1 Brenhinoedd 12:20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
A phan glybu holl Israel ddychwelyd o Jeroboam, hwy a anfonasant ac a'i galwasant ef at y gynulleidfa, ac a'i gosodasant ef yn frenin ar holl Israel: nid oedd yn myned ar ôl tŷ Dafydd, ond llwyth Jwda yn unig.