Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 3 beibl.net 2015 (BNET)

Duw yn rhoi doethineb i Solomon

1. Dyma Solomon yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r Pharo, brenin yr Aifft, trwy briodi ei ferch. Daeth â hi i fyw i ddinas Dafydd tra roedd yn gorffen adeiladu palas iddo'i hun, teml i'r ARGLWYDD a'r waliau o gwmpas Jerwsalem.

2. Yr adeg yna, roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid ar allorau lleol am nad oedd teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD wedi ei hadeiladu eto.

3. Roedd Solomon yn caru'r ARGLWYDD ac yn dilyn yr un polisïau â'i dad, Dafydd. Er, roedd e hefyd yn aberthu anifeiliaid ac yn llosgi arogldarth wrth yr allorau lleol.

4. Byddai'n mynd i Gibeon, am mai'r allor leol yno oedd yr un bwysicaf. Aberthodd fil o anifeiliaid yno, yn offrymau i'w llosgi'n llwyr.

5. Yna un noson pan oedd yn Gibeon dyma Solomon yn cael breuddwyd. Gwelodd yr ARGLWYDD yn dod ato a gofyn iddo, “Beth wyt ti eisiau i mi ei roi i ti?”

6. Atebodd Solomon, “Roeddet ti'n garedig iawn at Dafydd fy nhad wrth iddo fyw yn ffyddlon i ti, yn gywir ac yn onest. Ac rwyt ti wedi dal ati i fod yn arbennig o garedig drwy adael i mi, ei fab, fod yn frenin yn ei le.

7. A nawr, ARGLWYDD, fy Nuw, ti wedi fy ngwneud i yn frenin yn lle fy nhad Dafydd. Ond dyn ifanc dibrofiad ydw i,

8. a dyma fi yng nghanol y bobl rwyt ti wedi eu dewis. Mae yna gymaint ohonyn nhw mae'n amhosibl eu cyfrif nhw i gyd!

9. Rho i mi'r gallu i wrando a deall, er mwyn i mi lywodraethu dy bobl di'n iawn, a gallu dweud y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Fel arall, pa obaith sydd i unrhyw un lywodraethu cenedl mor fawr?”

10. Roedd ateb Solomon a'r hyn roedd wedi gofyn amdano yn plesio yr ARGLWYDD yn fawr.

11. A dyma Duw'n dweud wrtho, “Am mai dyna rwyt ti wedi gofyn amdano – y gallu i lywodraethu yn ddoeth – a dy fod ti ddim wedi gofyn am gael byw yn hir, neu am gyfoeth mawr, neu i dy elynion gael eu lladd,

12. dw i'n mynd roi'r hyn rwyt ti eisiau i ti. Dw i'n mynd i dy wneud di'n fwy doeth a deallus nag unrhyw un ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl.

13. Ond dw i hefyd yn mynd i roi i ti beth wnest ti ddim gofyn amdano, cyfoeth ac anrhydedd. Fydd yna ddim brenin tebyg i ti tra byddi byw.

14. Ac os byddi di'n byw yn ufudd i mi ac yn cadw fy rheolau i fel roedd dy dad Dafydd yn gwneud, bydda i'n rhoi oes hir i ti.”

15. Yna dyma Solomon yn deffro a sylweddoli ei fod wedi bod yn breuddwydio. Dyma fe'n mynd i Jerwsalem a sefyll o flaen Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD. Cyflwynodd offrymau i'w llosgi ac offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, a cynnal gwledd i'w swyddogion i gyd.

16. Yn fuan wedyn, dyma ddwy ferch yn mynd at y brenin. Roedden nhw'n buteiniaid.

17. Dyma un o'r merched yn dweud, “Syr, dw i a'r ferch yma yn byw yn yr un tŷ. Ces i fabi tra roedden ni gyda'n gilydd yn y tŷ.

18. Yna dridiau wedyn dyma hithau'n cael babi. Doedd yna neb arall yn y tŷ, dim ond ni'n dwy.

19. Un noson dyma ei mab hi'n marw; roedd hi wedi gorwedd arno.

20. Cododd yn y nos a chymryd fy mab i oedd wrth fy ymyl tra roeddwn i'n cysgu. Cymrodd fy mab i i'w chôl a rhoi ei phlentyn marw hi yn fy mreichiau i.

21. Pan wnes i ddeffro yn y bore i fwydo'r babi, roedd e wedi marw. Ond wrth edrych yn fanwl, dyma fi'n sylweddoli mai nid fy mab i oedd e.”

22. Yna dyma'r ferch arall yn dweud, “Na! Fy mab i ydy'r un byw. Dy fab di sydd wedi marw.”A dyma'r gyntaf yn ateb “Nage, yr un marw ydy dy fab di. Fy mab i ydy'r un byw.” Roedd y ddwy ohonyn nhw'n dadlau â'i gilydd fel hyn o flaen y brenin.

23. Yna dyma'r brenin yn dweud, “Mae un ohonoch chi'n dweud, ‘Fy mab i ydy hwn; mae dy fab di wedi marw’, a'r llall yn dweud, ‘Na! Dy fab di sydd wedi marw; fy mab i ydy'r un byw.’”

24. Yna dyma'r brenin yn gorchymyn i'w weision, “Dewch â chleddyf i mi.” A dyma nhw'n dod ag un iddo.

25. Wedyn dyma'r brenin yn dweud, “Torrwch y plentyn byw yn ei hanner, a rhowch hanner bob un iddyn nhw.”

26. Ond dyma fam y plentyn byw yn ymateb (achos roedd hi'n torri ei chalon wrth feddwl am y plentyn yn cael ei ladd). Dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Syr, rho'r plentyn byw iddi hi. Da chi paid â'i ladd e.” Ond roedd y llall yn dweud, “Os nad ydw i'n ei gael e, gei di mohono chwaith – rhannwch e!”

27. A dyma'r brenin yn dweud, “Rhowch y plentyn byw i'r wraig gyntaf. Peidiwch ei ladd e. Hi ydy'r fam.”

28. Pan glywodd pobl Israel am y ffordd roedd y brenin wedi setlo'r achos, roedden nhw'n rhyfeddu. Roedden nhw'n gweld fod Duw wedi rhoi doethineb anghyffredin iddo allu barnu fel yma.