A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, dos i'th bebyll; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly Israel a aethant i'w pebyll.