1. Gwell yw tamaid sych, a llonyddwch gydag ef,na thŷ yn llawn o wleddoedd ynghyd â chynnen.
2. Y mae gwas deallus yn feistr ar fab gwarthus,ac yn rhannu'r etifeddiaeth gyda'r brodyr.
3. Y mae tawddlestr i arian a ffwrnais i aur,ond yr ARGLWYDD sy'n profi calonnau.
4. Y mae'r drwgweithredwr yn gwrando ar eiriau anwir,a'r celwyddog yn rhoi sylw i dafod maleisus.
5. Y mae'r un sy'n gwatwar y tlawd yn amharchu ei Greawdwr,ac ni chaiff y sawl sy'n ymhyfrydu mewn trychineb osgoi cosb.
6. Coron yr hen yw plant eu plant,a balchder plant yw eu rhieni.
7. Nid yw geiriau gwych yn gweddu i ynfytyn,nac ychwaith eiriau celwyddog i bendefig.
8. Carreg hud yw llwgrwobr i'r sawl a'i defnyddia;fe lwydda ple bynnag y try.
9. Y mae'r un sy'n cuddio tramgwydd yn ceisio cyfeillgarwch,ond y mae'r sawl sy'n ailadrodd stori yn gwahanu cyfeillion.
10. Y mae cerydd yn peri mwy o loes i'r deallusna chan cernod i ynfytyn.
11. Ar wrthryfela y mae bryd y drygionus,ond fe anfonir cennad creulon yn ei erbyn.
12. Gwell yw cyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawonna chyfarfod ag ynfytyn yn ei ffolineb.
13. Os bydd i neb dalu drwg am dda,nid ymedy dinistr â'i dŷ.
14. Y mae dechrau cweryl fel diferiad dŵr;ymatal di cyn i'r gynnen lifo allan.
15. Cyfiawnhau'r drygionus a chondemnio'r cyfiawn—y mae'r ddau fel ei gilydd yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
16. Pa werth sydd i arian yn llaw ynfytyn?Ai i brynu doethineb, ac yntau heb ddeall?
17. Y mae cyfaill yn gyfaill bob amser;ar gyfer adfyd y genir brawd.
18. Un disynnwyr sy'n rhoi gwystl,ac yn mynd yn feichiau dros ei gyfaill.
19. Y mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi cynnen,a'r sawl sy'n ehangu ei borth yn gofyn am ddinistr.
20. Nid yw'r meddwl cyfeiliornus yn cael daioni,a disgyn i ddinistr a wna'r troellog ei dafod.
21. Y mae'r un sy'n cenhedlu ffŵl yn wynebu gofid,ac nid oes llawenydd i dad ynfytyn.
22. Y mae calon lawen yn rhoi iechyd,ond ysbryd isel yn sychu'r esgyrn.
23. Cymer y drygionus lwgrwobr o'i fynwesi wyrdroi llwybrau barn.
24. Ceidw'r deallus ei olwg ar ddoethineb,ond ar gyrrau'r ddaear y mae llygaid ynfytyn.
25. Y mae mab ynfyd yn flinder i'w dad,ac yn achos chwerwder i'w fam.
26. Yn wir nid da cosbi'r cyfiawn,ac nid iawn curo'r bonheddig.
27. Y mae'r prin ei eiriau yn meddu gwybodaeth,a thawel ei ysbryd yw'r deallus.
28. Tra tawa'r ffŵl, fe'i hystyrir yn ddoeth,a'r un sy'n cau ei geg yn ddeallus.