1. Adda, Seth, Enos,
2. Cenan, Mahalalel, Jered,
3. Enoch, Methwsela, Lamech,
4. Noa, Sem, Cham a Jaffeth.
5. Meibion Jaffeth: Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, Tiras.
6. Meibion Gomer: Ascenas, Riffath, Togarma.
7. Meibion Jafan: Elisa, Tarsis, Chittim, Dodanim.
8. Meibion Cham: Cus, Misraim, Put, Canaan.
9. Meibion Cus: Seba, Hafila, Sabta, Raama a Sabteca. Meibion Raama: Seba a Dedan.
10. Cus oedd tad Nimrod; hwn oedd y cyntaf o gedyrn y ddaear.
11. Misraim oedd tad Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim,
12. Pathrusim, Casluhim a Cafftorim, y tarddodd y Philistiaid ohonynt.
13. Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth,
14. a'r Jebusiaid, yr Amoriaid, y Girgasiaid,
15. yr Hefiaid, yr Arciaid, y Siniaid,
16. yr Arfadiaid, y Semaniaid a'r Hamathiaid.
17. Meibion Sem: Elam, Assur, Arffacsad, Lud, Aram, Us, Hul, Gether, Mesech.
18. Arffacsad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber.
19. I Heber y ganwyd dau fab; enw un oedd Peleg, oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear, a Joctan oedd enw ei frawd.
20. Joctan oedd tad Almodad, Seleff, Hasar-mafeth, Jera,
21. Hadoram, Usal, Dicla,
22. Ebal, Abimael, Seba,
23. Offir, Hafila, Jobab; yr oedd y rhain i gyd yn feibion Joctan.
24. Sem, Arffacsad, Sela,
25. Heber, Peleg, Reu,
26. Serug, Nachor, Tera,
27. Abram, sef Abraham.
28. Meibion Abraham: Isaac ac Ismael,
29. a dyma eu cenedlaethau: Nebaioth, cyntafanedig Ismael, yna Cedar, Adbeel, Mibsam,
30. Misma, Duma, Massa, Hadad, Tema,
31. Jetur, Naffis, Cedema. Dyma feibion Ismael.
32. Yr oedd Cetura, gordderchwraig Abraham, yn fam i Simran, Jocsan, Medan, Midian, Ibac, Sua. Meibion Jocsan: Seba a Dedan.
33. Meibion Midian: Effa, Effer, Enoch, Abida, Eldaa; yr oedd y rhain i gyd yn blant Cetura.
34. Abraham oedd tad Isaac. Meibion Isaac: Esau ac Israel.
35. Meibion Esau: Eliffas, Reuel, Jeus, Jalam, Cora.
36. Meibion Eliffas: Teman, Omar, Seffi, Gatam, Cenas, Timna, Amalec.
37. Meibion Reuel: Nahath, Sera, Samma, Missa.
38. Meibion Seir: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana, Dison, Eser, Disan.
39. Meibion Lotan: Hori, Homam; a chwaer Lotan oedd Timna.
40. Meibion Sobal: Alïan, Manahath, Ebal, Seffi, Onam. Meibion Sibeon: Aia ac Ana.
41. Mab Ana: Dison. Meibion Dison: Amram, Esban, Ithran, Ceran.
42. Meibion Eser: Bilhan, Safan, Jacan. Meibion Dison: Us ac Aran.
43. Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom cyn i'r Israeliaid gael brenin: Bela fab Beor; enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.
44. Bu farw Bela, a theyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le.
45. Bu farw Jobab, a theyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le.
46. Bu farw Husam, a theyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le; ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab, ac Afith oedd enw ei ddinas.
47. Bu farw Hadad, a theyrnasodd Samla o Masreca yn ei le.
48. Bu farw Samla, a theyrnasodd Saul o Rehoboth-ger-Ewffrates yn ei le.
49. Bu farw Saul, a theyrnasodd Baal-hanan fab Achbor yn ei le.
50. Bu farw Baal-hanan, a theyrnasodd Hadad yn ei le, a Pai oedd enw ei ddinas. Mehetabel ferch Matred, merch Mesahab, oedd enw ei wraig.
51. Bu farw Hadad; yna daeth penaethiaid ar Edom: y penaethiaid Timna, Alia, Jetheth,
52. Aholibama, Ela, Pinon,
53. Cenas, Teman, Mibsar,
54. Magdiel, Iram; y rhain oedd penaethiaid Edom.