Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna Rehoboam a aeth i Sichem: canys i Sichem y daethai holl Israel i'w urddo ef yn frenin.

2. A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac efe eto yn yr Aifft, (canys efe a ffoesai o ŵydd Solomon y brenin, a Jeroboam a arosasai yn yr Aifft;)

3. Hwy a anfonasant, ac a alwasant arno ef. A Jeroboam a holl gynulleidfa Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant â Rehoboam, gan ddywedyd,

4. Dy dad di a wnaeth ein hiau ni yn drom: ac yn awr ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o'i iau drom ef a roddodd efe arnom ni, ac ni a'th wasanaethwn di.

5. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch eto dridiau; yna dychwelwch ataf fi. A'r bobl a aethant ymaith.

6. A'r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â'r henuriaid a fuasai yn sefyll gerbron Solomon ei dad ef, tra yr ydoedd efe yn fyw, ac a ddywedodd, Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb i'r bobl hyn?

7. A hwy a lefarasant wrtho ef, gan ddywedyd, Os byddi di heddiw was i'r bobl hyn, a'u gwasanaethu hwynt, a'u hateb hwynt, a llefaru wrthynt eiriau teg; yna y byddant weision i ti byth.

8. Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid, yr hwn a gyngorasent iddo ef; ac efe a ymgynghorodd â'r gwŷr ieuainc a gynyddasai gydag ef, a'r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef:

9. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha yr iau a roddodd dy dad arnom ni?

10. A'r gwŷr ieuainc, y rhai a gynyddasent gydag ef, a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi di wrth y bobl yma, y rhai a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad di a drymhaodd ein hiau ni, ond ysgafnha di hi arnom ni; fel hyn y lleferi di wrthynt; Fy mys bach fydd breisgach na llwynau fy nhad.

11. Ac yn awr fy nhad a'ch llwythodd â iau drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a'ch cosbodd chwi â ffrewyllau, a mi a'ch cosbaf chwi ag ysgorpionau.

12. A daeth Jeroboam a'r holl bobl at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llefarasai y brenin, gan ddywedyd, Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd.

13. A'r brenin a atebodd y bobl yn arw, ac a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo;

14. Ac a lefarodd wrthynt hwy yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd, Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a'ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a'ch ceryddaf chwi ag ysgorpionau.

15. Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl. Oherwydd yr achos oedd oddi wrth yr Arglwydd, fel y cwblheid ei air ef, yr hwn a lefarasai yr Arglwydd trwy law Ahia y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat.

16. A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, dos i'th bebyll; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly Israel a aethant i'w pebyll.

17. Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy.

18. A'r brenin Rehoboam a anfonodd Adoram, yr hwn oedd ar y dreth; a holl Israel a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw. Am hynny y brenin Rehoboam a brysurodd i fyned i'w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem.

19. Felly Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn.

20. A phan glybu holl Israel ddychwelyd o Jeroboam, hwy a anfonasant ac a'i galwasant ef at y gynulleidfa, ac a'i gosodasant ef yn frenin ar holl Israel: nid oedd yn myned ar ôl tŷ Dafydd, ond llwyth Jwda yn unig.

21. A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd holl dŷ Jwda, a llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd yn erbyn tŷ Israel, i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam mab Solomon.

22. Ond gair Duw a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd,

23. Adrodd wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda, ac wrth holl dŷ Jwda a Benjamin, a gweddill y bobl, gan ddywedyd,

24. Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel; dychwelwch bob un i'w dŷ ei hun: canys trwof fi y mae y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar air yr Arglwydd, ac a ddychwelasant i fyned ymaith, yn ôl gair yr Arglwydd.

25. Yna Jeroboam a adeiladodd Sichem ym mynydd Effraim, ac a drigodd ynddi hi; ac a aeth oddi yno, ac adeiladodd Penuel.

26. A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon, Yn awr y dychwel y frenhiniaeth at dŷ Dafydd.

27. Os â y bobl hyn i fyny i wneuthur aberthau yn nhŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem, yna y try calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehoboam brenin Jwda, a hwy a'm lladdant i, ac a ddychwelant at Rehoboam brenin Jwda.

28. Yna y brenin a ymgynghorodd, ac a wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem: wele dy dduwiau di, O Israel, y rhai a'th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.

29. Ac efe a osododd un yn Bethel, ac a osododd y llall yn Dan.

30. A'r peth hyn a aeth yn bechod: oblegid y bobl a aethant gerbron y naill hyd Dan.

31. Ac efe a wnaeth dŷ uchelfeydd, ac a wnaeth offeiriaid o'r rhai gwaelaf o'r bobl, y rhai nid oedd o feibion Lefi.

32. A Jeroboam a wnaeth uchel ŵyl yn yr wythfed mis, ar y pymthegfed dydd o'r mis, fel yr uchel ŵyl oedd yn Jwda; ac efe a offrymodd ar yr allor. Felly y gwnaeth efe yn Bethel, gan aberthu i'r lloi a wnaethai efe: ac efe a osododd yn Bethel offeiriaid yr uchelfaoedd a wnaethai efe.

33. Ac efe a offrymodd ar yr allor a wnaethai efe yn Bethel, y pymthegfed dydd o'r wythfed mis, sef yn y mis a ddychmygasai efe yn ei galon ei hun; ac efe a wnaeth uchel ŵyl i feibion Israel: ac efe a aeth i fyny at yr allor i arogldarthu.