Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna Eliasib yr archoffeiriad a gyfododd, a'i frodyr yr offeiriaid, a hwy a adeiladasant borth y defaid; hwy a'i cysegrasant, ac a osodasant ei ddorau ef; ie, hyd dŵr Mea y cysegrasant ef, a hyd dŵr Hananeel.

2. A cherllaw iddo ef yr adeiladodd gwŷr Jericho. A cherllaw iddynt hwy yr adeiladodd Saccur mab Imri.

3. A meibion Hassenaa a adeiladasant borth y pysgod; hwynt‐hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant ei ddorau, ei gloeau, a'i farrau.

4. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Meremoth mab Ureia, mab Cos. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Mesulam mab Berecheia, mab Mesesabeel. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Sadoc mab Baana.

5. A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd y Tecoiaid; ond eu gwŷr mawr ni osodasant eu gwddf yng ngwasanaeth eu Harglwydd.

6. A Jehoiada mab Pasea, a Mesulam mab Besodeia, a gyweiriasant yr hen borth; hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant i fyny ei ddorau, a'i gloeau, a'i farrau.

7. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Melatia y Gibeoniad, a Jadon y Meronothiad, gwŷr Gibeon a Mispa, hyd orseddfa y llywydd oedd tu yma i'r afon.

8. Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Ussiel mab Harhaia, o'r gofaint aur. Gerllaw iddo yntau y cyweiriodd Hananeia, mab un o'r apothecariaid: a hwy a gyweiriasant Jerwsalem hyd y mur llydan.

9. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Reffaia mab Hur, tywysog hanner rhan Jerwsalem.

10. A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd Jedaia mab Harumaff, ar gyfer ei dŷ. A Hattus mab Hasabneia a gyweiriodd gerllaw iddo yntau.

11. Malcheia mab Harim, a Hasub mab Pahath‐Moab, a gyweiriasant ran arall, a thŵr y ffyrnau.

12. A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Salum mab Halohes, tywysog hanner rhan Jerwsalem, efe a'i ferched.

13. Porth y glyn a gyweiriodd Hanun, a thrigolion Sanoa; hwynt‐hwy a'i hadeiladasant ef, ac a osodasant ei ddorau ef, ei gloeau, a'i farrau, a mil o gufyddau ar y mur, hyd borth y dom.

14. Ond porth y dom a gyweiriodd Malcheia mab Rechab, tywysog rhan o Beth‐haccerem; efe a'i hadeiladodd, ac a osododd ei ddorau, ei gloeau, a'i farrau.

15. A Salum mab Col‐hose, tywysog rhan o Mispa, a gyweiriodd borth y ffynnon; efe a'i hadeiladodd, ac a'i todd, ac a osododd ei ddorau ef, ei gloeau, a'i farrau, a mur pysgodlyn Siloa, wrth ardd y brenin, a hyd y grisiau sydd yn dyfod i waered o ddinas Dafydd.

16. Ar ei ôl ef y cyweiriodd Nehemeia mab Asbuc, tywysog hanner rhan Beth‐sur, hyd ar gyfer beddrod Dafydd, a hyd y pysgodlyn a wnaethid, a hyd dŷ y cedyrn.

17. Ar ei ôl ef y cyweiriodd y Lefiaid, Rehum mab Bani. Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Hasabeia, tywysog hanner rhan Ceila, yn ei fro ei hun.

18. Ar ei ôl ef eu brodyr hwynt a gyweiriasant, Bafai mab Henadad, tywysog hanner rhan Ceila.

19. A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Eser mab Jesua, tywysog Mispa, ran arall ar gyfer y ddringfa i dŷ yr arfau, wrth y drofa.

20. Ar ei ôl ef Baruc mab Sabbai yn awyddus a gyweiriodd y mesur arall, o'r drofa hyd ddrws tŷ Eliasib yr archoffeiriad.

21. Ar ei ôl ef Meremoth mab Ureia, fab Cos, a gyweiriodd y mesur arall, o ddrws tŷ Eliasib hyd dalcen tŷ Eliasib.

22. Ac ar ei ôl ef yr offeiriaid, gwŷr y gwastadedd, a gyweiriasant.

23. Ar ei ôl ef y cyweiriodd Benjamin, a Hasub, gyferbyn â'u tŷ. Wedi yntau Asareia mab Maaseia, mab Ananeia, a gyweiriodd wrth ei dŷ.

24. Ar ei ôl yntau Binnui mab Henadad a gyweiriodd fesur arall, o dŷ Asareia hyd y drofa, sef hyd y gongl.

25. Palal mab Usai, ar gyfer y drofa, a'r tŵr sydd yn myned allan o ucheldy y brenin, yr hwn sydd wrth gyntedd y carchar. Ar ei ôl ef, Pedaia mab Paros.

26. A'r Nethiniaid, y rhai oedd yn trigo yn Offel, hyd ar gyfer porth y dwfr, tua'r dwyrain, a'r tŵr oedd yn myned allan.

27. Ar ei ôl yntau y Tecoiaid a gyweiriasant fesur arall, ar gyfer y tŵr mawr sydd yn myned allan, hyd fur Offel.

28. Oddi ar borth y meirch, yr offeiriaid a gyweiriasant bob un gyferbyn â'i dŷ.

29. Ar eu hôl hwynt Sadoc mab Immer a gyweiriodd ar gyfer ei dŷ. Ac ar ei ôl yntau y cyweiriodd Semaia mab Sechaneia, ceidwad porth y dwyrain.

30. Ar ei ôl ef y cyweiriodd Hananeia mab Selemeia, a Hanun chweched mab Salaff, y mesur arall. Ar ei ôl yntau Mesulam mab Berecheia a gyweiriodd ar gyfer ei ystafell.

31. Ar ei ôl yntau Malcheia, mab y gof aur, a gyweiriodd hyd dŷ y Nethiniaid, a'r marchnadyddion ar gyfer porth Miffcad, hyd ystafell y gongl.

32. A rhwng ystafell y gongl a phorth y defaid, yr eurychod a'r marchnadyddion a gyweiriasant.