Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 5 beibl.net 2015 (BNET)

Solomon yn gofyn i Hiram am goed i adeiladu'r Deml

1. Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn clywed fod Solomon wedi cael ei wneud yn frenin yn lle ei dad. A dyma fe'n anfon llysgenhadon i'w longyfarch, achos roedd Hiram wedi bod yn ffrindiau da gyda Dafydd ar hyd ei oes.

2. Felly dyma Solomon yn anfon neges yn ôl ato,

3. “Ti'n gwybod fod fy nhad, Dafydd, ddim wedi gallu adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD ei Dduw. Roedd cymaint o ryfeloedd i'w hymladd cyn i'r ARGLWYDD ei helpu i goncro ei elynion i gyd.

4. Ond bellach, diolch i'r ARGLWYDD Dduw, mae gynnon ni heddwch llwyr. Does dim un gelyn yn ymosod arnon ni nac yn ein bygwth ni.

5. Felly dw i am adeiladu teml i'r ARGLWYDD fy Nuw. Roedd e wedi dweud wrth Dafydd, fy nhad, ‘Dy fab di, yr un fydd yn frenin ar dy ôl di, fydd yn adeiladu teml i mi.’

6. Felly, rho orchymyn i dorri coed cedrwydd o Libanus i mi. Gall y gweithwyr sydd gen i weithio gyda dy weithwyr di. Gwna i dalu iddyn nhw beth bynnag rwyt ti'n ddweud. Ti'n gwybod yn iawn nad oes gynnon ni neb sy'n gallu trin coed fel pobl Sidon.”

7. Roedd Hiram yn hapus iawn pan gafodd neges Solomon. A dyma fe'n dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD heddiw, am iddo roi mab mor ddoeth i Dafydd i fod yn frenin ar y genedl fawr yna.”

8. A dyma Hiram yn anfon neges yn ôl at Solomon, yn dweud, “Dw i wedi cael dy neges di. Cei faint bynnag wyt ti eisiau o goed cedrwydd a coed pinwydd.

9. Gwnaiff fy ngweision i ddod â nhw i lawr o Libanus at y môr. Yno byddan nhw'n eu gwneud yn rafftiau, a mynd â nhw i ble bynnag wyt ti'n ddweud. Wedyn byddwn ni'n eu dadlwytho, a caiff dy weision di eu cymryd nhw. Cei di dalu drwy gyflenwi'r bwyd sydd ei angen ar fy llys brenhinol i.”

10. Felly, dyma Hiram yn rhoi i Solomon yr holl goed cedrwydd a choed pinwydd oedd e eisiau.

11. Roedd Solomon yn rhoi dau ddeg mil o fesurau o wenith a cant dau ddeg mil o alwyni o olew olewydd pur i Hiram bob blwyddyn.

12. Felly, roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi doethineb i Solomon, fel gwnaeth e addo. A dyma Hiram a Solomon yn gwneud cytundeb heddwch.

Gweithwyr Solomon

13. Dyma Solomon yn casglu tri deg mil o ddynion o bob rhan o Israel, a'u gorfodi i weithio iddo yn ddigyflog.

14. Roedd yn eu gyrru nhw i Libanus bob yn ddeg mil. Roedden nhw'n gweithio yn Libanus am fis ac yna'n cael dau fis gartref. Adoniram oedd y swyddog oedd yn gyfrifol am y gweithlu gorfodol.

15. Yn ogystal â'r rhain roedd gan Solomon saith deg mil o labrwyr ac wyth deg mil o chwarelwyr yn y bryniau,

16. heb sôn am y tair mil tri chant o fformyn oedd yn arolygu'r gweithwyr.

17. Roedd y brenin wedi gorchymyn iddyn nhw ddod â cherrig anferth, costus wedi eu naddu'n barod i adeiladu sylfeini'r deml.

18. Roedd dynion o Gebal yn helpu adeiladwyr Solomon a Hiram i naddu'r cerrig a paratoi'r coed ar gyfer adeiladu'r deml.