Felly dyma Ahab yn casglu swyddogion ifainc y taleithiau at ei gilydd, ac roedd yna ddau gant tri deg dau ohonyn nhw. Wedyn dyma fe'n casglu byddin Israel, ac roedd yna saith mil ohonyn nhw.