Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Disgynyddion y Brenin Dafydd

1. Dyma feibion Dafydd. Ganwyd iddo yn Hebron: y cyntafanedig, Amnon, o Ahinoam y Jesreeles; yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles;

2. y trydydd, Absalom, mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur, y pedwerydd, Adoneia, mab Haggith;

3. y pumed, Seffateia, o Abital; y chweched, Ithream, o'i wraig Egla.

4. Ganwyd y chwech yma iddo yn Hebron, lle bu'n teyrnasu am saith mlynedd a chwe mis.

5. Teyrnasodd yn Jerwsalem am dair blynedd ar ddeg ar hugain, ac yno fe anwyd y rhain iddo: Simea, Sobab, Nathan a Solomon; Bathsua ferch Ammiel oedd mam y pedwar.

6. Hefyd naw arall, sef Ibhar, Elisama, Eliffelet,

7. Noga, Neffeg, Jaffia,

8. Elisama, Eliada, Eliffelet, naw.

9. Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd; Tamar oedd eu chwaer.

Disgynyddion y Brenin Solomon

10. Rehoboam oedd mab Solomon; Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; Jehosaffat ei fab yntau;

11. Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau;

12. Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau;

13. Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau;

14. Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau.

15. Meibion Joseia: Johanan, y cyntafanedig; yr ail, Joacim; y trydydd, Sedeceia; y pedwerydd, Salum.

16. Meibion Joacim: Jechoneia a Sedeceia.

Disgynyddion y Brenin Jechoneia

17. Meibion Jechoneia'r carcharor: Salathiel,

18. Malciram, Pedaia, Senasar, Jecameia, Hosama, Nedabeia.

19. Meibion Pedaia: Sorobabel a Simei. Meibion Sorobabel: Mesulam a Hananeia; Selomith oedd eu chwaer hwy,

20. ac yna Hasuba, Ohel, Berecheia, Hasadeia, Jusab-hesed, pump.

21. Meibion Hananeia: Pelatia a Jesaia. Meibion Reffaia: Arnan, Obadeia, Sechaneia.

22. Mab Sechaneia: Semaia. Meibion Semaia: Hattus, Igal, Bareia, Nearia, Saffat, chwech.

23. Meibion Nearia: Elioenai, Heseceia, Asricam, tri.

24. Meibion Elioenai: Hodaia, Eliasib, Pelaia, Accub, Johanan, Dalaia, Anani, saith.