Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yr oedd gweiddi mawr gan y bobl, a'u gwragedd, yn erbyn yr Iddewon eu brodyr.

2. Canys yr oedd rhai yn dywedyd, Y mae llawer ohonom ni, ein meibion, a'n merched: am hynny yr ydym yn cymryd ŷd, fel y bwytaom, ac y byddom byw.

3. Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd, Ein meysydd, a'n gwinllannoedd, a'n tai, yr ydym ni yn eu gwystlo, fel y prynom ŷd rhag y newyn.

4. Ac yr oedd rhai eraill yn dywedyd, Benthyciasom arian i dalu treth y brenin, a hynny ar ein tiroedd a'n gwinllannoedd.

5. Ac yn awr, ein cnawd ni sydd fel cnawd ein brodyr, ein plant ni fel eu plant hwy: ac wele ni yn darostwng ein meibion a'n merched yn weision, ac y mae rhai o'n merched ni wedi eu caethiwo, ac heb fod gennym i'w rhyddhau; canys gan eraill y mae ein meysydd a'n gwinllannoedd hyn.

6. Yna y llidiais yn ddirfawr, pan glywais eu gwaedd hwynt, a'r geiriau hyn.

7. Fy nghalon hefyd a feddyliodd ynof, a mi a ddwrdiais y pendefigion, a'r swyddogion, ac a ddywedais wrthynt, Yr ydych chwi yn cymryd ocraeth bob un gan ei frawd. A gosodais yn eu herbyn hwynt gynulleidfa fawr.

8. Dywedais hefyd wrthynt, Nyni yn ôl ein gallu a brynasom ein brodyr yr Iddewon, y rhai a werthasid i'r cenhedloedd; ac a ydych chwithau yn gwerthu eich brodyr? neu a werthir hwynt i ni? Yna y tawsant, ac ni chawsant air i ateb.

9. A mi a ddywedais, Nid da y peth yr ydych chwi yn ei wneuthur: oni ddylech chwi rodio mewn ofn ein Duw ni, o achos gwaradwydd y cenhedloedd ein gelynion?

10. Myfi hefyd, a'm brodyr, a'm llanciau, ydym yn echwynno iddynt arian ac ŷd: peidiwn, atolwg, â'r ocraeth yma.

11. Rhoddwch atolwg, iddynt heddiw eu meysydd, eu gwinllannoedd, a'u holewyddlannoedd, a'u tai drachefn; a chanfed ran yr arian, a'r ŷd, y gwin, a'r olew, yr ydych chwi yn ei fynnu ganddynt.

12. Hwythau a ddywedasant, Nyni a'u rhoddwn drachefn, ac ni cheisiwn ddim ganddynt; felly y gwnawn fel yr ydwyt yn llefaru. Yna y gelwais yr offeiriaid, ac a'u tyngais hwynt ar wneuthur yn ôl y gair hwn.

13. A mi a ysgydwais odre fy ngwisg, ac a ddywedais, Felly yr ysgydwo Duw bob gŵr o'i dŷ, ac o'i lafur, yr hwn ni chwblhao y gair hwn, ac felly y byddo efe yn ysgydwedig, ac yn wag. A'r holl gynulleidfa a ddywedasant, Amen: ac a folianasant yr Arglwydd. A'r bobl a wnaeth yn ôl y gair hwn.

14. Ac o'r dydd y gosodwyd fi yn dywysog iddynt hwy yng ngwlad Jwda, o'r ugeinfed flwyddyn hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses y brenin, sef deuddeng mlynedd, ni fwyteais i na'm brodyr fara y tywysog.

15. Ond y tywysogion cyntaf, y rhai a fuasai o'm blaen i, fuasent drymion ar y bobl, ac a gymerasent ganddynt fara a gwin, heblaw deugain sicl o arian; eu llanciau hefyd a arglwyddiaethent ar y bobl: ond ni wneuthum i felly, rhag ofn Duw.

16. Eithr myfi a gyweiriais ran yng ngwaith y mur hwn, ac ni phrynasom un maes: a'm holl weision i a ymgynullasant yno at y gwaith.

17. Ac yr oedd ar fy mwrdd i, o Iddewon ac o swyddogion, ddengwr a saith ugain, heblaw y rhai oedd yn dyfod atom ni o'r cenhedloedd y rhai oedd o'n hamgylch.

18. A'r hyn a arlwyid beunydd oedd un ych, chwech o ddefaid dewisol, ac adar wedi eu paratoi i mi; a phob deng niwrnod y rhoddid gwin o bob math, yn ddiamdlawd: ac er hyn ni cheisiais fara y tywysog; canys trwm oedd y caethiwed ar y bobl yma.

19. Cofia fi, O fy Nuw, er lles i mi, yn ôl yr hyn oll a wneuthum i'r bobl hyn.