'n fyw – sdim ots os ydyn nhw am wneud heddwch neu am ymladd.”

19. Roedd swyddogion ifanc y taleithiau yn arwain byddin Israel allan.

20. A dyma nhw'n taro milwyr y gelyn nes i'r Syriaid orfod ffoi. Aeth Israel er eu holau, ond dyma Ben-hadad yn dianc ar gefn ceffyl gyda'i farchogion.

21. Dyna sut wnaeth brenin Israel orchfygu holl gerbydau a marchogion y gelyn. Cafodd y Syriaid eu trechu'n llwyr.

22. Yna dyma'r proffwyd yn mynd at frenin Israel a dweud wrtho, “Rhaid i ti gryfhau'r amddiffynfeydd, a penderfynu beth i'w wneud. Achos yn y gwanwyn bydd brenin Syria yn ymosod eto.”

Syria yn ymosod ar Israel eto

23. Dyma swyddogion brenin Syria yn dweud wrtho, “Duw'r bryniau ydy eu duw nhw, a dyna pam wnaethon nhw'n curo ni. Os gwnawn ni eu hymladd nhw ar y gwastadedd byddwn ni'n siŵr o ennill.

24. Dyma sydd raid i ni ei wneud: Cael capteniaid milwrol i arwain y fyddin yn lle'r brenhinoedd yma.

25. Yna casglu byddin at ei gilydd yn lle yr un wnest ti ei cholli, gyda'r un faint o geffylau a cherbydau. Wedyn awn ni i ymladd gyda nhw ar y gwastadedd. Byddwn ni'n siŵr o ennill.” A dyma Ben-hadad yn gwneud beth roedden nhw'n ei awgrymu.

26. Felly yn y gwanwyn dyma Ben-hadad yn casglu byddin Syria at ei gilydd, a mynd i ymladd yn erbyn Israel yn Affec.

27. A pan oedd byddin Israel wedi ei galw ac wedi derbyn eu cyflenwadau dyma nhw'n mynd allan i ryfel. Roedd gwersyll Israel gyferbyn â'r Syriaid ac yn edrych fel dwy ddiadell fach o eifr o'i gymharu â byddin Syria oedd yn llenwi'r wlad!

28. Dyma'r proffwyd yn mynd i weld brenin Israel, a dweud wrtho: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am fod Syria wedi dweud mai Duw y bryniau ydy'r ARGLWYDD, dim Duw y ddyffrynnoedd, dw i'n mynd i roi'r fyddin anferth yma yn dy law di. Byddi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”

29. Roedd y ddwy fyddin yn gwersylla gyferbyn â'i gilydd am saith diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod dyma'r ymladd yn dechrau. Lladdodd milwyr Israel gan mil o wŷr traed Syria mewn un diwrnod!

30. Dyma'r gweddill yn ffoi i Affec, ond syrthiodd wal y ddinas a lladd dau ddeg saith mil ohonyn nhw.Roedd Ben-hadad wedi dianc i'r ddinas, ac yn cuddio mewn ystafell fewnol yno.

31. A dyma'i swyddogion yn dweud wrtho, “Gwranda, dŷn ni wedi clywed fod brenhinoedd Israel yn garedig. Gad i ni wisgo sachliain, rhoi raffau am ein gyddfau a mynd allan at frenin Israel. Falle y bydd e'n arbed dy fywyd di.”

32. Felly dyma nhw'n gwisgo sachliain a rhoi raffau am eu gyddfau a mynd allan at frenin Israel, a dweud, “Mae dy was, Ben-hadad yn gofyn, ‘Plîs, gad i mi fyw.’”“Beth? Ydy e'n dal yn fyw?” meddai brenin Israel, “Mae e fel brawd i mi.”

33. Roedd y dynion yn cymryd hyn fel arwydd da, a dyma nhw'n ymateb yn syth, “Ie, dy frawd di ydy Ben-hadad.”Felly dyma Ahab yn dweud, “Ewch i'w nôl e.” A pan ddaeth Ben-hadad dyma Ahab yn ei dderbyn i'w gerbyd.

34. A dyma Ben-hadad yn dweud wrtho, “Dw i am roi'r trefi wnaeth fy nhad eu cymryd oddi ar dy dad di yn ôl i ti. A cei di sefydlu canolfannau marchnata yn Damascus, fel roedd fy nhad i wedi gwneud yn Samaria.” Dyma Ahab yn dweud, “Dw i am i ni wneud cytundeb heddwch cyn dy ollwng di'n rhydd.” Felly dyma'r ddau yn gwneud cytundeb, a dyma Ben-hadad yn cael mynd yn rhydd.

Proffwyd yn ceryddu Ahab

35. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth rhyw ddyn oedd yn aelod o urdd o broffwydi i ddweud wrth un arall, “Taro fi!” Ond dyma'r llall yn gwrthod.

36. Felly dyma fe'n dweud wrtho, “Am i ti wrthod gwrando ar yr ARGLWYDD, pan fyddi di'n fy ngadael i bydd llew yn ymosod arnat ti.” Ac wrth iddo fynd oddi wrtho dyma lew yn ymosod arno a'i ladd.

37. Yna dyma'r proffwyd yn dweud wrth ddyn arall, “Taro fi!” A dyma hwnnw'n taro'r proffwyd yn galed a'i anafu.

38. Yna dyma proffwyd yn mynd i ddisgwyl am y brenin ar ochr y ffordd. Roedd wedi cuddio ei wyneb rhag iddo gael ei nabod.

39. Pan ddaeth y brenin heibio, dyma'r proffwyd yn galw arno. “Roeddwn i yng nghanol y frwydr a dyma rhywun yn rhoi carcharor i mi ofalu amdano. ‘Gwylia hwn!’ meddai wrtho i, ‘Os bydd e'n dianc byddi di'n talu â'th fywyd, neu dalu dirwy o dri deg pum cilogram o arian.’

40. Ond tra roedd dy was yn brysur yn gwneud hyn a'r llall, dyma'r carcharor yn diflannu.”Dyma'r brenin yn ateb, “Ti wedi dweud beth ydy'r gosb, ac felly bydd hi.”

41. Yna, heb oedi dim, dyma'r proffwyd yn dangos ei wyneb. A dyma frenin Israel yn sylweddoli ei fod yn un o'r proffwydi.

42. A dyma'r proffwyd yn dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am i ti ollwng yn rhydd y dyn roeddwn i wedi dweud ei fod i farw, byddi di'n marw yn ei le, a bydd dy bobl di yn dioddef yn lle ei bobl e.’”

43. Dyma frenin Israel yn mynd adre i Samaria yn sarrug a blin.