Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 12:14-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Ac a lefarodd wrthynt hwy yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd, Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a'ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a'ch ceryddaf chwi ag ysgorpionau.

15. Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl. Oherwydd yr achos oedd oddi wrth yr Arglwydd, fel y cwblheid ei air ef, yr hwn a lefarasai yr Arglwydd trwy law Ahia y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat.

16. A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, dos i'th bebyll; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly Israel a aethant i'w pebyll.

17. Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy.

18. A'r brenin Rehoboam a anfonodd Adoram, yr hwn oedd ar y dreth; a holl Israel a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw. Am hynny y brenin Rehoboam a brysurodd i fyned i'w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem.

19. Felly Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn.

20. A phan glybu holl Israel ddychwelyd o Jeroboam, hwy a anfonasant ac a'i galwasant ef at y gynulleidfa, ac a'i gosodasant ef yn frenin ar holl Israel: nid oedd yn myned ar ôl tŷ Dafydd, ond llwyth Jwda yn unig.

21. A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd holl dŷ Jwda, a llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd yn erbyn tŷ Israel, i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam mab Solomon.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 12