Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Pryder Nehemeia dros Jerwsalem

1. Geiriau Nehemeia fab Hachaleia. Ym mis Cislef yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn yn y palas yn Susan,

2. cyrhaeddodd Hanani, un o'm brodyr, a gwŷr o Jwda gydag ef. Holais hwy am Jerwsalem ac am yr Iddewon, y rhai dihangol a adawyd ar ôl heb fynd i'r gaethglud.

3. Dywedasant hwythau wrthyf, “Y mae'r gweddill a adawyd ar ôl yn y dalaith, heb eu caethgludo, mewn trybini mawr a gofid; drylliwyd mur Jerwsalem a llosgwyd ei phyrth â thân.”

4. Pan glywais hyn eisteddais i lawr ac wylo, a bûm yn galaru ac yn ymprydio am ddyddiau, ac yn gweddïo ar Dduw y nefoedd.

5. Dywedais, “O ARGLWYDD Dduw y nefoedd, y Duw mawr ac ofnadwy, sy'n cadw cyfamod ac sy'n ffyddlon i'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion,

6. yn awr bydded dy glust yn gwrando a'th lygaid yn agored i dderbyn y weddi yr wyf fi, dy was, yn ei gweddïo o'th flaen ddydd a nos, dros blant Israel, dy weision. Yr wyf yn cyffesu'r pechodau a wnaethom ni, bobl Israel, yn dy erbyn; yr wyf fi a thŷ fy nhad wedi pechu yn dy erbyn,

7. ac ymddwyn yn llygredig iawn tuag atat trwy beidio â chadw'r gorchmynion a'r deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnaist i'th was Moses.

8. Cofia'r rhybudd a roddaist i'th was Moses pan ddywedaist, ‘Os byddwch yn anffyddlon, byddaf fi'n eich gwasgaru ymysg y bobloedd;

9. ond os dychwelwch ataf a chadw fy ngorchmynion a'u gwneud, byddaf yn casglu'r rhai a wasgarwyd hyd gyrion byd, ac yn eu cyrchu i'r lle a ddewisais i roi fy enw yno.’

10. Dy weision a'th bobl di ydynt—rhai a waredaist â'th allu mawr ac â'th law nerthol.

11. O ARGLWYDD, gwrando ar weddi dy was a'th weision sy'n ymhyfrydu mewn parchu dy enw, a rho lwyddiant i'th was heddiw a phâr iddo gael trugaredd gerbron y gŵr hwn.”Yr oeddwn i yn drulliad i'r brenin.