Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau 15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y Cyngor yn Jerwsalem

1. Yna daeth rhai i lawr o Jwdea a dysgu'r credinwyr: “Os nad enwaedir arnoch yn ôl defod Moses, ni ellir eich achub.”

2. A chododd ymryson ac ymddadlau nid bychan rhyngddynt a Paul a Barnabas, a threfnwyd bod Paul a Barnabas, a rhai eraill o'u plith, yn mynd i fyny at yr apostolion a'r henuriaid yn Jerwsalem ynglŷn â'r cwestiwn yma.

3. Felly anfonwyd hwy gan yr eglwys, ac ar eu taith trwy Phoenicia a Samaria buont yn adrodd yr hanes am dröedigaeth y Cenhedloedd, a pharasant lawenydd mawr i'r holl gredinwyr.

4. Wedi iddynt gyrraedd Jerwsalem, fe'u derbyniwyd gan yr eglwys a'r apostolion a'r henuriaid, a mynegasant gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud trwyddynt hwy.

5. Ond cododd rhai credinwyr oedd o sect y Phariseaid, a dweud, “Y mae'n rhaid enwaedu arnynt, a gorchymyn iddynt gadw Cyfraith Moses.”

6. Ymgynullodd yr apostolion a'r henuriaid i ystyried y mater yma.

7. Ar ôl llawer o ddadlau, cododd Pedr a dywedodd wrthynt: “Gyfeillion, gwyddoch chwi fod Duw yn y dyddiau cynnar yn eich plith wedi dewis bod y Cenhedloedd, trwy fy ngenau i, yn cael clywed gair yr Efengyl, a chredu.

8. Ac y mae Duw, sy'n adnabod calonnau, wedi dwyn tystiolaeth iddynt trwy roi iddynt hwy yr Ysbryd Glân yr un fath ag i ninnau;

9. ac ni wnaeth ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwythau, gan iddo lanhau eu calonnau hwy drwy ffydd.

10. Yn awr, ynteu, pam yr ydych yn rhoi prawf ar Dduw trwy osod iau ar war y disgyblion, na allodd ein hynafiaid na ninnau mo'i dwyn?

11. Ond yr ydym ni'n credu mai trwy ras yr Arglwydd Iesu yr achubir ni, a hwythau yr un modd.”

12. Tawodd yr holl gynulliad, a gwrando ar Barnabas a Paul yn adrodd am yr holl arwyddion a rhyfeddodau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy.

13. Wedi iddynt dewi, dywedodd Iago, “Gyfeillion, gwrandewch arnaf fi.

14. Y mae Simeon wedi dweud sut y gofalodd Duw gyntaf am gael o blith y Cenhedloedd bobl yn dwyn ei enw.

15. Ac y mae geiriau'r proffwydi yn cytuno â hyn, fel y mae'n ysgrifenedig:

16. “ ‘Ar ôl hyn dychwelaf,ac ailadeiladaf babell syrthiedig Dafydd,ailadeiladaf ei hadfeilion,a'i hatgyweirio,

17. fel y ceisier yr Arglwydd gan y bobl sy'n weddill,a chan yr holl Genhedloedd y galwyd fy enw arnynt,’medd yr Arglwydd, sy'n gwneud y pethau hyn

18. yn hysbys erioed.”

19. “Felly fy marn i yw na ddylem boeni'r rhai o blith y Cenhedloedd sy'n troi at Dduw,

20. ond ysgrifennu atynt am iddynt ymgadw rhag bwyta pethau sydd wedi eu halogi gan eilunod, a rhag anfoesoldeb rhywiol, a rhag bwyta na'r hyn sydd wedi ei dagu, na gwaed.

21. Oherwydd y mae gan Moses, er yr oesau cyntaf, rai sy'n ei bregethu ef ym mhob tref, ac fe'i darllenir yn y synagogau bob Saboth.”

Y Cyngor yn Ateb

22. Yna penderfynodd yr apostolion a'r henuriaid, ynghyd â'r holl eglwys, ddewis gwŷr o'u plith a'u hanfon i Antiochia gyda Paul a Barnabas, sef Jwdas, a elwid Barsabas, a Silas, gwŷr blaenllaw ymhlith y credinwyr.

23. Rhoesant y llythyr hwn iddynt i fynd yno: “Y brodyr, yn apostolion a henuriaid, at y credinwyr o blith y Cenhedloedd yn Antiochia a Syria a Cilicia, cyfarchion.

24. Oherwydd inni glywed fod rhai ohonom ni wedi'ch tarfu â'u geiriau, ac ansefydlogi eich meddyliau, heb i ni eu gorchymyn,

25. yr ydym wedi penderfynu'n unfryd ddewis gwŷr a'u hanfon atoch gyda'n cyfeillion annwyl, Barnabas a Paul,

26. dynion sydd wedi cyflwyno eu bywydau dros enw ein Harglwydd Iesu Grist.

27. Felly yr ydym yn anfon Jwdas a Silas, a byddant hwy'n mynegi yr un neges ar lafar.

28. Penderfynwyd gan yr Ysbryd Glân a chennym ninnau beidio â gosod arnoch ddim mwy o faich na'r pethau angenrheidiol hyn:

29. ymgadw rhag bwyta yr hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, neu waed, neu'r hyn sydd wedi ei dagu, a rhag anfoesoldeb rhywiol. Os cadwch rhag y pethau hyn, fe wnewch yn dda. Ffarwel.”

30. Felly anfonwyd hwy, a daethant i lawr i Antiochia, ac wedi galw'r gynulleidfa ynghyd, cyflwynwyd y llythyr.

31. Wedi ei ddarllen, yr oeddent yn llawen ar gyfrif yr anogaeth yr oedd yn ei rhoi.

32. Gan fod Jwdas a Silas hwythau'n broffwydi, dywedasant lawer i annog y credinwyr a'u cadarnhau.

33. Wedi iddynt dreulio peth amser yno fe'u gollyngwyd mewn tangnefedd gan y credinwyr, i ddychwelyd at y rhai a'u hanfonodd.

35. Arhosodd Paul a Barnabas yn Antiochia, gan ddysgu a phregethu gair yr Arglwydd, ynghyd â llawer eraill.

Paul a Barnabas yn Ymwahanu

36. Wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, “Gadewch inni ddychwelyd yn awr, ac ymweld â'r credinwyr ym mhob un o'r dinasoedd y buom yn cyhoeddi gair yr Arglwydd ynddynt, i weld sut y mae hi arnynt.”

37. Yr oedd Barnabas yn dymuno cymryd Ioan, a elwid Marc, gyda hwy;

38. ond yr oedd Paul yn barnu na ddylent gymryd yn gydymaith un oedd wedi cefnu arnynt yn Pamffylia, a heb fynd ymlaen a chydweithio â hwy.

39. Bu cymaint cynnen rhyngddynt nes iddynt ymwahanu. Cymerodd Barnabas Marc, a hwylio i Cyprus;

40. ond dewisodd Paul Silas, ac aeth i ffwrdd, wedi ei gyflwyno gan y credinwyr i ras yr Arglwydd.

41. A bu'n teithio drwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau'r eglwysi.