Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Nehemeia'n Cyrraedd Jerwsalem

1. Ac ym mis Nisan, yn ugeinfed flwyddyn y Brenin Artaxerxes, cymerais y gwin oedd wedi ei osod o'i flaen, a'i roi iddo. Yr oeddwn yn drist yn ei ŵydd,

2. a gofynnodd y brenin i mi, “Pam yr wyt yn drist? Nid wyt yn glaf; felly nid yw hyn ond tristwch calon.” Daeth ofn mawr arnaf

3. a dywedais, “O frenin, bydd fyw byth! Sut y medraf beidio ag edrych yn drist pan yw'r ddinas lle y claddwyd fy hynafiaid yn adfeilion, a'i phyrth wedi eu hysu â thân?”

4. Dywedodd y brenin, “Beth yw dy ddymuniad?” Yna gweddïais ar Dduw'r nefoedd,

5. a dweud wrth y brenin, “Os gwêl y brenin yn dda, ac os yw dy was yn gymeradwy gennyt, anfon fi i Jwda, i'r ddinas lle y claddwyd fy hynafiaid, i'w hailadeiladu.”

6. Ac meddai'r brenin wrthyf, a'r frenhines yn eistedd wrth ei ochr, “Pa mor hir fydd dy daith, a pha bryd y dychweli?” Rhoddais amser penodol oedd yn dderbyniol i'r brenin, a gadawodd yntau imi fynd.

7. Yna dywedais wrtho, “Os gwêl y brenin yn dda, rho i mi lythyrau at lywodraethwyr Tu-hwnt-i'r-Ewffrates er mwyn iddynt hwyluso fy nhaith i Jwda,

8. a llythyr hefyd at Asaff, ceidwad y goedwig frenhinol, yn gofyn iddo roi coed imi i wneud trawstiau ar gyfer pyrth y palas sydd yn ymyl y deml, a muriau'r ddinas a'r tŷ y byddaf yn byw ynddo.” Trwy ffafr fy Nuw cefais fy nymuniad gan y brenin.

9. Yr oedd y brenin wedi anfon gyda mi swyddogion o'r fyddin a marchogion, a phan ddeuthum at lywodraethwyr Tu-hwnt-i'r-Ewffrates rhoddais iddynt lythyrau'r brenin.

10. Ond pan glywodd Sanbalat yr Horoniad a'r gwas Tobeia yr Ammoniad am hyn, yr oeddent yn flin iawn fod rhywun wedi dod i geisio cynorthwyo pobl Israel.

11. Wedi imi gyrraedd Jerwsalem a bod yno dridiau,

12. codais liw nos, myfi a'r ychydig ddynion oedd gyda mi, ond heb ddweud wrth neb beth oedd fy Nuw wedi ei roi yn fy meddwl i'w wneud i Jerwsalem. Nid oedd anifail gyda mi ar wahân i'r un yr oeddwn yn marchogaeth arno.

13. Euthum allan liw nos trwy Borth y Glyn i gyfeiriad Ffynnon y Ddraig ac at Borth y Dom, ac archwilio muriau drylliedig Jerwsalem a hefyd ei phyrth a losgwyd â thân.

14. Euthum ymlaen i Borth y Ffynnon ac i Lyn y Brenin, ond nid oedd lle i'm hanifail fynd trwodd.

15. Euthum i fyny'r dyffryn liw nos i archwilio'r mur, ac yna troi'n ôl a dychwelyd trwy Borth y Glyn.

16. Ni wyddai'r swyddogion i ble yr oeddwn wedi mynd na beth yr oeddwn yn ei wneud; hyd yma nid oeddwn wedi dweud dim wrth yr Iddewon na'r offeiriaid na'r penaethiaid na'r swyddogion na'r rhai a fyddai'n gyfrifol am wneud y gwaith.

17. Yna dywedais wrthynt, “Yr ydych yn gweld y trybini yr ydym ynddo; y mae Jerwsalem yn adfeilion a'i phyrth wedi eu llosgi â thân; dewch, adeiladwn fur Jerwsalem rhag inni fod yn waradwydd mwyach.”

18. Dywedais wrthynt fel yr oedd fy Nuw wedi fy helpu, a hefyd yr hyn a ddywedodd y brenin wrthyf. Yna dywedasant, “Awn ati i adeiladu.” A bu iddynt ymroi i'r gwaith yn ewyllysgar.

19. Pan glywodd Sanbalat yr Horoniad, a'r gwas Tobeia yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, gwatwarasant ni a'n dirmygu a gofyn, “Beth yw hyn yr ydych yn ei wneud? A ydych yn gwrthryfela yn erbyn y brenin?”

20. Atebais hwy a dweud, “Bydd Duw y nefoedd yn rhoi llwyddiant i ni, ac yr ydym ninnau, ei weision ef, yn mynd ati i adeiladu. Ond nid oes gennych chwi ran na hawl na braint yn Jerwsalem.”