1. Geiriau Agur fab Jaceh o Massa. Dyma'i eiriau i Ithiel, i Ithiel ac Ucal:
2. Yr wyf yn fwy anwar na neb;nid oes deall dynol gennyf.
3. Ni ddysgais ddoethineb,ac nid wyf yn dirnad deall yr Un Sanctaidd.
4. Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, ac yna disgyn?Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn?Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg?Pwy a sefydlodd holl derfynau'r ddaear?Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod?
5. Y mae pob un o eiriau Duw wedi ei brofi;y mae ef yn darian i'r rhai sy'n ymddiried ynddo.
6. Paid ag ychwanegu dim at ei eiriau,rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog.
7. Gofynnaf am ddau beth gennyt;paid â'u gwrthod cyn imi farw:
8. symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf;paid â rhoi imi dlodi na chyfoeth;portha fi â'm dogn o fwyd,
9. rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu,a dweud, “Pwy yw'r ARGLWYDD?”Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr,a gwneud drwg i enw fy Nuw.
10. Paid â difrïo gwas wrth ei feistr,rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog.
11. Y mae rhai yn melltithio'u tad,ac yn amharchu eu mam.
12. Y mae rhai yn bur yn eu golwg eu hunain,ond heb eu glanhau o'u haflendid.
13. Y mae rhai yn ymddwyn yn falch,a'u golygon yn uchel.
14. Y mae rhai â'u dannedd fel cleddyfau,a'u genau fel cyllyll,yn difa'r tlawd o'r tir,a'r anghenus o blith pobl.
15. Y mae gan y gele ddwy ferchsy'n dweud, “Dyro, dyro.”Y mae tri pheth na ellir eu digoni,ie, pedwar nad ydynt byth yn dweud, “Digon”:
16. Sheol, a'r groth amhlantadwy,a'r tir sydd heb ddigon o ddŵr,a'r tân nad yw byth yn dweud, “Digon”.
17. Y llygad sy'n gwatwar tad,ac yn dirmygu ufudd-dod i fam,fe'i tynnir allan gan gigfrain y dyffryn,ac fe'i bwyteir gan y fwltur.
18. Y mae tri pheth yn rhyfeddol imi,pedwar na allaf eu deall:
19. ffordd yr eryr yn yr awyr,ffordd neidr ar graig,ffordd llong ar y cefnfor,a ffordd dyn gyda merch.
20. Dyma ymddygiad y wraig odinebus:y mae'n bwyta, yn sychu ei cheg,ac yn dweud, “Nid wyf wedi gwneud drwg.”
21. Y mae tri pheth sy'n cynhyrfu'r ddaear,pedwar na all hi eu dioddef:
22. gwas pan ddaw'n frenin,ffŵl pan gaiff ormod o fwyd,
23. dynes atgas yn cael gŵr,a morwyn yn disodli ei meistres.
24. Y mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach,ond yn eithriadol ddoeth:
25. y morgrug, creaduriaid sydd heb gryfder,ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf;
26. y cwningod, creaduriaid sydd heb nerth,ond sy'n codi eu tai yn y creigiau;
27. y locustiaid, nad oes ganddynt frenin,ond sydd i gyd yn mynd allan yn rhengoedd;
28. a'r fadfall, y gelli ei dal yn dy law,ond sydd i'w chael ym mhalas brenhinoedd.
29. Y mae tri pheth sy'n hardd eu cerddediad,pedwar sy'n rhodio'n urddasol:
30. llew, gwron ymhlith yr anifeiliaid,nad yw'n cilio oddi wrth yr un ohonynt;
31. ceiliog yn torsythu; bwch gafr;a brenin yn arwain ei bobl.
32. Os bu iti ymddwyn yn ffôl trwy ymffrostio,neu gynllwynio drwg, rho dy law ar dy enau.
33. Oherwydd o gorddi llaeth ceir ymenyn,o wasgu'r trwyn ceir gwaed,ac o fegino llid ceir cynnen.