Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Disgynyddion Reuben

1. Dyma feibion Reuben, cyntafanedig Israel. (Ef yn wir oedd y cyntafanedig, ond am iddo halogi gwely ei dad rhoddwyd ei enedigaeth-fraint i feibion Joseff, fab Israel,

2. ac felly ni restrir yr achau yn ôl yr enedigaeth-fraint. Er bod Jwda wedi rhagori ar ei frodyr, ac arweinydd wedi tarddu ohono, Joseff a gafodd yr enedigaeth-fraint.)

3. Meibion Reuben, cyntafanedig Israel: Enoch, Palu, Hesron, Carmi.

4. Meibion Joel: Semaia ei fab, Gog ei fab yntau, Simei ei fab yntau,

5. Micha ei fab yntau, Reaia ei fab yntau, Baal ei fab yntau,

6. Beera ei fab yntau a gaethgludodd Tiglath-pileser brenin Asyria; ef oedd pennaeth y Reubeniaid.

7. Dyma'i frodyr yn ôl eu teuluoedd ac yn ôl achau eu cenedlaethau: Jeiel y pennaeth, Sechareia, Bela fab Asas, fab Sema, fab Joel.

8. Bu'r rhain yn byw yn Aroer a chyn belled â Nebo a Baal-meon.

9. Tua'r dwyrain yr oedd eu tir yn cyrraedd at ymylon yr anialwch sy'n ymestyn o afon Ewffrates, oherwydd yr oedd eu hanifeiliaid wedi cynyddu yng ngwlad Gilead.

10. Yn ystod teyrnasiad Saul, aethant i ryfel yn erbyn yr Hagariaid a'u trechu, a byw yn eu pebyll trwy holl ddwyrain Gilead.

Disgynyddion Gad

11. Dyma feibion Gad oedd yn byw nesaf atynt yng ngwlad Basan hyd at Salcha: Joel y pennaeth,

12. Saffam yr ail, Jaanai, Saffat.

13. Eu brodyr hwy o dŷ eu hynafiaid: Michael, Mesulam, Seba, Jorai, Jacan, Sïa, Heber, saith.

14. Meibion Abihail: Ben-huri, Ben-jaroa, Ben-gilead, Ben-michael, Ben-jesisai, Ben-jahdo, Ben-bus.

15. Ahi fab Abdiel, fab Guni, oedd y penteulu.

16. Yr oeddent hwy yn byw yn Gilead ac ym mhentrefi Basan, a thrwy holl gytir Saron o un terfyn i'r llall.

17. Cafodd y rhain i gyd eu rhestru yn ôl eu hachau yn nyddiau Jotham brenin Jwda a Jeroboam brenin Israel.

Y Llwythau Dwyreiniol

18. Ymysg meibion Reuben a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse yr oedd pedair mil a deugain, saith gant a thrigain o wŷr cryfion yn cario tarian a chleddyf ac yn tynnu bwa; yr oeddent wedi dysgu ymladd, ac yn barod i fynd allan i ryfel.

19. Buont yn ymladd yn erbyn yr Hagariaid, Jetur, Neffis, a Nodab.

20. Fe gawsant help yn eu herbyn, a gorchfygu'r Hagariaid a phawb oedd gyda hwy, oherwydd iddynt alw ar Dduw yn y frwydr ac iddo yntau wrando arnynt am eu bod yn ymddiried ynddo.

21. Cymerasant o'u hanifeiliaid yn ysbail: hanner can mil o'u camelod, hanner can mil a dau gant o ddefaid, dwy fil o asynnod, a hefyd can mil o bobl.

22. (Am mai rhyfel Duw oedd hwn, yr oedd llawer wedi marw o'u clwyfau.) A buont yn byw yno yn eu lle hyd gyfnod y gaethglud.

23. Yr oedd hanner llwyth Manasse yn byw yn y tir rhwng Basan, Baal-hermon, Senir a Mynydd Hermon, ac yr oedd llawer ohonynt.

24. Y rhain oedd eu pennau-teuluoedd: Effer, Isi, Eliel, Asriel, Jeremeia, Hodafia, Jadiel; gwŷr blaenllaw ac enwog oedd y pennau-teuluoedd hyn.

25. Ond buont yn anffyddlon i Dduw eu hynafiaid, a phuteinio gyda duwiau pobl y wlad yr oedd Duw wedi eu dinistrio o'u blaenau.

26. Felly anogodd Duw Israel Pul, hynny yw Tiglath-pileser brenin Asyria, i fynd â'r Reubeniaid a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse i gaethglud. Aeth yntau â hwy i Hala, Habor, Hara ac afon Gosan, ac yno y maent hyd heddiw.