Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Aphan glybu Sanbalat, a Thobeia, a Gesem yr Arabiad, a'r rhan arall o'n gelynion, adeiladu ohonof fi y mur, ac nad oedd adwy wedi ei gadael ynddo; (er na osodaswn i y pryd hwnnw y dorau ar y pyrth;)

2. Yna yr anfonodd Sanbalat a Gesem ataf, gan ddywedyd, Tyred, ac ymgyfarfyddwn ynghyd yn un o'r pentrefi yng ngwastadedd Ono. Ac yr oeddynt hwy yn bwriadu gwneuthur niwed i mi.

3. Minnau a anfonais genhadau atynt hwy, gan ddywedyd, Gwaith mawr yr ydwyf fi yn ei wneuthur; oherwydd hynny ni allaf ddyfod i waered: paham y safai y gwaith, pan ymadawn ag ef, a dyfod i waered atoch chwi?

4. Eto hwy a anfonasant ataf fi yn y wedd hon bedair gwaith; ac yn y modd hwnnw yr atebais hwynt.

5. Yna Sanbalat a anfonodd ei was ataf fi y bumed waith yr un ffunud, â llythyr agored yn ei law:

6. Ynddo yr oedd yn ysgrifenedig, Ymysg y cenhedloedd y mae y gair, a Gasmu sydd yn dywedyd, dy fod di a'r Iddewon yn amcanu gwrthryfela: oherwydd hynny dy fod di yn adeiladu y mur, fel y byddit frenin arnynt, yn ôl y geiriau hyn;

7. A'th fod dithau hefyd wedi gosod proffwydi i bregethu amdanat yn Jerwsalem, gan ddywedyd, Y mae brenin yn Jwda. Ac yn awr y fath ymadroddion â hyn a glyw y brenin: gan hynny tyred yn awr, ac ymgynghorwn ynghyd.

8. Yna yr anfonais ato, gan ddywedyd, Ni ddarfu yn ôl yr ymadroddion hyn yr ydwyt ti yn eu dywedyd: ond o'th galon dy hun yr ydwyt yn eu dychmygu hwynt.

9. Oblegid hwynt‐hwy oll oedd yn ceisio ein hofni ni, gan ddywedyd, Eu dwylo hwy a laesant oddi wrth y gwaith, fel nas gwneir ef. Gan hynny cryfha yn awr, O Dduw, fy nwylo i.

10. A mi a ddeuthum i dŷ Semaia mab Delaia, mab Mehetabeel, yr hwn oedd wedi cau arno; ac efe a ddywedodd, Cyfarfyddwn yn nhŷ Dduw, a chaewn ddrysau y deml: canys y maent yn dyfod i'th ladd di; a lliw nos y deuant i'th ladd di.

11. Yna y dywedais, a ffy gŵr o'm bath i? neu pwy sydd fel myfi yr hwn a elai i'r deml, fel y byddai byw? Nid af i mewn.

12. Ac wele, gwybûm nad Duw a'i hanfonasai ef; ond llefaru ohono ef y broffwydoliaeth hon yn fy erbyn i: canys Tobeia a Sanbalat a'i cyflogasent ef.

13. Oherwydd hyn y cyflogasid ef, fel y'm hofnid i, ac y gwnawn felly, ac y pechwn; ac y byddai hynny ganddynt yn enllib i'm herbyn, fel y'm gwaradwyddent.

14. O fy Nuw, cofia Tobeia a Sanbalat, yn ôl eu gweithredoedd hynny; a Noadeia y broffwydes hefyd, a'r rhan arall o'r proffwydi y rhai oedd yn fy nychrynu i.

15. A'r mur a orffennwyd ar y pumed dydd ar hugain o Elul, mewn deuddeng niwrnod a deugain.

16. A phan glybu ein holl elynion ni hynny, a gweled o'r holl genhedloedd y rhai oedd o'n hamgylch, hwy a ofnasant, ac a lwfrhasant yn ddirfawr ynddynt eu hun: canys gwybuant mai trwy ein Duw ni y gwnaethid y gwaith hwn.

17. Ac yn y dyddiau hyn pendefigion Jwda oedd yn mynych ddanfon eu llythyrau at Tobeia; a'r eiddo Tobeia oedd yn dyfod atynt hwythau.

18. Canys yr oedd llawer yn Jwda mewn cynghrair ag ef; oherwydd daw oedd efe i Sechaneia mab Ara; a Johanan ei fab ef a gymerasai ferch Mesulam mab Berecheia yn wraig iddo.

19. A'i gymwynasau ef y byddent hwy yn eu mynegi ger fy mron i; fy ngeiriau innau hefyd y byddent yn eu hadrodd iddo yntau. A Thobeia a anfonodd lythyrau i'm dychrynu i.