Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau 28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Paul ar Ynys Melita

1. Wedi inni ddod i ddiogelwch, cawsom wybod mai Melita y gelwid yr ynys.

2. Dangosodd y brodorion garedigrwydd anghyffredin tuag atom. Cyneuasant goelcerth, a'n croesawu ni bawb at y tân, oherwydd yr oedd yn dechrau glawio, ac yn oer.

3. Casglodd Paul beth wmbredd o danwydd, ac wedi iddo'u rhoi ar y tân, daeth gwiber allan o'r gwres, a glynu wrth ei law.

4. Pan welodd y brodorion y neidr ynghrog wrth ei law, meddent wrth ei gilydd, “Llofrudd, yn sicr, yw'r dyn yma, ac er ei fod wedi dianc yn ddiogel o'r môr, nid yw'r dduwies Cyfiawnder wedi gadael iddo fyw.”

5. Yna, ysgydwodd ef y neidr ymaith i'r tân, heb gael dim niwed;

6. yr oeddent hwy'n disgwyl iddo ddechrau chwyddo, neu syrthio'n farw yn sydyn. Ar ôl iddynt ddisgwyl yn hir, a gweld nad oedd dim anghyffredin yn digwydd iddo, newidiasant eu meddwl a dechrau dweud mai duw ydoedd.

7. Yng nghyffiniau'r lle hwnnw, yr oedd tiroedd gan ŵr blaenaf yr ynys, un o'r enw Poplius. Derbyniodd hwn ni, a'n lletya yn gyfeillgar am dridiau.

8. Yr oedd tad Poplius yn digwydd bod yn gorwedd yn glaf, yn dioddef gan byliau o dwymyn a chan ddisentri. Aeth Paul i mewn ato, a chan weddïo a rhoi ei ddwylo arno, fe'i hiachaodd.

9. Wedi i hyn ddigwydd, daeth y lleill yn yr ynys oedd dan afiechyd ato hefyd, a chael eu hiacháu.

10. Rhoddodd y bobl hyn anrhydeddau lawer inni, ac wrth inni gychwyn ymaith, ein llwytho â phopeth y byddai arnom ei angen.

Paul yn Cyrraedd Rhufain

11. Tri mis yn ddiweddarach, hwyliasom i ffwrdd mewn llong o Alexandria oedd wedi bwrw'r gaeaf yn yr ynys, a'r Efeilliaid Nefol yn arwydd arni.

12. Wedi cyrraedd Syracwsai, ac aros yno dridiau, hwyliasom oddi yno a dod i Rhegium.

13. Ar ôl diwrnod cododd gwynt o'r de, a'r ail ddydd daethom i Puteoli.

14. Yno cawsom hyd i gydgredinwyr, a gwahoddwyd ni i aros gyda hwy am saith diwrnod. A dyna sut y daethom i Rufain.

15. Pan glywodd y credinwyr yno amdanom, daethant allan cyn belled â Marchnad Apius a'r Tair Tafarn i'n cyfarfod. Pan welodd Paul hwy, fe ddiolchodd i Dduw, ac ymwrolodd.

16. Pan aethom i mewn i Rufain fe ganiatawyd i Paul letya ar ei ben ei hun, gyda'r milwr oedd yn ei warchod.

Paul yn Pregethu yn Rhufain

17. Ymhen tridiau, galwodd Paul ynghyd yr arweinwyr ymysg yr Iddewon. Wedi iddynt ddod at ei gilydd, dywedodd wrthynt, “Er nad wyf fi, frodyr, wedi gwneud dim yn erbyn fy mhobl na defodau'r hynafiaid, cefais fy nhraddodi yn garcharor o Jerwsalem i ddwylo'r Rhufeiniaid.

18. Yr oeddent hwy, wedi iddynt fy holi, yn dymuno fy ngollwng yn rhydd, am nad oedd dim rheswm dros fy rhoi i farwolaeth.

19. Ond oherwydd gwrthwynebiad yr Iddewon, cefais fy ngorfodi i apelio at Gesar; nid bod gennyf unrhyw gyhuddiad yn erbyn fy nghenedl.

20. Dyna'r rheswm, ynteu, fy mod wedi gofyn am eich gweld a chael ymddiddan â chwi; oherwydd o achos gobaith Israel y mae gennyf y gadwyn hon amdanaf.”

21. Dywedasant hwythau wrtho, “Nid ydym wedi derbyn unrhyw lythyr amdanat ti o Jwdea, ac ni ddaeth neb o'n cyd-Iddewon yma chwaith i adrodd na llefaru dim drwg amdanat ti.

22. Ond fe garem glywed gennyt ti beth yw dy ddaliadau; oherwydd fe wyddom ni am y sect hon, ei bod yn cael ei gwrthwynebu ym mhobman.”

23. Penasant ddiwrnod iddo, a daethant ato i'w lety, nifer mawr ohonynt. O fore tan nos bu yntau'n esbonio iddynt, gan dystiolaethu am deyrnas Dduw, a mynd ati i'w hargyhoeddi ynghylch Iesu ar sail Cyfraith Moses a'r proffwydi.

24. Yr oedd rhai yn credu ei eiriau, ac eraill ddim yn credu;

25. ac yr oeddent yn dechrau ymwahanu, mewn anghytundeb â'i gilydd, pan ddywedodd Paul un gair ymhellach: “Da y llefarodd yr Ysbryd Glân, trwy'r proffwyd Eseia, wrth eich hynafiaid chwi, gan ddweud:

26. “ ‘Dos at y bobl yma a dywed,“Er clywed a chlywed, ni ddeallwch ddim;er edrych ac edrych, ni welwch ddim.”

27. Canys brasawyd calon y bobl yma,y mae eu clyw yn drwm,a'u llygaid wedi cau;rhag iddynt weld â'u llygaid,a chlywed â'u clustiau,a deall â'u calon a throi'n ôl,i mi eu hiacháu.’

28. “Bydded hysbys i chwi felly fod yr iachawdwriaeth hon, sydd oddi wrth Dduw, wedi ei hanfon at y Cenhedloedd, ac fe wrandawant hwy.”

30. Arhosodd Paul ddwy flynedd gyfan yno ar ei gost ei hun, a byddai'n derbyn pawb a ddôi i mewn ato,

31. gan gyhoeddi teyrnas Dduw a dysgu am yr Arglwydd Iesu Grist yn gwbl agored, heb neb yn ei wahardd.