Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau 16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Timotheus yn Mynd gyda Paul a Silas

1. Cyrhaeddodd Derbe ac yna Lystra. Yno yr oedd disgybl o'r enw Timotheus, mab i wraig grediniol o Iddewes, a'i dad yn Roegwr.

2. Yr oedd gair da iddo gan y credinwyr yn Lystra ac Iconium.

3. Yr oedd Paul am i hwn fynd ymaith gydag ef, a chymerodd ef ac enwaedu arno, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny, oherwydd yr oeddent i gyd yn gwybod mai Groegwr oedd ei dad.

4. Fel yr oeddent yn teithio trwy'r dinasoedd, yr oeddent yn traddodi iddynt, er mwyn iddynt eu cadw, y gorchmynion a ddyfarnwyd gan yr apostolion a'r henuriaid oedd yn Jerwsalem.

5. Felly yr oedd yr eglwysi yn ymgadarnhau yn y ffydd, ac yn amlhau mewn rhif beunydd.

Y Gŵr o Facedonia yn Ymddangos i Paul

6. Aethant trwy ranbarth Phrygia a Galatia, ar ôl i'r Ysbryd Glân eu rhwystro rhag llefaru'r gair yn Asia.

7. Wedi iddynt ddod hyd at Mysia, yr oeddent yn ceisio mynd i Bithynia, ond ni chaniataodd ysbryd Iesu iddynt.

8. Ac aethant heibio i Mysia, a dod i lawr i Troas.

9. Ymddangosodd gweledigaeth i Paul un noson—gŵr o Facedonia yn sefyll ac yn ymbil arno a dweud, “Tyrd drosodd i Facedonia, a chymorth ni.”

10. Pan gafodd ef y weledigaeth, rhoesom gynnig ar fynd i Facedonia ar ein hunion, gan gasglu mai Duw oedd wedi ein galw i gyhoeddi'r newydd da iddynt hwy.

Tröedigaeth Lydia

11. Ac wedi hwylio o Troas, aethom ar union hynt i Samothrace, a thrannoeth i Neapolis,

12. ac oddi yno i Philipi; dinas yw hon yn rhanbarth gyntaf Macedonia, ac y mae'n drefedigaeth Rufeinig. Buom yn treulio rhai dyddiau yn y ddinas hon.

13. Ar y dydd Saboth aethom y tu allan i'r porth at lan afon, gan dybio fod yno le gweddi. Wedi eistedd, dechreusom lefaru wrth y gwragedd oedd wedi dod ynghyd.

14. Ac yn gwrando yr oedd gwraig o'r enw Lydia, un oedd yn gwerthu porffor, o ddinas Thyatira, ac un oedd yn addoli Duw. Agorodd yr Arglwydd ei chalon hi i ddal ar y pethau yr oedd Paul yn eu dweud.

15. Fe'i bedyddiwyd hi a'i theulu, ac yna deisyfodd arnom, gan ddweud, “Os ydych yn barnu fy mod yn credu yn yr Arglwydd, dewch i mewn ac arhoswch yn fy nhŷ.” A mynnodd ein cael yno.

I'r Carchar yn Philipi

16. Un tro pan oeddem ar ein ffordd i'r lle gweddi, daeth rhyw gaethferch a chanddi ysbryd dewiniaeth i'n cyfarfod, un oedd yn dwyn elw mawr i'w meistri trwy ddweud ffortiwn.

17. Dilynodd hon Paul a ninnau, gan weiddi: “Gweision y Duw Goruchaf yw'r dynion hyn, ac y maent yn cyhoeddi i chwi ffordd iachawdwriaeth.”

18. Gwnaeth hyn am ddyddiau lawer. Blinodd Paul arni, a throes ar yr ysbryd a dweud, “Rwy'n gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, ddod allan ohoni.” Ac allan y daeth, y munud hwnnw.

19. Pan welodd ei meistri hi fod eu gobaith am elw wedi diflannu, daliasant Paul a Silas, a'u llusgo i'r farchnadfa o flaen yr awdurdodau,

20. ac wedi dod â hwy gerbron yr ynadon, meddent, “Y mae'r dynion yma'n cythryblu ein dinas ni; Iddewon ydynt,

21. ac y maent yn cyhoeddi defodau nad yw'n gyfreithlon i ni, sy'n Rhufeinwyr, eu derbyn na'u harfer.”

22. Yna ymunodd y dyrfa yn yr ymosod arnynt. Rhwygodd yr ynadon y dillad oddi amdanynt, a gorchymyn eu curo â ffyn.

23. Ac wedi rhoi curfa dost iddynt bwriasant hwy i garchar, gan rybuddio ceidwad y carchar i'w cadw'n ddiogel.

24. Gan iddo gael y fath rybudd, bwriodd yntau hwy i'r carchar mewnol, a rhwymo'u traed yn y cyffion.

25. Tua hanner nos, yr oedd Paul a Silas yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw, a'r carcharorion yn gwrando arnynt.

26. Ac yn sydyn bu daeargryn mawr, nes siglo seiliau'r carchar. Agorwyd yr holl ddrysau ar unwaith, a datodwyd rhwymau pawb.

27. Deffrôdd ceidwad y carchar, a phan welodd ddrysau'r carchar yn agored, tynnodd ei gleddyf ac yr oedd ar fin ei ladd ei hun, gan dybio fod ei garcharorion wedi dianc.

28. Ond gwaeddodd Paul yn uchel, “Paid â gwneud dim niwed i ti dy hun; yr ydym yma i gyd.”

29. Galwodd ef am oleuadau, a rhuthrodd i mewn; daeth cryndod arno, a syrthiodd o flaen Paul a Silas.

30. Yna daeth â hwy allan a dweud, “Foneddigion, beth sy raid imi ei wneud i gael fy achub?”

31. Dywedasant hwythau, “Cred yn yr Arglwydd Iesu, ac fe gei dy achub, ti a'th deulu.”

32. A thraethasant air yr Arglwydd wrtho ef ac wrth bawb oedd yn ei dŷ.

33. Er ei bod yn hwyr y nos, aeth ef â hwy a golchi eu briwiau; ac yn union wedyn fe'i bedyddiwyd ef a phawb o'i deulu.

34. Yna, wedi dod â hwy i'w dŷ, gosododd bryd o fwyd o'u blaen, a gorfoleddodd gyda'i holl deulu am ei fod wedi credu yn Nuw.

35. Pan ddaeth yn ddydd, anfonodd yr ynadon y rhingylliaid â'r neges: “Gollwng y dynion hynny'n rhydd.”

36. Adroddodd ceidwad y carchar y neges hon wrth Paul: “Y mae'r ynadon wedi anfon gair i'ch gollwng yn rhydd. Felly, dewch allan yn awr, ac ewch mewn tangnefedd.”

37. Ond atebodd Paul hwy, “Cyn ein bwrw ni i garchar, fflangellasant ni ar goedd, heb farnu ein hachos, er ein bod yn ddinasyddion Rhufain. A ydynt yn awr i gael ein bwrw ni allan yn ddirgel? Nac ydynt, yn wir! Gadewch iddynt ddod eu hunain a'n tywys ni allan.”

38. Adroddodd y rhingylliaid y neges hon wrth yr ynadon, a chawsant hwy fraw pan glywsant mai Rhufeinwyr oedd Paul a Silas.

39. Aethant i ymddiheuro iddynt, ac wedi eu tywys hwy allan, gofynasant iddynt fynd i ffwrdd o'r ddinas.

40. Wedi dod allan o'r carchar, aethant i dŷ Lydia, a gwelsant y credinwyr, a'u calonogi. Yna aethant ymaith.