1. A'r rhai a seliodd oedd, Nehemeia y Tirsatha, mab Hachaleia, a Sidcia,
2. Seraia, Asareia, Jeremeia,
3. Pasur, Amareia, Malcheia,
4. Hattus, Sebaneia, Maluch,
5. Harim, Meremoth, Obadeia,
6. Daniel, Ginnethon, Baruch,
7. Mesulam, Abeia, Miamin,
8. Maaseia, Bilgai, Semaia: dyma yr offeiriaid.
9. A'r Lefiaid: Jesua mab Asaneia, Binnui o feibion Henadad, Cadmiel;
10. A'u brodyr hwynt; Sebaneia, Hodeia, Celita, Pelaia, Hanan,
11. Micha, Rehob, Hasabeia,
12. Saccur, Serebeia, Sebaneia,
13. Hodeia, Bani, Beninu.
14. Penaethiaid y bobl; Paros, Pahath‐Moab, Elam, Sattu, Bani,
15. Bunni, Asgad, Bebai,
16. Adoneia, Bigfai, Adin,
17. Ater, Hisceia, Assur,
18. Hodeia, Hasum, Besai,
19. Hariff, Anathoth, Nebai,
20. Magpias, Mesulam, Hesir,
21. Mesesabeel, Sadoc, Jadua,
22. Pelatia, Hanan, Anaia,
23. Hosea, Hananeia, Hasub,
24. Halohes, Pileha, Sobec,
25. Rehum, Hasabna, Maaseia,
26. Ac Ahïa, Hanan, Anan,
27. Maluch, Harim, Baana.
28. A'r rhan arall o'r bobl, yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, y Nethiniaid, a phawb a'r a ymneilltuasent oddi wrth bobl y gwledydd at gyfraith Dduw, eu gwragedd hwynt, eu meibion, a'u merched, pawb a'r a oedd â gwybodaeth ac â deall ganddo;
29. Hwy a lynasant wrth eu brodyr, eu penaethiaid, ac a aethant mewn rhaith a llw ar rodio yng nghyfraith Dduw, yr hon a roddasid trwy law Moses gwas Duw: ac ar gadw ac ar wneuthur holl orchmynion yr Arglwydd ein Harglwydd ni, a'i farnedigaethau, a'i ddeddfau:
30. Ac ar na roddem ein merched i bobl y wlad: ac na chymerem eu merched hwy i'n meibion ni:
31. Ac o byddai pobl y tir yn dwyn marchnadoedd, neu ddim lluniaeth ar y dydd Saboth i'w werthu, na phrynem ddim ganddynt ar y Saboth, neu ar y dydd sanctaidd; ac y gadawem heibio y seithfed flwyddyn, a chodi pob dyled.
32. A ni a osodasom arnom ddeddfau, ar i ni roddi traean sicl yn y flwyddyn, tuag at wasanaeth tŷ ein Duw ni,
33. A thuag at y bara gosod, a'r bwyd‐offrwm gwastadol, a thuag at y poethoffrwm gwastadol, y Sabothau, y newyddloerau, a'r gwyliau arbennig, a thuag at y cysegredig bethau, a thuag at y pech-ebyrth, i wneuthur cymod dros Israel; a thuag at holl waith tŷ ein Duw.
34. A ni a fwriasom goelbrennau yr offeiriaid, y Lefiaid, a'r bobl, am goed yr offrwm, fel y dygent hwynt i dŷ ein Duw ni, yn ôl tai ein tadau ni, ar amserau nodedig, o flwyddyn i flwyddyn, i'w llosgi ar allor yr Arglwydd ein Duw, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith:
35. Ac i ddwyn blaenffrwyth ein tir, a blaenffrwyth o bob ffrwyth o bob pren, o flwyddyn i flwyddyn, i dŷ yr Arglwydd:
36. A'r rhai cyntaf‐anedig o'n meibion, ac o'n hanifeiliaid, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith, a chyntaf‐anedigion ein gwartheg a'n defaid, i'w dwyn i dŷ ein Duw, at yr offeiriaid sydd yn gwasanaethu yn nhŷ ein Duw ni.
37. A blaenion ein toes, a'n hoffrymau, a ffrwyth pob pren, gwin ac olew, a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein Duw, a degwm ein tir i'r Lefiaid; fel y câi y Lefiaid hwythau ddegwm trwy holl ddinasoedd ein llafur ni.
38. A bydd yr offeiriad, mab Aaron, gyda'r Lefiaid, pan fyddo'r Lefiaid yn degymu: a dyged y Lefiaid i fyny ddegfed ran y degwm i dŷ ein Duw ni, i'r celloedd yn y trysordy.
39. Canys meibion Israel a meibion Lefi a ddygant offrwm yr ŷd, y gwin, a'r olew, i'r ystafelloedd, lle y mae llestri'r cysegr, a'r offeiriaid sydd yn gweini, a'r porthorion, a'r cantorion; ac nac ymwrthodwn â thŷ ein Duw.