Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Disgynyddion Lefi

1. Meibion Lefi: Gerson, Cohath, a Merari.

2. Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel.

3. Plant Amram: Aaron, Moses, a Miriam. Meibion Aaron: Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar.

4. Eleasar oedd tad Phinees, Phinees oedd tad Abisua,

5. Abisua oedd tad Bucci, Bucci oedd tad Ussi,

6. Ussi oedd tad Seraheia, Seraheia oedd tad Meraioth.

7. Meraioth oedd tad Amareia, Amareia oedd tad Ahitub,

8. Ahitub oedd tad Sadoc, Sadoc oedd tad Ahimaas,

9. Ahimaas oedd tad Asareia, Asareia oedd tad Johanan,

10. Johanan oedd tad Asareia (yr oedd ef yn offeiriad yn y tŷ a adeiladodd Solomon yn Jerwsalem);

11. Asareia oedd tad Amareia, Amareia oedd tad Ahitub,

12. Ahitub oedd tad Sadoc, Sadoc oedd tad Salum,

13. Salum oedd tad Hilceia, Hilceia oedd tad Asareia,

14. Asareia oedd tad Seraia, Seraia oedd tad Jehosadac.

15. Aeth Jehosadac i ffwrdd pan gaethgludodd yr ARGLWYDD Jwda a Jerwsalem o dan Nebuchadnesar.

16. Meibion Lefi: Gersom, Cohath, a Merari.

17. Dyma enwau meibion Gersom: Libni a Simei.

18. Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel.

19. Meibion Merari: Mahli a Musi.

20. Dyma dylwyth y Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd. I Gersom: Libni ei fab, Jahath ei fab yntau, Simma ei fab yntau,

21. Joa ei fab yntau, Ido ei fab yntau, Sera ei fab yntau, a Jeaterai ei fab yntau.

22. Meibion Cohath: Aminadab ei fab, Cora ei fab yntau, Assir ei fab yntau,

23. Elcana ei fab yntau, Ebiasaff ei fab yntau, Assir ei fab yntau.

24. Tahath ei fab yntau, Uriel ei fab yntau, Usseia ei fab yntau, a Saul ei fab yntau.

25. Meibion Elcana: Amasai ac Ahimoth,

26. Elcana, Ben-elcana, Soffai ei fab, a Nahath ei fab yntau,

27. Eliab ei fab yntau, Jeroham ei fab yntau, Elcana ei fab yntau.

28. Meibion Samuel: Fasni y cyntafanedig, ac Abeia.

29. Meibion Merari: Mahli, Libni ei fab yntau, Simei ei fab yntau, Ussa ei fab yntau,

30. Simea ei fab yntau, Haggia ei fab yntau, Asaia ei fab yntau.

Cantorion Tŷ yr ARGLWYDD

31. Dyma'r rhai a wnaeth Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr ARGLWYDD ar ôl gosod yr arch yno,

32. A buont yn gwasanaethu fel cantorion o flaen tabernacl pabell y cyfarfod nes i Solomon adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, ac yn gwneud eu gwaith yn ôl y drefn a osodwyd iddynt.

33. Dyma'r rhai oedd yn y swydd hon a'u meibion. Meibion y Cohathiaid: Heman y cantor, mab Joel fab Semuel,

34. fab Elcana, fab Jeroham, fab Eliel, fab Toa,

35. fab Suff, fab Elcana, fab Mahath, fab Amasai,

36. fab Elcana, fab Joel, fab Asareia, fab Seffaneia,

37. fab Tahath, fab Assir, fab Ebiasaff, fab Cora,

38. fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, fab Israel.

39. Yr oedd ei frawd Asaff yn sefyll ar ei law dde: Asaff fab Berecheia, fab Simea,

40. fab Michael, fab Baaseia, fab Malcheia,

41. fab Ethni, fab Sera, fab Adaia,

42. fab Ethan, fab Simma, fab Simei,

43. fab Jahath, fab Gersom, fab Lefi.

