Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Rhybudd rhag Godineb

1. Fy mab, rho sylw i'm doethineb,a gwrando ar fy neall,

2. er mwyn iti ddal ar synnwyrac i'th wefusau ddiogelu deall.

3. Y mae gwefusau'r wraig ddieithr yn diferu mêl,a'i geiriau yn llyfnach nag olew,

4. ond yn y diwedd y mae'n chwerwach na wermod,yn llymach na chleddyf daufiniog.

5. Prysura ei thraed at farwolaeth,ac arwain ei chamre i Sheol.

6. Nid yw hi'n ystyried llwybr bywyd;y mae ei ffyrdd yn anwadal, a hithau'n ddi-hid.

7. Ond yn awr, blant, gwrandewch arnaf,a pheidiwch â throi oddi wrth fy ymadroddion.

8. Cadw draw oddi wrth ei ffordd;paid â mynd yn agos at ddrws ei thŷ;

9. rhag iti roi dy enw da i erailla'th urddas i estroniaid,

10. a rhag i ddieithriaid ymborthi ar dy gyfoethac i'th lafur fynd i dŷ estron;

11. rhag iti gael gofid pan ddaw dy ddiwedd,pan fydd dy gorff a'th gnawd yn darfod,

12. a dweud, “Pam y bu imi gasáu disgyblaeth,ac anwybyddu cerydd?

13. Nid oeddwn yn gwrando ar lais fy athrawon,nac yn rhoi sylw i'r rhai a'm dysgai.

14. Yr oeddwn ar fin bod yn gwbl ddrwgyng ngolwg y gynulleidfa gyfan.”

15. Yf ddŵr o'th bydew dy hun,dŵr sy'n tarddu o'th ffynnon di.

16. Paid â gadael i'th ffynhonnau orlifo i'r ffordd,na'th ffrydiau dŵr i'r stryd.

17. Byddant i ti dy hun yn unig,ac nid i'r dieithriaid o'th gwmpas.

18. Bydded bendith ar dy ffynnon,a llawenha yng ngwraig dy ieuenctid,

19. ewig hoffus, iyrches ddymunol;bydded i'w bronnau dy foddhau bob amser,a chymer bleser o'i chariad yn gyson.

20. Fy mab, pam y ceisi bleser gyda gwraig ddieithr,a chofleidio estrones?

21. Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwylio ffyrdd pob un,ac yn chwilio ei holl lwybrau.

22. Delir y drygionus gan ei gamwedd ei hun,ac fe'i caethiwir yng nghadwynau ei bechod;

23. bydd farw o ddiffyg disgyblaeth,ar goll oherwydd ei ffolineb mawr.