Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau 5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Ananias a Saffeira

1. Ond yr oedd rhyw ddyn o'r enw Ananias, ynghyd â'i wraig Saffeira, wedi gwerthu eiddo.

2. Cadwodd ef beth o'r tâl yn ôl, a'i wraig hithau'n gwybod, a daeth â rhyw gyfran a'i osod wrth draed yr apostolion.

3. Ond meddai Pedr, “Ananias, sut y bu i Satan lenwi dy galon i ddweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân, a chadw'n ôl beth o'r tâl am y tir?

4. Tra oedd yn aros heb ei werthu, onid yn dy feddiant di yr oedd yn aros? Ac wedi ei werthu, onid gennyt ti yr oedd yr hawl ar yr arian? Sut y rhoddaist le yn dy feddwl i'r fath weithred? Nid wrth ddynion y dywedaist gelwydd, ond wrth Dduw.”

5. Wrth glywed y geiriau hyn syrthiodd Ananias yn farw, a daeth ofn mawr ar bawb a glywodd.

6. A chododd y dynion ifainc, a rhoi amdo amdano, a mynd ag ef allan a'i gladdu.

7. Aeth rhyw deirawr heibio, a daeth ei wraig i mewn, heb wybod beth oedd wedi digwydd.

8. Dywedodd Pedr wrthi, “Dywed i mi, ai am hyn a hyn y gwerthasoch y tir?” “Ie,” meddai hithau, “am hyn a hyn.”

9. Ac meddai Pedr wrthi, “Sut y bu ichwi gytuno i roi prawf ar Ysbryd yr Arglwydd? Dyma wrth y drws sŵn traed y rhai a fu'n claddu dy ŵr, ac fe ânt â thithau allan hefyd.”

10. Ar unwaith syrthiodd hithau wrth ei draed, a marw. Daeth y dynion ifainc i mewn a'i chael hi'n gorff, ac aethant â hi allan, a'i chladdu gyda'i gŵr.

11. Daeth ofn mawr ar yr holl eglwys ac ar bawb a glywodd am hyn.

Gwneud Arwyddion a Rhyfeddodau Lawer

12. Trwy ddwylo'r apostolion gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl. Yr oeddent oll yn arfer dod ynghyd yng Nghloestr Solomon.

13. Nid oedd neb arall yn meiddio ymlynu wrthynt, ond yr oedd y bobl yn eu mawrygu,

14. ac yr oedd credinwyr yn cael eu chwanegu fwyfwy at yr Arglwydd, luoedd o wŷr a gwragedd.

15. Yn wir, yr oeddent hyd yn oed yn dod â'r cleifion allan i'r heolydd, ac yn eu gosod ar welyau a matresi, fel pan fyddai Pedr yn mynd heibio y câi ei gysgod o leiaf ddisgyn ar ambell un ohonynt.

16. Byddai'r dyrfa'n ymgynnull hefyd o'r trefi o amgylch Jerwsalem, gan ddod â chleifion a rhai oedd yn cael eu blino gan ysbrydion aflan; ac yr oeddent yn cael eu hiacháu bob un.

Erlid yr Apostolion

17. Ond llanwyd yr archoffeiriad ag eiddigedd, a'r holl rai hynny oedd gydag ef, sef plaid y Sadwceaid.

18. Cymerasant afael yn yr apostolion, a'u rhoi mewn dalfa gyhoeddus.

19. Ond yn ystod y nos agorodd angel yr Arglwydd ddrysau'r carchar a dod â hwy allan;

20. a dywedodd, “Ewch, safwch yn y deml a llefarwch wrth y bobl bob peth ynglŷn â'r Bywyd hwn.”

21. Wedi iddynt glywed hyn, aethant ar doriad dydd i mewn i'r deml, a dechreusant ddysgu. Wedi i'r archoffeiriad a'r rhai oedd gydag ef gyrraedd, galwasant ynghyd y Sanhedrin, sef senedd gyflawn cenedl Israel, ac anfonasant i'r carchar i gyrchu'r apostolion.

