1. Gwatwarwr yw gwin, a therfysgwr yw diod gadarn;nid doeth mo'r sawl sydd dan eu dylanwad.
2. Y mae bygythiad brenin fel rhuad llew ifanc;y mae'r sawl a'i cynhyrfa'n peryglu ei fywyd.
3. Clod i bob un yw gwrthod cweryla,ond rhuthro i ymryson a wna pob ynfytyn.
4. Nid yw'r diog yn aredig yn yr hydref;eto y mae'n disgwyl yn amser cynhaeaf, heb ddim i'w gael.
5. Y mae cyngor yn y meddwl fel dyfroedd dyfnion,ond gall dyn deallus ei dynnu allan.
6. Y mae llawer un yn honni bod yn deyrngar,ond pwy a all gael dyn ffyddlon?
7. Y mae'r cyfiawn yn rhodio'n gywir;gwyn eu byd ei blant ar ei ôl!
8. Y mae brenin sy'n eistedd ar orsedd barnyn gallu nithio pob drwg â'i lygaid.
9. Pwy a all ddweud, “Yr wyf wedi puro fy meddwl;yr wyf yn lân o'm pechod”?
10. Pan geir amrywiaeth mewn pwysau neu fesurau,y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
11. Trwy ei weithredoedd y dengys yr ifanca yw ei waith yn bur ac yn uniawn.
12. Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld,yr ARGLWYDD a'u gwnaeth ill dau.
13. Paid â bod yn hoff o gysgu, rhag iti fynd yn dlawd;cadw dy lygad yn agored, a chei ddigon o fwyd.
14. “Gwael iawn,” meddai'r prynwr;ond wrth fynd ymaith, y mae'n canmol ei fargen.
15. Y mae digonedd o aur ac o emau,ond geiriau deallus yw'r trysor gwerthfawrocaf.
16. Cymer wisg y sawl sy'n mechnïo dros estron,a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.
17. Melys i rywun yw bara a gafwyd trwy dwyll,ond yn y diwedd llenwir ei geg â graean.
18. Sicrheir cynlluniau trwy gyngor;rhaid trefnu'n ofalus ar gyfer rhyfel.
19. Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach;paid â chyfeillachu â'r llac ei dafod.
20. Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam,diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew.
21. Os ceir etifeddiaeth sydyn yn y dechrau,ni bydd bendith ar ei diwedd.
22. Paid â dweud, “Talaf y pwyth yn ôl”;disgwyl wrth yr ARGLWYDD i achub dy gam.
23. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw amrywiaeth mewn pwysau,ac nid da ganddo gloriannau twyllodrus.
24. Yr ARGLWYDD sy'n rheoli camre pobl;sut y gall neb ddeall ei ffordd?
25. Gall rhywun fynd i fagl wrth gysegru'n fyrbwyll,ac yna dechrau ystyried ar ôl gwneud addunedau.
26. Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus,ac yn troi'r rhod yn eu herbyn.
27. Llewyrcha'r ARGLWYDD ar ysbryd pobl,i chwilio i ddyfnderau eu bod.
28. Y mae teyrngarwch a chywirdeb yn gwarchod y brenin,a diogelir ei orsedd gan deyrngarwch.
29. Gogoniant yr ifainc yw eu nerth,ac addurn i'r hen yw penwynni.
30. Y mae taro i'r byw yn gwella drwg,a dyrnodiau yn iacháu rhywun drwyddo.