44. Yr oedd eu brodyr, meibion Merari, ar y llaw aswy: Ethan fab Cisi, fab Abdi, fab Maluc,

45. fab Hasabeia, fab Amaseia, fab Hilceia,

46. fab Amsi, fab Bani, fab Samer,

47. fab Mahli, fab Musi, fab Merari, fab Lefi.

48. Yr oedd eu brodyr y Lefiaid yn gyfrifol am holl wasanaeth tabernacl tŷ Dduw.

Disgynyddion Aaron

49. Ond Aaron a'i feibion oedd yn aberthu ar allor y poethoffrwm ac ar allor yr arogldarth, sef holl waith y cysegr sancteiddiaf, ac yn gwneud cymod dros Israel yn union fel y gorchmynnodd Moses gwas Duw.

50. Dyma feibion Aaron: Eleasar ei fab, Phinees ei fab yntau, Abisua ei fab yntau,

51. Bucci ei fab yntau, Ussi ei fab yntau, Seraheia ei fab yntau,

52. Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau,

53. Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.

Trigleoedd y Lefiaid

54. Dyma lle'r oeddent yn byw y tu mewn i ffiniau eu tiriogaeth: i deulu'r Cohathiaid o feibion Aaron (am fod y coelbren wedi syrthio arnynt hwy)

55. rhoesant Hebron yng ngwlad Jwda a'r cytir o'i hamgylch;

56. ond rhoesant feysydd y ddinas a'i phentrefi i Caleb fab Jeffunne.

57. I feibion Aaron fe roesant y dinasoedd noddfa, sef Hebron, Libna, Jattir, Estemoa,

58. Hilen, Debir, Asan,

59. a Beth-semes, pob un gyda'i chytir;

60. Ac o lwyth Benjamin rhoesant Geba, Alemeth ac Anathoth, pob un gyda'i chytir; cyfanswm o dair dinas ar ddeg yn ôl eu teuluoedd.

61. I weddill teuluoedd meibion Cohath rhoesant trwy goelbren ddeg dinas o hanner llwyth Manasse.

62. I feibion Gersom yn ôl eu teuluoedd rhoesant dair ar ddeg o ddinasoedd o lwythau Issachar, Aser, Nafftali, Manasse yn Basan.

63. I feibion Merari yn ôl eu teuluoedd, o lwythau Reuben, Gad, Sabulon, rhoesant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd.

64. Rhoes meibion Israel i'r Lefiaid y dinasoedd hyn, pob un gyda'i chytir.

65. Rhoesant trwy goelbren, o lwythau Jwda, Simeon, a Benjamin, y dinasoedd hyn oedd wedi eu galw ar eu henwau.

66. I rai o deuluoedd y Cohathiaid fe roddwyd dinasoedd o fewn terfyn llwyth Effraim.

67. Rhoesant iddynt ym mynydd-dir Effraim: Sichem, dinas noddfa; Geser,

68. Jocmeam a Beth-horon,

69. Ajalon, Gath-rimmon, pob un gyda'i chytir.

70. Ac o hanner llwyth Manasse rhoddwyd i weddill y Cohathiaid: Aner a Bileam, pob un gyda'i chytir.

71. I feibion Gersom rhoddwyd: o hanner llwyth Manasse, Golan yn Basan ac Astaroth, pob un gyda'i chytir;

72. o lwyth Issachar, Cedes, Daberath,

73. Ramoth, Anem, pob un gyda'i chytir;

74. o lwyth Aser: Masal, Abdon,

75. Hucoc, Rehob, pob un gyda'i chytir;

76. o lwyth Nafftali: Cedes yng Ngalilea, Hammon, Ciriathaim, pob un gyda'i chytir.

77. I'r rhan arall o feibion Merari rhoddwyd o lwyth Sabulon: Rimmon a Tabor, pob un gyda'i chytir.

78. O'r Iorddonen a Jericho, sef o du dwyrain yr Iorddonen, rhoddwyd o lwyth Reuben: Beser yn yr anialwch, Jahas,

79. Cedemoth a Meffaath, pob un gyda'i chytir,

80. o lwyth Gad: Ramoth yn Gilead, Mahanaim,

81. Hesbon a Jaser, pob un gyda'i chytir.