Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Ailgodi Mur Jerwsalem

1. Yna dechreuodd Eliasib yr archoffeiriad a'i gyd-offeiriaid ailgodi Porth y Defaid; gosodasant ei gilbyst a rhoi ei ddorau yn eu lle, ac atgyweirio hyd at Dŵr y Cant a Thŵr Hananel.

2. Adeiladodd gwŷr Jericho yn ei ymyl, a Sacur fab Imri yn eu hymyl hwythau.

3. Ailgodwyd Porth y Pysgod gan feibion Hasena; gosodasant ei gilbyst a rhoi ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau.

4. Yn eu hymyl hwy yr oedd Meremoth fab Ureia fab Cos yn atgyweirio, ac yn ei ymyl ef Mesulam, fab Berecheia, fab Mesesabel, ac yn ei ymyl yntau yr oedd Sadoc fab Bana yn atgyweirio.

5. Y Tecoiaid oedd yn atgyweirio yn eu hymyl hwy, ond nid oedd eu pendefigion yn fodlon gwasanaethu meistriaid.

6. Atgyweiriwyd yr Hen Borth gan Joiada fab Pesach a Mesulam fab Besodeia; gosodasant ei drawstiau a rhoi ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau.

7. Yn eu hymyl hwy yr oedd Melateia o Gibeon a Jadon o Meronoth, gwŷr Gibeon a Mispa, yn atgyweirio hyd at blas llywodraethwr Tu-hwnt-i'r-Ewffrates.

8. Yn ei ymyl ef yr oedd Usiel fab Harhaia, un o'r gofaint aur, ac yn ei ymyl yntau Hananeia, un o'r apothecariaid; hwy oedd yn trwsio Jerwsalem hyd at y Mur Llydan.

9. Yn eu hymyl hwy yr oedd Reffaia fab Hur, rheolwr hanner rhanbarth Jerwsalem.

10. Yn ei ymyl ef yr oedd Jedaia fab Harumaff yn atgyweirio o flaen ei dŷ, a Hatus fab Hasabneia yn ei ymyl yntau.

11. Yr oedd Malcheia fab Harim a Hasub fab Pahath-moab yn atgyweirio dwy ran a Thŵr y Ffwrneisiau.

12. Yn ei ymyl ef yr oedd Salum fab Haloches, pennaeth hanner rhanbarth Jerwsalem, yn atgyweirio gyda'i ferched.

13. Atgyweiriwyd Porth y Glyn gan Hanun a thrigolion Sanoach; ailgodasant ef a gosod ei ddorau gyda'r cloeau a'r barrau.

14. Hwy hefyd a atgyweiriodd y mur am fil o gufyddau hyd at Borth y Dom. Ond atgyweiriwyd Porth y Dom gan Malacheia fab Rechab, rheolwr rhanbarth Beth-hacerem; fe'i hailgododd a gosod ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau.

15. Atgyweiriwyd Porth y Ffynnon gan Salum fab Colchose, rheolwr rhanbarth Mispa; fe'i hailgododd a rhoi to arno a gosod ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau; cododd fur Pwll Selach wrth ardd y brenin hyd at y grisiau sy'n arwain i lawr o Ddinas Dafydd.

16. Ar ei ôl ef atgyweiriodd Nehemeia fab Asbuc, rheolwr hanner rhanbarth Beth-sur, hyd at le gyferbyn â mynwent Dafydd a hyd at Bwll y Gloddfa ac at Dŷ'r Cedyrn.

17. Ar ei ôl ef atgyweiriodd y Lefiaid: Rehum fab Bani, ac yn ei ymyl Hasabeia, rheolwr hanner rhanbarth Ceila, yn atgyweirio ei ran ei hun.

18. Ar ei ôl ef atgyweiriodd eu brodyr, Bafai fab Henadad, rheolwr ail ranbarth Ceila.

19. Yn ei ymyl ef yr oedd Eser fab Jesua, rheolwr Mispa, yn atgyweirio dwy ran gyferbyn â'r allt at dŷ'r arfau, wrth y drofa.

20. Ar ei ôl ef atgyweiriodd Baruch fab Sabai ddwy ran, o'r drofa hyd at ddrws tŷ Eliasib yr archoffeiriad.

21. Ar ei ôl ef atgyweiriodd Meremoth fab Ureia fab Cos ddwy ran, o ddrws tŷ Eliasib hyd at dalcen ei dŷ.

22. Ac ar ei ôl ef atgyweiriodd yr offeiriaid oedd yn byw yn y gymdogaeth.

23. Ar eu hôl hwy atgyweiriodd Benjamin a Hasub gyferbyn â'u tŷ eu hunain. Ar eu hôl hwy atgyweiriodd Asareia fab Maaseia, fab Ananeia, gyferbyn â'i dŷ ei hun.

24. Ar eu hôl hwy atgyweiriodd Binnui fab Henadad ddwy ran, o dŷ Asareia hyd at y drofa a'r gongl.

25. Palal fab Usai oedd yn atgyweirio gyferbyn â'r drofa a'r tŵr sy'n codi o dŷ uchaf y brenin ac yn perthyn i gyntedd y gwarchodlu. Ar ei ôl ef atgyweiriodd Pedaia fab Paros

26. a gweision y deml oedd yn byw yn Offel hyd at le gyferbyn â Phorth y Dŵr i'r dwyrain o'r tŵr uchel.

27. Ar eu hôl hwy atgyweiriodd y Tecoiaid ddwy ran gyferbyn â'r tŵr mawr uchel hyd at fur Offel.

28. O Borth y Meirch yr offeiriaid oedd yn atgyweirio, pob un gyferbyn â'i dŷ.

29. Ar eu hôl hwy atgyweiriodd Sadoc fab Immer gyferbyn â'i dŷ. Ac ar ei ôl ef atgyweiriodd Semaia fab Sechaneia, ceidwad Porth y Dwyrain.

30. Ar ei ôl ef atgyweiriodd Hananeia fab Selemeia a Hanun, chweched mab Salaff, ddwy ran. Ar ei ôl yntau atgyweiriodd Mesulam fab Berecheia gyferbyn â'i lety.

31. Ar ei ôl ef atgyweiriodd Malcheia, y gof aur, hyd at dŷ'r Nethiniaid a'r marchnatwyr, gyferbyn â Phorth y Cynnull hyd at yr oruwchystafell ar y gongl.

32. A rhwng yr oruwchystafell ar y gongl a Phorth y Defaid yr oedd y gofaint aur a'r marchnatwyr yn atgyweirio.