Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y Rhai Oedd yn Byw yn Jerwsalem

1. Daeth arweinwyr y bobl i fyw yn Jerwsalem, ond bwriodd y gweddill o'r bobl goelbren i ddod ag un o bob deg i fyw yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd, a'r naw arall yn y trefi.

2. Bendithiodd y bobl y rhai a aeth o'u gwirfodd i fyw yn Jerwsalem.

3. Dyma benaethiaid y dalaith, oedd yn byw yn Jerwsalem. Yn nhrefi Jwda yr oedd yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon yn byw, pob un yn ei diriogaeth ei hun.

4. Dyma'r rhai o lwyth Jwda a'r rhai o lwyth Benjamin oedd yn byw yn Jerwsalem: o lwyth Jwda, Athaia fab Usseia, fab Sechareia, fab Amareia, fab Seffatia, fab Mahalaleel o deulu Peres;

5. a Maaseia fab Baruch, fab Colhose, fab Hasaia, fab Adaia, fab Joiarib, fab Sechareia, fab Siloni.

6. Yr oedd teulu cyfan Peres, oedd yn byw yn Jerwsalem, yn bedwar cant chwe deg ac wyth o ddynion cyfrifol.

7. Y rhain oedd o lwyth Benjamin: Salu fab Mesulam, fab Joed, fab Pedaia, fab Colaia, fab Maaseia, fab Ithiel, fab Eseia,

8. a'i frodyr, gwŷr grymus, naw cant dau ddeg ac wyth.

9. Joel fab Sichri oedd yn oruchwyliwr arnynt, a Jwda fab Senua oedd dirprwy arolygwr y ddinas.

10. O'r offeiriaid: Jedaia fab Joiarib (hynny yw, Jachin),

11. Seraia fab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, arolygwr tŷ Dduw,

12. a nifer eu brodyr oedd yn gyfrifol am waith y deml oedd wyth gant dau ddeg a dau; ac Adaia fab Jeroham, fab Pelalia, fab Amsi, fab Sechareia, fab Pasur, fab Malcheia,

13. a'i frodyr, pennau-teuluoedd, dau gant pedwar deg a dau; ac Amasai, fab Asareel, fab Ahasai, fab Mesilemoth, fab Immer,

14. a'i frodyr, dynion cyfrifol, cant dau ddeg ac wyth, a Sabdiel fab Haggedolim oedd yn oruchwyliwr arnynt.

15. Ac o'r Lefiaid: Semaia fab Hasub, fab Asricam, fab Hasabeia, fab Bunni;

16. a Sabbethai a Josabad o benaethiaid y Lefiaid oedd yn arolygu'r gwaith o'r tu allan i dŷ Dduw;

17. a Mataneia fab Meica, fab Sabdi, fab Asaff, arweinydd y mawl, oedd yn talu diolch yn ystod y gweddïau, a Bacbuceia, yr ail ymysg ei frodyr, ac Abda fab Sammua, fab Galal, fab Jeduthun.

18. Cyfanswm y Lefiaid yn y ddinas sanctaidd oedd dau gant wyth deg a phedwar.

19. Yr oedd y porthorion oedd yn gwylio'r pyrth, sef Accub, Talmon a'u brodyr, yn gant saith deg a dau.

20. Ac yr oedd y gweddill o'r Israeliaid ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid yn holl ddinasoedd Jwda, pob un yn ei etifeddiaeth ei hun.

21. Ond yr oedd gweision y deml yn byw ar Offel yng ngofal Siha a Gispa.

22. Goruchwyliwr y Lefiaid yn Jerwsalem, i arolygu gwaith tŷ Dduw, oedd Ussi fab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Meica, o deulu Asaff y cantorion.

23. Oherwydd yr oedd gorchymyn brenhinol ynglŷn â hwy, fod gan y cantorion ddyletswyddau penodol bob dydd.

24. Ac yr oedd Pethaheia fab Mesesabeel o deulu Sera fab Jwda yn cynghori'r brenin ar unrhyw fater yn ymwneud â'r bobl.

Y Rhai Oedd yn Byw yn y Wlad

25. Ynglŷn â'r pentrefi yn y wlad: aeth rhai o lwyth Jwda i fyw yng Ciriath-arba a'i phentrefi, yn Dibon a'i phentrefi, yn Jecabseel a'i phentrefi;

26. yn Jesua, yn Molada, yn Beth-pelet,

27. yn Hasar-sual, yn Beerseba a'i phentrefi;

28. yn Siclag, yn Mechona a'i phentrefi,

29. yn En-rimmon, yn Sora, yn Jarmuth,

30. Sanoa, Adulam a'u pentrefi; yn Lachis a'i meysydd, yn Aseca a'i phentrefi. Yr oeddent yn gwladychu o Beerseba i ddyffryn Hinnom.

31. Rhai o lwyth Benjamin oedd yn byw o Geba ymlaen, yn Michmas, Aia, Bethel a'i phentrefi,

32. Anathoth, Nob, Ananeia,

33. Hasor, Rama, Gittaim,

34. Hadid, Seboim, Nebalat,

35. Lod, ac Ono, dyffryn y crefftwyr.

36. Ac yr oedd rhai o'r Lefiaid yn perthyn i Jwda a rhai i Benjamin.