22. Ond ni chafodd y swyddogion a ddaeth yno hyd iddynt yn y carchar. Daethant yn eu holau, ac adrodd,

23. “Cawsom y carchar wedi ei gloi yn gwbl ddiogel a'r gwylwyr yn sefyll wrth y drysau, ond wedi agor ni chawsom neb oddi mewn.”

24. A phan glywodd prif swyddog gwarchodlu'r deml, a'r prif offeiriaid, y geiriau hyn, yr oeddent mewn penbleth yn eu cylch, beth a allai hyn ei olygu.

25. Ond daeth rhywun a dweud wrthynt, “Y mae'r dynion a roesoch yn y carchar yn sefyll yn y deml ac yn dysgu'r bobl.”

26. Yna aeth y swyddog gyda'i filwyr i'w nôl, ond heb drais, am eu bod yn ofni cael eu llabyddio gan y bobl.

27. Wedi dod â hwy yno, gwnaethant iddynt sefyll gerbron y Sanhedrin. Holodd yr archoffeiriad hwy,

28. a dweud, “Rhoesom orchymyn pendant i chwi beidio â dysgu yn yr enw hwn, a dyma chwi wedi llenwi Jerwsalem â'ch dysgeidiaeth, a'ch bwriad yw rhoi'r bai arnom ni am dywallt gwaed y dyn hwn.”

29. Atebodd Pedr a'r apostolion, “Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion.

30. Y mae Duw ein hynafiaid ni wedi cyfodi Iesu, yr hwn yr oeddech chwi wedi ei lofruddio trwy ei grogi ar bren.

31. Hwn a ddyrchafodd Duw at ei law dde yn Bentywysog a Gwaredwr, i roi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau.

32. Ac yr ydym ni'n dystion o'r pethau hyn, ni a'r Ysbryd Glân a roddodd Duw i'r rhai sy'n ufuddhau iddo.”

33. Pan glywsant hwy hyn, aethant yn ffyrnig ac ewyllysio eu lladd.

34. Ond fe gododd yn y Sanhedrin ryw Pharisead o'r enw Gamaliel, athro'r Gyfraith, gŵr a berchid gan yr holl bobl, ac archodd anfon y dynion allan am ychydig.

35. “Wŷr Israel,” meddai, “cymerwch ofal beth yr ydych am ei wneud â'r dynion hyn.

36. Oherwydd dro'n ôl cododd Theudas, gan honni ei fod yn rhywun, ac ymunodd nifer o ddynion ag ef, ynghylch pedwar cant. Lladdwyd ef, a chwalwyd pawb oedd yn ei ganlyn, ac aethant yn ddim.

37. Ar ôl hwn, cododd Jwdas y Galilead yn nyddiau'r cofrestru, a thynnodd bobl i'w ganlyn. Ond darfu amdano yntau hefyd, a gwasgarwyd pawb o'i ganlynwyr.

38. Ac yn yr achos hwn, rwy'n dweud wrthych, ymogelwch rhag y dynion hyn; gadewch lonydd iddynt. Oherwydd os o ddynion y mae'r bwriad hwn neu'r weithred hon, fe'i dymchwelir;

39. ond os o Dduw y mae, ni fyddwch yn abl i'w ddymchwelyd. Fe all y'ch ceir chwi yn ymladd yn erbyn Duw.”

40. Ac fe'u perswadiwyd ganddo. Galwasant yr apostolion atynt, ac wedi eu fflangellu a gorchymyn iddynt beidio â llefaru yn enw Iesu, gollyngasant hwy'n rhydd.

41. Aethant hwythau ymaith o ŵydd y Sanhedrin, yn llawen am iddynt gael eu cyfrif yn deilwng i dderbyn amarch er mwyn yr Enw.

42. A phob dydd, yn y deml ac yn eu tai, nid oeddent yn peidio â dysgu a chyhoeddi'r newydd da am y Meseia, Iesu.